Canllawiau

Gweithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu gan elusennau

Y rheolau ar gyfer elusennau sydd eisiau cefnogi, neu wrthwynebu, newid ym mholisi’r llywodraeth neu’r gyfraith.

Applies to England and Wales

Gweithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu gan elusennau

Fel ymddiriedolwr rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich elusen yn dilyn y rheolau ar weithgaredd gwleidyddol ac ymgyrchu.

Felly, sicrhewch bod unrhyw staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar ymgyrchoedd yn deall y rheolau. Hyd yn oed os byddwch yn dirprwyo’r gweithgareddau hyn, chi sy’n parhau i fod yn gyfrifol.

Yr hyn rydym yn golygu wrth ‘weithgaredd gwleidyddol’

Mae’r Comisiwn Elusennau yn defnyddio’r term ‘gweithgaredd gwleidyddol’ i ddisgrifio gweithgareddau neu ymgyrchu i newid neu ddylanwadu ar bolisïau neu benderfyniadau a wneir gan:

  • lywodraeth genedlaethol, ddatganoledig, leol neu dramor.
  • gyrff cyhoeddus gan gynnwys sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig a Banc y Byd, a sefydliadau cenedlaethol neu leol fel rheoleiddwyr neu Ymddiriedolaethau GIG

Er enghraifft, byddai elusen ar gyfer pobl ddigartref yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol pe bai’n dadlau dros newid yn y polisi a’r gyfraith ar sut y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu oherwydd effaith y system bresennol ar bobl ddigartref.

A byddai elusen â’r pwrpas o warchod yr amgylchedd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol pe bai’n dechrau perswadio llywodraeth dramor i leihau faint o dorri coed a datgoedwigo yn eu gwlad.

Gallwch fod yn gweithio â gwahanol bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol, fel:

  • gwleidyddion, ymgeiswyr gwleidyddol neu weision cyhoeddus
  • y cyhoedd i gael cefnogaeth neu wrthwynebiad i newid

Y rheolau ar weithgaredd gwleidyddol

Gall elusennau gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol sy’n cefnogi eu pwrpas ac sydd er eu budd pennaf.

Gall fod sefyllfaoedd lle mai cyflawni gweithgaredd gwleidyddol yw’r ffordd orau i ymddiriedolwyr gefnogi diben eu helusen. Fodd bynnag, ni ddylai gweithgaredd gwleidyddol ddod yn rheswm dros fodolaeth yr elusen.

Mae’n rhaid i elusennau aros yn annibynnol ac mae’n rhaid iddynt beidio â rhoi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol.

Mae pŵer gan rai elusennau yn eu dogfen lywodraethol i esbonio sut y gallant gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol. Nid oes angen pŵer penodol arnoch ond gall helpu os yw gweithgaredd gwleidyddol yn rhan allweddol o’ch gwaith, er enghraifft ar gyfer rhai elusennau hawliau dynol.

Mae gan rai elusennau gyfyngiadau yn eu dogfen lywodraethol sy’n atal gweithgaredd gwleidyddol. Gwiriwch eich dogfen lywodraethol am unrhyw gyfyngiadau o’r fath.

Cymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol

Dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol

Gallwch gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol, ond mae’n rhaid i hyn gefnogi’r gwaith o gyflawni diben eich elusen.

Er enghraifft, gallai ymddiriedolwyr elusen sydd â’r diben o gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl benderfynu ymgyrchu am ragor o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl y GIG i helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n cael gofal iechyd meddwl pan fydd ei angen arnynt.

Ni allai ymddiriedolwyr elusen sydd â’r diben o redeg gwarchodfa anifeiliaid ac ailgartrefu anifeiliaid crwydr benderfynu ymgyrchu dros hawliau dynol dramor, nad yw, er eu bod yn ystyried yn achos gwerthfawr, yn hyrwyddo diben yr elusen o redeg gwarchodfa anifeiliaid.

I’ch helpu i wneud eich penderfyniad, dylech:

  • weithredu o fewn dogfen lywodraethol eich elusen
  • weithredu’n onest ac er budd eich elusen yn unig
  • bod digon o wybodaeth gennych, gan gymryd unrhyw gyngor sydd ei angen arnoch
  • ystyried y ffactorau perthnasol yn unig
  • reoli unrhyw wrthdaro buddiannau
  • gwneud penderfyniad sydd o fewn amrediad o benderfyniadau y gallai corff rhesymol o ymddiriedolwyr ei wneud

A defnyddiwch yr egwyddorion hyn wrth benderfynu sut rydych am ymgysylltu ac wrth adolygu’r cynnydd y mae’r elusen yn ei wneud.

