Canllawiau

Ryddhadau treth a lwfansau ar gyfer busnesau, cyflogwyr a’r hunangyflogedig

Dysgwch am y rhyddhadau treth a’r lwfansau sydd ar gael gan CThEF os ydych yn rhedeg busnes, yn cyflogi pobl neu’n hunangyflogedig.

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae’n bwysig eich bod yn gwybod pa ryddhadau treth a lwfansau ariannol eraill sydd ar gael gan CThEF.

Mae’r dudalen hon yn cynnig crynodeb o bethau y gallech fod eisiau eu harchwilio i’ch helpu i fynd ati’n gyfreithlon i gadw mwy o’r hyn rydych yn ei ennill.

Mae’n bwysig iawn aros ar ben eich materion treth — gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch cyn gynted ag y gallwch a siaradwch â ni cyn gynted â phosibl os na allwch dalu. 

Os ydych yn hunangyflogedig neu’n rhedeg busnes

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio’r gwahanol lwfansau a rhyddhadau a allai fod ar gael i chi.

Treuliau busnes y gellir didynnu treth oddi wrthynt

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg. Gallwch ddidynnu rhai o’r rhain fel rhan o’ch Ffurflen Dreth flynyddol i gyfrifo’ch elw trethadwy, cyn belled â’u bod yn dreuliau caniataol.

Mae’r rhestr o dreuliau y gellir didynnu treth oddi wrthynt yn hir, ond mae’n cynnwys pethau fel deunydd ysgrifennu, yswiriant a chostau banc, a hyd yn oed costau gwresogi a goleuo’ch swyddfa neu safle’ch busnes, gan gynnwys swyddfeydd cartref.

Credydau treth ar gyfer Ymchwil a Datblygu

Os yw’ch cwmni’n rhan o brosiectau arloesol ym maes gwyddoniaeth neu dechnoleg, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio rhyddhadau Ymchwil a Datblygu (R&D). Gall cwmnïau sy’n gwneud neu’n ymchwilio i ddatblygiad yn eu maes hawlio’r rhain. Gellir eu hawlio hyd yn oed ar brosiectau aflwyddiannus.

Rhodd Cymorth

Gall cwmnïau (a chymdeithasau anghorfforedig) hawlio rhyddhad treth ar gyfer rhoddion cymwys a dalwyd i elusennau (cyrff neu ymddiriedolaethau a dderbynnir fel elusennau at ddibenion treth y DU).

Rhyddhad rhag trethi busnes

Mae rhai eiddo yn gymwys i gael gostyngiadau gan y cyngor lleol ar eu trethi busnes. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad rhag trethi busnes’.

Darllenwch ragor am ryddhad rhag trethi busnes.

Rhyddhad rhag Treth Gorfforaeth

Gallwch ddidynnu costau rhedeg eich busnes oddi wrth eich elw cyn treth pan fyddwch yn paratoi cyfrifon eich cwmni. Gallai hyn gynnwys pethau fel prynu peiriannau neu offer ar gyfer eich busnes.

Treuliau cyn masnachu

Os ydych ar ganol sefydlu busnes newydd, efallai y byddwch yn gallu hawlio’n ôl rhai o’r treuliau yr aethoch iddynt cyn i chi ddechrau masnachu drwy’ch Ffurflen Dreth gyntaf.

Darllenwch ragor am dreuliau cyn masnachu.

Adennill TAW

Os ydych yn fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch adennill TAW ar eitemau a brynwch i’w defnyddio yn eich busnes. Gwnewch hyn yn eich Ffurflen TAW.

Darllenwch ragor am adennill TAW ar dreuliau busnes.

Cyllidebu i dalu’ch bil treth

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Cynllun Talu Cyllidebol i wneud taliadau rheolaidd yn wythnosol neu’n fisol tuag at eich bil treth nesaf. Mae’n rhaid i’ch taliadau Hunanasesiad blaenorol fod yn gyfredol a gallwch benderfynu faint i’w dalu bob wythnos neu fis.

Sefydlwch eich cynllun gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein CThEF. Ewch i’r adran Debydau Uniongyrchol a dewis yr opsiwn i sefydlu cynllun talu cyllidebol wrth lenwi’r ffurflen Debyd Uniongyrchol.

