Canllawiau

Elusennau, Etholiadau a Refferenda

Diweddarwyd 7 November 2022

Applies to England and Wales

Mae’r canllaw hwn i’w ddefnyddio gan elusennau yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddi etholiad, a’r dyddiad y cynhelir etholiad. Mae’n berthnasol i etholiadau cenedlaethol a lleol. Mae yna hefyd adran sy’n ymdrin â refferenda cenedlaethol.

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’n canllaw manylach ar bwnc ehangach canllawiau ymgyrchu a gweithgarwch gwleidyddol i elusennau (CC9). Mae’r egwyddorion a ddisgrifir yn CC9 yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod cyfnod etholiad.

Mae’r canllaw hwn yn cyd-fynd â gofynion eraill, megis y gyfraith etholiadol, sy’n gymwys i elusennau a sefydliadau nad ydynt yn elusennau fel ei gilydd. Rhestrir y Deddfau Seneddol allweddol o dan Cyfeiriad Pellach.

Mae natur annibynnol y sector elusennol o bwysigrwydd sylfaenol i gymdeithas, ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cyhoedd. Egwyddor arweiniol y gyfraith elusennau o ran etholiadau yw bod yn rhaid i elusennau fod yn annibynnol ar wleidyddiaeth plaid, a chael eu gweld i fod yn annibynnol. Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cyngor cyfreithiol ac arfer da i elusennau i helpu i sicrhau eu bod yn gallu:

  • cadw’r ansawdd hanfodol o annibyniaeth

  • defnyddio eu llais yn effeithiol ar adegau etholiad

Mae nifer o ffyrdd y gall elusen fod mewn peryg o ymwneud â gwleidyddiaeth pleidiau, er yn anfwriadol. Mae’r rhain wedi cael eu nodi o dan y penawdau canlynol:

  • Polisïau

  • Cyhoeddusrwydd

  • Partïon

  • Ymgeiswyr

  • Cyfleusterau

  • Refferenda

1. Polisïau

Gall safbwynt polisi elusen ar fater arbennig gyd-fynd â, neu fod yn fwy neu lai yn debyg i, un o’r pleidiau gwleidyddol. Yn yr achos hwn mae’n gwbl dderbyniol i’r elusen barhau i ymgyrchu ar y mater hwnnw ac i eirioli ei pholisi cyn belled â’i bod yn egluro ei hannibyniaeth ar unrhyw blaid wleidyddol sy’n hyrwyddo’r un polisi, ac yn gwneud dim i annog cefnogaeth i unrhyw blaid wleidyddol.

2. Cyhoeddusrwydd

Mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd a gynhyrchir (gan gynnwys trwy brint, cyfweliadau â’r cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol a gwefannau) gall elusen hyrwyddo barn ar faterion sy’n ymwneud â’i dibenion a’i gweithgareddau. Fodd bynnag, rhaid i’r elusen gadw’n glir rhag cymharu ei safbwyntiau (yn ffafriol neu fel arall) â barn y pleidiau gwleidyddol neu’r ymgeiswyr sy’n cymryd rhan yn yr etholiad. Er enghraifft, os yw elusen dai yn cefnogi adeiladu 100,000 o gartrefi newydd, gall amlinellu polisïau tai pob plaid, gan gynnwys faint o gartrefi newydd y mae pob plaid wedi ymrwymo i’w hadeiladu, ond rhaid iddi beidio â galw’n benodol ar bobl i bleidleisio dros un blaid neu un arall. Y pwynt allweddol yw er y gall elusennau geisio dylanwadu ar farn y cyhoedd ar fater arbennig os yw’n hyrwyddo neu’n cefnogi eu dibenion, rhaid iddynt adael i’r etholwyr wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch sut i bleidleisio.

Gall elusen gyhoeddi barn ymgeiswyr mewn etholiadau lleol a chenedlaethol os yw’r safbwyntiau hyn yn ymwneud â dibenion yr elusen a bydd eu cyhoeddi yn codi diddordeb y cyhoedd a dadl am y materion sylfaenol. Ni chaiff yr elusen annog cefnogaeth i unrhyw bleidiau neu ymgeiswyr arbennig.

