Canllawiau

Carchar Prescoed

Mae Prescoed yn garchar agored i ddynion ac yn sefydliad troseddwyr ifanc (STI) ym mhentref Coed-y-Paen, De Cymru. Mae’n cael ei reoli ar y cyd â Charchar Brynbuga.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Phrescoed

I ymweld â rhywun ym Mhrescoed, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • cael apwyntiad i ymweld
  • bod â’r dogfennau adnabod gofynnol gyda chi pan fyddwch yn ymweld

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Cysylltwch â Phrescoed os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Brescoed
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Ar hyn o bryd mae Prescoed yn gweithredu amserlen ymweliadau gyfyngedig ar gyfer teulu a ffrindiau. Gallwch drefnu eich ymweliad dros y ffôn. Nid oes gwasanaeth archebu ar-lein ar gael.

Llinell archebu: 01291 675 127

Amserau agor y llinell archebu:

  • Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau 9am i 12:00 a 2pm i 4pm
  • Dydd Mercher 2pm i 4pm
  • Dydd Gwener 9am i 12:00

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul: 2pm i 4pm

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Rhaid trefnu ymweliadau cyfreithiol dros y ffôn.

Llinell archebu: 01291 675 131
Gwybodaeth am gost galwadau

Bydd y llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 5pm a 7pm.

Cyrraedd Prescoed

Dod o hyd i Brescoed ar fap

Mae Prescoed tua 5 milltir o orsafoedd Pont-y-pŵl, New Inn a Chwmbrân. Does dim gwasanaethau bws lleol felly bydd angen i chi gymryd tacsi o’r orsaf i Brescoed.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch Ymholiadau National Rail.

Mae llefydd parcio ar gael, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Mynd i mewn i Brescoed

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ddogfennau adnabod wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os ydych yn gwisgo eitemau fel dillad sy’n dangos cnawd neu ddillad gyda sloganau sarhaus. Holwch yn y ganolfan ymwelwyr os oes gennych chi gwestiynau am wisg briodol.

Caniateir i bob ymwelydd sy’n oedolyn fynd â £20 i mewn i’r carchar ar gyfer prynu bwyd a diod o’r siop goffi yn y neuadd ymweld.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Brescoed. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT). Gall teulu a ffrindiau ymlacio a chael cyngor a chefnogaeth gan y staff.

Ni fydd lluniaeth na lle chwarae i blant ar gael yn ystod eich ymweliad.

Mae’r ganolfan yn agor am 1:15pm ar ddiwrnodau ymweld.

Ffôn: 01291 675 056
Gwybodaeth am gost galwadau

Diwrnodau teulu

Does dim diwrnodau teulu ar gael ar hyn o bryd. ##Cadw mewn cysylltiad â rhywun ym Mhrescoed

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser ym Mhrescoed.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Nid oes gan breswylwyr ffonau yn eu hystafelloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu rhwng 6am a 11:55pm yn ddyddiol. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun ym Mhrescoed drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y preswylydd, yn dibynnu ar y rheolau ym Mhrescoed.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Phrescoed.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Gallwch hefyd anfon archebion post a sieciau. Dylid gwneud y rhain yn daladwy i ‘NOMS Agency’ a chynnwys enw a rhif carcharor y preswylydd ar y cefn.

Rhoddion a pharseli

Nid yw Prescoed fel arfer yn derbyn eitemau a anfonir i breswylwyr drwy’r post. Gall preswylwyr wneud cais am ganiatâd o dan amgylchiadau arbennig.

Gallwch anfon arian at breswylwyr yn lle hynny y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.

Cysylltwch â Phrescoed i gael rhagor o wybodaeth.

Bywyd ym Mhrescoed

Mae Prescoed wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person ym Mhrescoed hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Prescoed am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Prescoed yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cael sgyrsiau gan rai o’r llywodraethwyr ac yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 230 o ddynion yn byw ym Mhrescoed, ar draws 11 bloc llety. Mae yna gymysgedd o ystafelloedd sengl a rhai a rennir. Ceir cyfleusterau bwyta, llyfrgell a siop barbwr.

Mae gan breswylwyr fynediad at gampfa a neuadd chwaraeon a gallant gymryd rhan mewn rhaglen amrywiol o weithgareddau.

Mae gan Brescoed hefyd dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i breswylwyr.

Addysg a gwaith

Mae gan breswylwyr fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu, yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel Cymraeg, Saesneg a mathemateg, i ddysgu a chymwysterau uwch. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant mewn amrywiaeth o grefftau a phroffesiynau, yn cynnwys:

  • iechyd a diogelwch
  • diogelwch bwyd
  • sgiliau cyfrifiadurol
  • ymwybyddiaeth o gyffuriau
  • gosod brics
  • torri gwallt

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ym Mhrescoed yn cael ei ddarparu gan Fferm leol Cilwrgi, lle mae trigolion yn cyflawni amrywiaeth o rolau ac yn ennill profiad a chymwysterau proffesiynol.

Gall preswylwyr hefyd ddilyn cyrsiau ar ailgylchu a rheoli gwastraff yn yr uned rheoli gwastraff.

Rhyddhau dros dro

Gellir ystyried rhyddhau preswylwyr dros dro gyda’r archwiliadau a’r cynllunio priodol. Gellir caniatáu rhyddhau yn ystod y dydd a rhyddhau dros nos i helpu preswylwyr i gynnal cysylltiadau teuluol a chymunedol a pharatoi ar gyfer gadael y carchar.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth ym Mhrescoed

Darperir gwasanaethau teulu ym Mhrescoed gan G4S.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Phrescoed. Os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Prescoed mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Phrescoed

Llywodraethwr: Rob Denman

Ffôn (24 awr): 01291 675 000
Ffacs: 01291 675 158
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

Carchar Ei Fawrhydi Prescoed
Coed-y-Paen
Pont-y-pŵl
Sir Fynwy
NP4 0TB

Gweler y map

Llinell gymorth dalfa mwy diogel

Os oes gennych chi bryderon am ddiogelwch neu les dyn ym Mhrescoed, ffoniwch y porthdy a gofynnwch am gael siarad â’r swyddog negesau neu’r llywodraethwr ar ddyletswydd.

Ffôn (24 awr): 01291 671 731
Gwybodaeth am gost galwadau

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Cyhoeddwyd ar 24 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 February 2024 + show all updates
  1. Updated family days, visiting facilities, concerns problems and complaints.

  2. Added translation

  3. Updated Governor

  4. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  5. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  6. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  7. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  8. New visiting times and booking information added.

  9. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  10. Updated visiting information.

  11. Updated visting information for family and friends

  12. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions. 

  13. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  14. Updated: HMP Prescoed visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.

  15. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  16. added survey link

  17. Visit information update

  18. First published.