Y cynllun Blwch Patent

Gallwch ddefnyddio’r Blwch Patent i ostwng eich Treth Gorfforaeth ar elw. Gwiriwch a all eich cwmni dalu Treth Gorfforaeth ar gyfradd is o 10% os yw’n defnyddio dyfeisiadau a newyddbethau â phatent.

Darllenwch ragor am y Blwch Patent.

Os ydych yn cyflogi pobl eraill

Mae sawl ffordd y gall CThEF eich helpu a rhoi cymorth i chi os ydych yn cyflogi pobl.

Lwfans Cyflogaeth

Mae’n bosibl y gallwch hawlio’r Lwfans Cyflogaeth sy’n caniatáu i gyflogwyr cymwys ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol flynyddol hyd at £5,000.

Darllenwch ragor am Lwfans Cyflogaeth.

Hurio prentis

Os byddwch yn hurio prentis, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth pellach gan y llywodraeth.

Darllenwch ragor am gyflogi prentis.

Hurio cyn-filwr

O fis Ebrill 2021 ymlaen, gall unrhyw un sy’n hurio cyn-aelod o Luoedd Arfog y DU yn ystod blwyddyn gyntaf ei gyflogaeth fel sifiliaid gymhwyso cyfradd sero o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol eilaidd (ar gyfer y cyflogai hwnnw) am hyd at 12 mis.

Treuliau treth caniataol

Os ydych yn gyflogwr a’ch bod yn rhoi treuliau neu fuddiannau i gyflogeion neu gyfarwyddwyr, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF a thalu treth ac Yswiriant Gwladol arnynt.

Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau’n cynnwys:

  • ceir cwmni
  • yswiriant iechyd
  • treuliau teithio a gwesteia
  • gofal plant

Rhagor o gymorth a gwybodaeth

Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn gynnar

Does dim rhaid i chi aros tan fis Ionawr i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Gallwch wneud eich treth cyn gynted ag y bydd y flwyddyn dreth yn dod i ben a’i chyflwyno ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae cyflwyno’n gynnar yn cynnig sawl mantais; gallai’ch helpu i reoli’ch biliau treth neu’ch cynllunio ariannol am y flwyddyn drwy ddarganfod faint sydd arnoch, fel y gallwch gynllunio’ch taliadau ac, os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, byddwch yn ei gael yn gynt.

Defnyddio ymgynghorydd neu asiant treth

Os ydych yn ystyried defnyddio asiant treth, rydym yn eich annog i ddarllen telerau ac amodau’r cwmni mewn dogfennau ac ar eu gwefan, fel eich bod yn deall ymlaen llaw y ffioedd y byddwch yn eu talu a’r gwasanaeth rydych yn cofrestru ar ei gyfer.

Dylech ddewis yr asiant treth cywir yn ofalus, oherwydd, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant treth, chi sy’n parhau i fod yn gyfrifol am eich materion treth eich hun.

Os ydych yn cael trafferth talu’ch bil treth

Mae’n bwysig iawn aros ar ben eich materion treth, ond, os nad ydych yn gallu talu’r hyn sydd arnoch, dylech siarad â ni cyn gynted â phosibl.

Darllenwch am yr hyn i’w wneud os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.

Diogelu’ch hun a’ch gwybodaeth

Mae llawer o wahanol fathau o sgamiau sy’n targedu busnesau a’r hunangyflogedig. Mae rhai’n cynnig ad-daliadau treth, tra bo eraill yn bygwth eich arestio. Os cewch neges o’r fath, peidiwch â phoeni — cymerwch eich amser, a pheidiwch â gadael i neb eich rhuthro i rannu unrhyw wybodaeth bersonol.

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol hefyd yn cyhoeddi cyngor ar seiberddiogelwch ar gyfer busnesau o bob maint.

Y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni

Bydd y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni yn darparu rhyddhad ar filiau ynni i gwsmeriaid annomestig — busnesau, sefydliadau sector gwirfoddol a sefydliadau sector cyhoeddus fel ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal — ym Mhrydain Fawr.

Darllenwch ragor am y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni.

Help i Gartrefi

Mae’r llywodraeth hefyd yn cynnig cymorth costau byw i bob aelwyd.

Bwriwch olwg dros y cymorth costau byw y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer, gan gynnwys cymorth gyda biliau ynni, costau trafnidiaeth a gofal plant: Help i Gartrefi.

Cyhoeddwyd ar 12 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 October 2022 + show all updates
  1. Translation added.

  2. First published.