Mae rhai elusennau yn cyhoeddi maniffesto er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r materion y maent yn ymgyrchu arnynt, ac yn arbennig y newidiadau maent yn galw amdanynt ar ran eu buddiolwyr. Unwaith eto, mae hyn yn dderbyniol os yw’r elusen yn ceisio perswadio’r pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu’r polisïau y mae’n eu hargymell, neu’n syml yn ceisio codi proffil cyhoeddus y materion hynny. Nid yw’n dderbyniol lle mai’r bwriad yw dylanwadu ar ymddygiad pleidleiswyr. Os bydd plaid wleidyddol yn cysylltu ag elusen am ganiatâd i gyfeirio at yr elusen yn ei maniffesto, boed mewn perthynas â phlaid wleidyddol neu’n gyffredinol, rhaid i’r elusen wrthod y cais. Mae hyn oherwydd y risg y bydd yr elusen yn ymddangos fel ei fod yn cefnogi’r blaid wleidyddol ei hun.

Rhaid i awdurdodau lleol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1986, beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw blaid wleidyddol na chyhoeddi unrhyw ddeunydd yr ymddengys ei fod wedi cael ei gynllunio i ddylanwadu ar gefnogaeth y cyhoedd i blaid neu yn erbyn plaid wleidyddol. Mae’r cyfyngiadau hyn yn ymestyn i unrhyw sefydliadau, gan gynnwys elusennau, sy’n derbyn cyllid awdurdod lleol. Felly gall elusennau sy’n gweithredu yn y modd hwn dorri gofynion cyfreithiol elusennau a llywodraeth leol, a gallant beryglu eu cyllid. (Mae deunydd cyhoeddedig yn cynnwys, er enghraifft, y cyfan neu ran o unrhyw destun mewn unrhyw gyfrwng print neu electronig, a darllediadau teledu a radio, gan gynnwys cyfweliadau.)

Mae gan gyfraith etholiadol hefyd reolau ynghylch gweithgaredd y gellir ei weld fel ymgyrchu sy’n gysylltiedig ag etholiad gan bob sefydliad, gan gynnwys elusennau.

Os byddwch yn ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad mae angen i chi wybod am y rheolau sy’n berthnasol i ymgyrchydd nad yw’n blaid (a elwir hefyd yn ‘drydydd parti’ yn y gyfraith etholiadol) oherwydd gallant fod yn berthnasol i’ch elusen.

Hyd yn oed os ydych yn dilyn y canllawiau a nodir yn y ddogfen hon ac yn Canllaw ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol i elusennau (CC9), os byddwch yn defnyddio deunydd y gellid ei weld fel rhywbeth sy’n dangos i’r cyhoedd bod ymgeiswyr neu bleidiau penodol yn cefnogi neu’n gwrthwynebu eich polisïau, mae’n bosibl y bydd angen i chi gofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n plaid gyda’r Comisiwn Etholiadol. Bydd hyn yn dibynnu ar sut rydych chi’n bwriadu ymgyrchu a faint rydych chi’n gwario.

Mae canllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar y rheolau sy’n effeithio ar ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar gael ar ei wefan.

Os hoffech gyngor ar hyn dylech cysylltu â’r Comisiwn Etholiadol.

3. Partïon

Rhaid i elusennau beidio â chefnogi neu gwrthwynebu plaid wleidyddol neu ymgeisydd.

Rhaid i elusennau beidio â rhoi arian i bleidiau gwleidyddol.

Mae rhyddid i elusennau wahodd ymgeiswyr a chynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol i gyfarfodydd cyhoeddus am faterion mae’r elusen yn ymgyrchu yn eu cylch, er enghraifft trwy wahodd ymgeiswyr i drafod y materion hynny. Ni ddylai ymddiriedolwyr annog cefnogaeth i unrhyw blaid wleidyddol. Un ffordd bosibl o sicrhau nad yw eu helusen yn gwneud hynny yw i wahodd cynrychiolwyr o sbectrwm gwleidyddol mor eang â phosibl.

Fodd bynnag, gall fod yn anodd yn ymarferol i wahodd ymgeiswyr o sbectrwm eang. Nid yw’n golygu bod yn rhaid i bob plaid gael ei chynrychioli bob tro y bydd elusen yn gwneud unrhyw waith sy’n ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol. Dylai’r ymddiriedolwyr wneud penderfyniad ar sail a fyddai ymgysylltiad o’r fath yn hybu neu’n rhwystro buddiannau’r elusen. Er enghraifft, efallai y bydd digwyddiad yn fwy hylaw ac yn fwy penodol os caiff pob plaid leiafrifol ei heithrio. Os yw’r elusen yn cael ei hysbysu (er enghraifft gan yr heddlu) y bydd presenoldeb ymgeisydd arbennig mewn digwyddiad yn creu risg o anhrefn, byddai hynny’n rheswm da dros beidio â’u gwahodd. Mae hefyd yn agored i elusennau benderfynu peidio â gwahodd cynrychiolydd o blaid wleidyddol sy’n hyrwyddo polisïau sy’n groes i ddibenion yr elusen, neu mae eu presenoldeb neu farn yn debygol o ddieithrio cefnogwyr yr elusen. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i elusen gael rhesymau cryf iawn dros benderfynu peidio â gwahodd un o brif bleidiau wleidyddol.

