Skip to main content
Canllawiau

Carchar Long Lartin

Mae Long Lartin yn garchar dynion diogelwch uchel yn Evesham, Swydd Worcestershire.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Archebu a chynllunio eich ymweliad â Long Lartin

I ymweld â rhywun yn Long Lartin, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad 3 diwrnod ymlaen llaw
  • cael yr ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Gall hyd at 2 oedolyn (dros 18 oed) ymweld ar y tro ynghyd â 2 o blant (dan 18 oed).

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Long Lartin.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Garchar Bryste
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad drwy:

Nid oes gwasanaeth archebu ar-lein ar gael.

Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 2pm
Dysgu mwy am gostau galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth, 2:15pm i 4:30pm
  • Dydd Iau, 2:15pm i 4:30pm
  • Dydd Sadwrn, 2:15pm i 4:30pm
  • Dydd Sul, 2:15pm i 4:30pm

Mae gan ymwelwyr hawl i gael ymweliad awr o hyd. Gellir caniatáu mwy o amser os bydd ar gael ar y diwrnod. Dylech geisio cyrraedd o leiaf hanner awr cyn amser eich ymweliad er mwyn caniatáu amser ar gyfer y broses gofrestru a diogelwch.

Sut i drefnu ymweliadau swyddogol

I drefnu ymweliad swyddogol, e-bostiwch legalvisits.longlartin@justice.gov.uk.

Cyswllt fideo yw’r dull a ffefrir ar gyfer ymweliadau swyddogol yn Long Lartin ond gellir cynnig ymweliadau swyddogol wyneb yn wyneb o dan rai amgylchiadau.

Amseroedd ymweld swyddogol dros fideo:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:15am to 4:30pm

Dim ond at CJSM neu gyfeiriadau e-bost diogel y bydd cadarnhad ar gyfer archebion cyswllt fideo (a’r cyfeiriad cyswllt) yn cael ei anfon, er enghraifft, GOV.UK, yr Heddlu, y GIG.

Bydd angen ID arnoch adeg eich apwyntiad ar gyfer pob carcharor.

Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:

  • Dydd Mawrth, 9:30am to 11:30am
  • Dydd Iau, 9:30am to 11:30am

Er mwyn mynd ag unrhyw offer electronig awdurdodedig fel gliniaduron neu dabledi i mewn, rhaid bod arnynt rif cyfresol gweladwy sydd wedi’i argraffu, a rhaid gofyn am gael dod â nhw i mewn at ddibenion ymweliad swyddogol adeg trefnu’r ymweliad swyddogol.

Holwch y tîm archebu os bydd unrhyw broblemau.

Cyrraedd Long Lartin

Dewch o hyd i Long Lartin ar y map

Honeybourne yw’r orsaf drenau agosaf. O’r fan honno gallwch deithio mewn tacsi.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr.

Mae croeso i ymwelwyr gyrraedd ar gyfer eu hymweliad unrhyw bryd o 1:15pm er mwyn dechrau’r broses gofrestru.

Mynd i Long Lartin

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i mewn i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd pob ymwelydd yn destun gweithdrefnau archwilio, gan gynnwys plant, cyn y caniateir i’w hymweliad fynd rhagddo. Mae hyn yn cynnwys mynd drwy borth synhwyrydd metel, synhwyrydd metel a ddelir yn y llaw yn cael ei gyfeirio o amgylch eich corff ac archwiliad corfforol llawn drwy rwbio. Mae’n bosibl y bydd cŵn diogelwch yn eich arogli hefyd.

Mae gan Long Lartin bolisi cod gwisg llym, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo dillad smart ac esgidiau addas (dim esgidiau blaenau dur na fflip fflops).

Mae hefyd yn golygu:

  • dim festiau
  • dim topiau isel
  • dim siorts
  • dim dillad wedi’u rhwygo
  • dim print cuddliw na sloganau sarhaus
  • dim ffrogiau byr
  • dim gwisg pen ar wahân i’r hyn a wisgir am resymau crefyddol

Rhaid i ymwelwyr ddilyn cod gwisg perthnasol y carchar, a gellir gofyn am ragor o fanylion ar eich ymweliad cyntaf neu drwy ffonio’r llinell archebu ymweliadau.

Bydd lluniaeth ar gael i’w phrynu yn ystod eich ymweliad.

Caniateir i chi fynd ag arian i mewn gyda chi sy’n werth £20 y pen ond dim ond mewn darnau arian a dim arian papur.

Mae rheolau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Long Lartin. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer (gan ddefnyddio darn £1 y byddwch yn ei gael yn ôl) neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Os ydych chi’n ymweld gyda babi, gallwch fynd â 3 chlwt/cewyn, weips babi, potel babi, dymi a jar o fwyd babi heb ei agor neu garton o laeth heb ei agor i mewn gyda chi.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Cyfleusterau ymweld

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn agor am hanner dydd.

Gall gweithiwr cymorth i deuluoedd helpu gyda gwybodaeth am drefn y carchar, gweithdrefnau ymweld a sefydliadau eraill sy’n cynnig cymorth i deuluoedd sydd â rhywun yn y carchar.

Bydd lluniaeth ar gael i’w phrynu yn ystod eich ymweliad.

Ar gyfer ymwelwyr ag anableddau, gallwch ofyn i’r staff am gymorth. Does dim grisiau i’r ganolfan ymwelwyr ac mae toiled anabl ar gael.