Rheoli’r elusen yn gyfrifol

Mae’n rhaid i chi hefyd ystyried yn rheolaidd effaith eich gweithgaredd gwleidyddol ar asedau’r elusen gan gynnwys ei henw da, yn enwedig pan allai ddenu diddordeb cyhoeddus sylweddol neu feirniadaeth. Gall y potensial ar gyfer beirniadaeth gael ei liniaru gan yr elusen gan sicrhau ei fod yn cynnal ei gweithgaredd â pharch a goddefgarwch.

Ar gyfer pob gweithgaredd gwleidyddol, ond yn enwedig gweithgareddau risg uchel, sicrhewch eich bod yn gallu dangos:

  • y bydd yn hyrwyddo diben eich elusen ac y bydd er lles gorau iddi
  • y bydd yr elusen yn gallu aros yn annibynnol ar ragfarn plaid wleidyddol
  • y gallwch chi gyfiawnhau’r adnoddau sydd eu hangen
  • y buddion posibl yn gorbwyso’r risgiau
  • y gallwch gyfiawnhau unrhyw ddefnydd o ddeunydd dadleuol a’ch bod wedi ystyried y risgiau cysylltiedig a’r gofynion cyfreithiol
  • y gallwch gydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau eraill sy’n berthnasol, er enghraifft ar hysbysebu, athrod ac enllib

Os bydd pethau’n mynd o’u lle

Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le yn ddifrofol, gall y Comisiwn neu’r llysoedd ymchwilio i sut y gwnaethoch reoli’r elusen, gwneud eich penderfyniadau, a chydymffurfio â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr.

Nid yw’r Comisiwn yn disgwyl i chi fod yn arbenigwyr cyfreithiol, ond byddwn yn ystyried yr hyn y gallech fod wedi’i wybod yn rhesymol neu wedi’i ddarganfod pan wnaethoch eich penderfyniadau. Dilynwch yr egwyddorion uchod a chadwch gofnodion ysgrifenedig i ddangos sut y daethoch i’ch penderfyniadau.

Gweithio â gwleidyddion

Gall elusennau gefnogi polisi a gefnogir gan blaid wleidyddol neu ymgeisydd wleidyddol. Gallwch weithio â phleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr i ddylanwadu ar eu penderfyniadau, ar yr amod bod hyn yn cefnogi diben eich elusen a bod eich elusen yn parhau i fod yn annibynnol.

Er enghraifft, gallwch:

  • gael cyfarfodydd â’ch Aelod Seneddol (AS) neu ffigurau gwleidyddol eraill
  • gymryd rhan mewn trafodaethau polisi mewn cynhadledd plaid
  • ofyn i AS neu gynghorydd lleol siarad yn lansiad prosiect newydd gan eich elusen

Cadwch yn annibynnol drwy:

  • ofyn i’r ffigurau gwleidyddol rydych yn ymgysylltu â nhw i beidio â hyrwyddo negeseuon plaid wleidyddol yn eich digwyddiadau neu adeiladau
  • geisio ymgysylltu’n gyfartal â’r holl brif bleidiau gwleidyddol

Os yw eich elusen bob amser yn ymgysylltu ag un blaid neu berson yn unig, gallai hyn godi amheuaeth os yw eich elusen yn niwtral yn wleidyddol.

Ni ddylai elusennau byth:

  • ddarparu arian neu adnoddau eraill i unrhyw un sy’n sefyll fel ymgeisydd
  • hyrwyddo ymgeisydd neu blaid wleidyddol arbennig

Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych yn cyflawni gweithgaredd gwleidyddol yn y cyfnod rhwng cyhoeddi a chynnal etholiad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllaw Elusennau, Etholiadau a Refferenda.

Ymgyrchu arall

Mae elusennau yn aml yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd eraill nad ydynt yn weithgaredd gwleidyddol. Mae’n rhaid i’r math hwn o ymgyrchu hybu diben eich elusen hefyd.

Gallai gynnwys addysgu’r cyhoedd neu godi ymwybyddiaeth am fater penodol. Er enghraifft, gallai elusen iechyd hyrwyddo manteision deiet cytbwys.

Gallai hefyd gynnwys sicrhau bod polisïau a chyfreithiau presennol yn cael eu dilyn, heb geisio eu newid. Er enghraifft, gallai elusen anabledd ymgyrchu i sicrhau bod plant yn cael popeth mae ganddynt hawl iddo o dan y cyfreithiau presennol.

Yn aml gall gweithgaredd gwleidyddol ac ymgyrchu fod yn wahanol rannau o ffocws parhaus ar fater arbennig neu ddiben elusennol.

Mae llawer o’r rheolau sy’n berthnasol i gyflawni gweithgaredd gwleidyddol hefyd yn berthnasol i ymgyrchu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllaw Ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol.

Cyhoeddwyd ar 12 October 2022