4. Ymgeiswyr

Mae rhyddid i elusennau fynd at yr ymgeiswyr mewn etholiad, gan nodi pryderon yr elusen a gofyn am farn yr ymgeiswyr arnynt, gyda’r bwriad o hybu trafodaeth.

Fodd bynnag, dylai elusennau fod yn arbennig o wyliadwrus rhag cysylltu neu ddod yn gysylltiedig ym meddyliau’r cyhoedd ag ymgeisydd neu blaid wleidyddol arbennig. Os yw’r elusen yn cefnogi achos poblogaidd, gall ymgeiswyr weld budd iddynt eu hunain o gael eu gweld yn cefnogi’r elusen, ond dylai’r elusen fod yn ofalus i sicrhau nad yw’n cael ei weld fel rhywbeth sy’n cyd-fynd â’r cymorth hwnnw.

Ni ddylai elusennau byth gefnogi ymgeiswyr penodol hyd yn oed os yw’r ymgeiswyr hynny’n perthyn i ystod o bleidiau gwleidyddol.

Os yw eich elusen yn gweithio ledled y DU, mae materion ychwanegol i’w hystyried. Er enghraifft, os ydych mewn cysylltiad ag MSP yn ystod cyfnod etholiad yn Lloegr ac yng Nghymru, dylech fod yn ymwybodol o unrhyw risg y gallai eich cysylltiad â’r MSP gael ei ystyried yn gymeradwyaeth i’r blaid wleidyddol, a chymryd camau i’w liniaru, hyd yn oed os nad ydynt eu hunain yn sefyll fel ymgeisydd.

Ni chaiff elusennau gynorthwyo ymgeiswyr gyda’u hymgyrchoedd etholiadol, yn ariannol neu fel arall. Wrth gwrs gall aelodau unigol o elusen ddewis cynorthwyo unrhyw ymgeisydd yn rhinwedd eu swydd, ond ni ddylai swyddogion a gweithwyr elusen ddefnyddio eu safle mewn unrhyw weithgareddau ymgyrchu mewn ffordd sy’n awgrymu bod yr elusen yn cymeradwyo unrhyw ymgeisydd.

Os yw gweithiwr yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithgaredd ymgyrchu elusen a hefyd yn ymwneud yn bersonol ag un blaid wleidyddol yn arbennig, er enghraifft mae’n sefyll fel ymgeisydd, dylai ddatgan hyn i’w gyflogwr (yr elusen). Dylai’r ymddiriedolwyr wedyn ystyried y gwrthdaro buddiannau posibl hwn ac asesu’r risgiau i’r elusen o ran enw da ac atebolrwydd cyfreithiol y sawl sy’n ymgymryd â’r ddwy rôl ar yr un pryd.

5. Cyfleusterau

Gall fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith etholiadol i rai elusennau (er enghraifft rhai ysgolion) sicrhau bod eu hadeiladau ar gael i ymgeiswyr gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn rhad ac am ddim.

Os nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ond mae ymgeisydd yn dymuno defnyddio cyfleusterau o fewn eiddo elusen (er enghraifft neuadd bentref neu ganolfan gymunedol) ar gyfer cyfarfod cyhoeddus, yna dylid ei drin fel llogi masnachol arferol a chodir tâl amdano ar gyfradd arferol yr elusen heblaw bod yr ymddiriedolwyr yn penderfynu, er lles gorau’r elusen, codi cyfradd wahanol. Dylai unrhyw newid o’r fath fod yr un mor berthnasol i archebion gan bob ymgeisydd.

Mae’n agored i elusen wrthod llogi cyfleusterau i ymgeisydd, plaid neu grŵp arall os oes gan yr ymddiriedolwyr reswm da dros gredu y byddai llogi’r cyfleusterau yn dieithrio buddiolwyr, defnyddwyr neu gefnogwyr yr elusen, neu os yw’r heddlu’n eu cynghori byddai gwneud hynny’n creu risg o anhrefn cyhoeddus.