Diwrnodau teulu

Mae Carchar Long Lartin yn cynnal 7 diwrnod teulu y flwyddyn sy’n cael eu cynnal yn ystod pob gwyliau ysgol gyda 2 yn ystod gwyliau’r haf.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Long Lartin

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Long Lartin. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: www.prisonadvice.org.uk

Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion: 0808 808 2003

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho’r ap Prison Videoison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Darllenwch fwy am sut mae ap Fideo’r Carchar yn gweithio

Galwadau ffôn

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallan nhw ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon ar ôl iddyn nhw gyrraedd, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth Negeseuon Llais y Carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Long Lartin drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yn Long Lartin.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu llythyr ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen. Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch â Charchar Long Lartin.

Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion yn Long Lartin yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gellir eu hanfon atynt fel anrhegion. Cysylltwch â Long Lartin i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o siopau cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau llyfrgell ac addysg mewn carchardai, Atodiad A.

Gall dynion hefyd wneud cais am un pecyn dillad ac un pecyn trydanol y flwyddyn, yn dibynnu ar eu ‘breintiau’.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Bywyd yn Long Lartin

Mae Long Lartin wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob unigolyn yng Ngharchar Long Lartin hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Long Lartin am y tro cyntaf, byddant yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddant yn cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a lles sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Long Lartin yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Mae rheolwr troseddwyr sy’n garcharorion (POM) yn cael ei ddyrannu i’r carcharor newydd a bydd yn ei gefnogi gyda lleihau risg, trosglwyddiadau, parôl ac unrhyw faterion eraill sy’n codi.

Llety

Mae Long Lartin yn gartref i dros 600 o garcharorion mewn celloedd unigol. Mae 6 uned breswyl ac uned i bobl yn y ddalfa. Mae pob uned yn cael ei chefnogi gan ofal iechyd, rhaglenni ac unedau gwahanu.

Mae system Cymhellion a Breintiau Haeddiannol (IEP) er mwyn i garcharorion allu haeddu cell gyda theledu a chyfleusterau coginio yn y gell.

Mae gan bob adain gelloedd gyda theledu yn y gell, tenis bwrdd a byrddau pŵl. Mae campfa gyda neuadd chwaraeon maint llawn, ystafell bwysau, ystafell ddosbarth ac ardal bob tywydd. Gall carcharorion wneud cais am hyd at 5 sesiwn yr wythnos, yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer cymwysterau.

Addysg a gwaith

Mae hyfforddiant galwedigaethol yn cynnwys crefftau coed, gosod brics, gwaith barbwr, glanhau diwydiannol, golchi dillad a pheintio ac addurno.

Mae’r gweithgareddau hyn hefyd yn cynnwys gwaith contract sy’n ennill cyflogau uwch.

Mae’r adran addysg yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithle. Mae’n canolbwyntio ar yr angen i wella sgiliau sylfaenol gyda Gweithdy Sgiliau am Oes o’r radd flaenaf, tra hefyd yn cynnig cyrsiau’r Brifysgol Agored i’r rhai sy’n dymuno astudio ar lefel gradd. Mae’r llyfrgell yn darparu amrywiaeth eang o ddeunydd darllen a cherddoriaeth.

Mae rhaglenni ymddygiad troseddwyr yn cynnig cyrsiau i’r rheini sy’n cael trafferth gyda rheoli emosiynau, trais a phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae pob carcharor yn destun profion cyffuriau gorfodol (MDT). Mae cynllun swyddog personol a chwnsela cyffuriau ar gael.

Mae’r tîm caplaniaeth aml-ffydd yn darparu gofal bugeiliol i staff a charcharorion. Y nod yw helpu carcharorion i ddarganfod a datblygu ymwybyddiaeth ysbrydol yn unigol ac mewn grwpiau. Cynigir gweithgareddau cyffredinol fel celf, cerddoriaeth, cyngherddau, seminarau a chymorth mewn profedigaeth hefyd.

Sefydliadau y mae Long Lartin yn gweithio gyda nhw

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gofal Sylfaenol Swydd Gaerwrangon yn darparu tîm o nyrsys amlddisgyblaethol a meddygon teulu asiantaeth ar gyfer y ganolfan gofal iechyd.

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys iechyd meddwl, ffisiotherapi (cymorth gydag anafiadau corfforol a phoen), deintydd, optegydd a phodiatrydd (ar gyfer problemau gyda’r traed).

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor i deulu a ffrindiau.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yn Long Lartin, anfonwch e-bost at yr Hwb Busnes: BusinessHubLongLartin@justice.gov.uk

Mae Prison Advice and Care Trust (PACT) yn cynnig cymorth a chefnogaeth i deuloedd a ffrindiau pan fydd rhywun yn y carchar.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01386 295 100 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0800 4961 455 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Long Lartin.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Long Lartin mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Long Lartin

Llywodraethwr: Babafemi Dada

Ffôn: 01386 295 100 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am a 5pm)
E-bost: businesshublonglartin@justice.gov.uk
Ffacs: 01386 295 101
Gwybodaeth am gost galwadau

Dilyn Long Lartin ar Twitter/X

Cyfeiriad

HMP Long Lartin
South Littleton
Evesham
Worcestershire
WR11 8TZ

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Hydref 2025 show all updates
  1. How to book official visits section updated.

  2. How to book legal and professional visits section updated.

  3. Updated visiting time for family and friends visits.

  4. Secure video calls update.

  5. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  6. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  7. Visiting information updated.

  8. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  9. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  10. New visiting times and booking information added.

  11. New visiting times and booking information added.

  12. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  13. Updated prison info

  14. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  15. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  16. COVID visit times update

  17. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  18. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  19. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  20. First published.

Argraffu'r dudalen hon