Canllawiau

Cyfarwyddyd ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol i elusennau (CC9)

Beth mae angen i elusennau ystyried wrth ymgyrchu neu gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol. Mae hyn hefyd yn cynnwys canllawiau ar Etholiadau a Refferenda.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Canllawiau er mwyn cynghori elusennau i ba raddau y gallant gymryd rhan mewn ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol.

Gall elusennau ymgyrchu i gyflawni eu dibenion. Ond ni all elusen:

  • gael pwrpas gwleidyddol, neu
  • ymgymryd â gweithgaredd gwleidyddol nad yw’n berthnasol at ddibenion elusennol yr elusen

Rhaid i ymddiriedolwyr beidio â chaniatáu i’r elusen gael ei ddefnyddio fel cyfrwng i fynegi barn bersonol neu bleidiol wleidyddol gan unrhyw ymddiriedolwr unigol neu aelod o staff.

Rhaid i ymddiriedolwyr elusen bwyso a mesur y buddion posibl yn ofalus yn erbyn y costau a’r risgiau wrth benderfynu os yw’r ymgyrch yn debygol o fod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo neu gefnogi dibenion yr elusen. Dylent feddwl pa gyfreithiau all fod yn berthnasol i’w dulliau ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol arfaethedig.

Fe all elusennau sy’n cynnal ymgyrchu neu weithgaredd gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd fod eisiau darllen ein canllawiau ar Elusennau a chyfryngau cymdeithasol.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2008
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 November 2022 + show all updates
  1. Guidance has been reviewed and updated following the passing of the new Elections Act 2022.

  2. First published.