6. Refferenda

Cynhelir refferendwm pan ofynnir i etholwyr bleidleisio ar fater neu gynnig penodol (ar ffurf cwestiwn). Mae refferenda cenedlaethol neu DU gyfan yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ddeddf Gwleidyddol, Pleidiau, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Mae’r egwyddorion sy’n rheoli gweithgarwch gwleidyddol elusennau hefyd yn gymwys i refferenda. Y cwestiwn allweddol i ymddiriedolwyr yw sut yn union y byddai gweithgaredd o’r fath yn ffordd effeithiol o hyrwyddo dibenion yr elusen.

Yn dibynnu ar natur mater neu gwestiwn y refferendwm, gall fod rhai amgylchiadau pan fydd yn briodol i elusen nodi manteision ac anfanteision pleidlais ie neu na dros eu buddiolwyr. Er enghraifft, os bydd canlyniad refferendwm yn cael effaith arbennig ar bobl hŷn, byddai’n briodol i elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn esbonio effeithiau’r canlyniadau gwahanol i’w buddiolwyr. Efallai y bydd elusen sy’n bodoli i hyrwyddo dinasyddiaeth dda am annog pobl i gymryd rhan yn y broses.

Wrth wneud hynny, rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus sut mae gweithgaredd o’r fath yn cyd-fynd â’u diben elusennol, a sut y byddant yn sicrhau eu bod yn cynnal eu hannibyniaeth a’u niwtraliaeth.

Os yw elusennau’n dymuno ymgyrchu dros bleidlais ‘ie’ neu ‘na’ mewn refferendwm, dylent ystyried yn ofalus y canllaw hwn a Canllaw ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol i elusennau (CC9). Mewn achosion eithriadol gall elusennau ystyried bod canlyniad refferendwm yn debygol o effeithio’n uniongyrchol, yn gadarnhaol neu’n negyddol, ar gyflawni eu dibenion elusennol. Os yw’r effaith ar waith yr elusen yn anuniongyrchol neu’n ansicr iawn, bydd yr ymddiriedolwyr yn ei chael hi’n anodd cyfiawnhau ymgyrchu dros ganlyniad arbennig.

Rhaid i elusennau hefyd ystyried yn ofalus beth yw’r cyfiawnhad dros ymgyrchu os oes dimensiwn plaid wleidyddol arwyddocaol i’r refferendwm, neu os yw dibenion yr elusen yn fwy cul nag effaith bosibl y refferendwm. Mae hyn oherwydd bod risg y bydd yr elusen yn cymryd rhan mewn gweithgaredd plaid wleidyddol neu wleidyddol amhriodol.

Ar ôl ystyried y canllawiau a’r materion hyn, os yw’r elusen yn parhau i fod yn ansicr os yw’n weithgaredd priodol i’w helusen gymryd rhan ynddo, dylent geisio cyngor gan y Comisiwn Elusennau.

Mae cyfrifoldebau’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer refferenda cenedlaethol neu DU gyfan yn cynnwys cofrestru ymgyrchwyr, rheoleiddio gwariant ymgyrchu a rhoddion, a dynodi grwpiau ymgyrchu arweiniol. Os byddwch yn cyhoeddi deunydd a allai ddangos i’r cyhoedd bod canlyniad pleidlais ‘ie’ neu ‘na’ mewn refferendwm yn debygol o gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar waith eich elusen, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd.

Mae elusennau sy’n cael eu hariannu’n gyfan gwbl neu’n bennaf gan gronfeydd cyhoeddus penodol hefyd yn ddarostyngedig i adran 125 o PPERA sy’n gwahardd cyhoeddusrwydd yn y 28 diwrnod cyn cynnal refferendwm. Mae’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i gyhoeddi unrhyw wybodaeth gyffredinol am y refferendwm yn ogystal ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu sy’n ymwneud â refferendwm.

Mae canllawiau pellach ar gael o wefan y Comisiwn Etholiadol.

7. Cyfeiriad Pellach

Canllaw ymgyrchu a gweithgaredd gwleidyddol i elusennau (CC9)

Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur, 2014

Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl, 1983, 1985 a 2000

Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda, 2000

Deddf Llywodraeth Leol, 1986

Deddf Etholiadau 2022

8. Gwefannau defnyddiol

Y Comisiwn Etholiadol

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu

Y Gymdeithas Llywodraeth Leol

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru