Canllawiau

Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo GLlTEM: canllawiau ar gyfer ymuno â gwrandawiad fideo

Canllawiau ar sut mae Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo GLlTEM yn gweithio a sut i gymryd rhan mewn gwrandawiad.

Ynglŷn â’r gwasanaeth

Rydym yn defnyddio’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo i gynnal gwrandawiadau fideo yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Rydym yn defnyddio gwasanaethau fideo eraill ar hyn o bryd, gan gynnwys Platfform Fideo’r Cwmwl (CVP). Os yw eich gwrandawiad yn cael ei gynnal ar CVP neu blatfform arall, gweler ein harweiniad ar beth i’w ddisgwyl wrth ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo.

Bydd y llys neu’r tribiwnlys yn dweud wrth yr holl bartïon sy’n rhan o’r achos pa blatfform fydd yn cael ei ddefnyddio yn eu hachos nhw. Byddwn ond yn defnyddio un platfform ar gyfer unrhyw wrandawiadau fideo trwy gydol eich achos.

Penderfynu a yw gwrandawiad fideo yn briodol

Ni chynhelir gwrandawiad fideo oni bai bod y barnwr yn fodlon ei fod er budd cyfiawnder i bob parti sy’n rhan o’r achos.

Cyn i wrandawiad fideo gael ei gynnal, bydd y barnwr yn ystyried:

  • manylion yr achos
  • natur a chymhlethdod y gwrandawiad
  • unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd a all effeithio ar gynnal y gwrandawiad trwy gyswllt fideo

Paratoi ar gyfer gwrandawiad fideo

Bydd arnoch angen y pethau canlynol i gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo:

  • ystafell ddistaw, breifat gyda mynediad at y rhyngrwyd
  • gliniadur, cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar gyda chamera a meicroffon

Gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn gwrandawiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo. Mae hyn yn cynnwys arweiniad ar:

  • gwirio eich offer a’ch porwr gwe
  • paratoi ar gyfer, a mynychu eich gwrandawiad
  • rhannu tystiolaeth gyda chyfranogwyr eraill

Cyn y gwrandawiad

Byddwn yn anfon gwybodaeth am y gwrandawiad fideo drwy e-bost, gyda dolen i’r wefan a manylion ar gyfer mewngofnodi. Edrychwch yn eich ffolder ‘nialwch’ am yr e-byst hyn, i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth angenrheidiol ar y diwrnod.

Os ydych wedi dewis ymuno â’r achos drwy ffôn symudol, efallai y byddwch hefyd yn cael negeseuon testun yn egluro sut i ymuno.

Mae’n rhaid ichi fewngofnodi a phrofi’r offer cyfrifiadurol y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwrandawiad. Mae’n bwysig iawn cwblhau’r prawf hwn. Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur sy’n rhan o rwydwaith, gall cyfyngiadau diogelwch eich rhwystro rhag cael mynediad i’r gwasanaeth gwrandawiadau fideo.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad

Mewngofnodwch 30 munud cyn amser dechrau’r gwrandawiad gan ddefnyddio’r manylion a anfonir atoch. Ail-wiriwch eich dyfais a’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd drwy ail-wneud y prawf, yna cadarnhewch bod eich offer yn gweithio.

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i gael cyfarfod preifat gyda pharti arall cyn y gwrandawiad (os dymunwch wneud hynny). Mae hyn yn gyfrinachol a ni fydd yn cael ei recordio fel rhan o’r gwrandawiad.

Gall unrhyw unigolyn sy’n rhan o’r achos gychwyn gyfarfod preifat cyn y gwrandawiad. Gallwch dderbyn neu wrthod cais gan rywun arall i gychwyn cyfarfod. Gallwch hefyd gael cyfarfod preifat â pharti arall yn ystod y gwrandawiad gyda chaniatâd y barnwr. Bydd y barnwr rhoi stop i’r gwrandawiad tra bod y cyfarfod yn digwydd. Mae cyfle hefyd i gynnal cyfarfod preifat am 30 munud ar ôl i’r gwrandawiad orffen.

Cyn i’r gwrandawiad dechrau, bydd pawb yn aros mewn ystafell aros ar-lein. Ni fydd unrhyw un yn cael eu gweld neu eu clywed yn yr ystafell aros.

Bydd yna gloc ar y sgrin fydd yn cyfrif i lawr i 0 cyn i’r barnwr gychwyn y gwrandawiad. Bydd pawb yn ymuno ar yr un pryd.

Recordio a thrawsgrifiad

Mae’r broses o recordio’r sain o wrandawiad fideo yr un peth â’r broses ar gyfer gwrandawiadau a gynhelir mewn adeilad llys. Pan fydd gwrandawiadau wedi cael eu recordio, gallwch wneud cais am drawsgrifiad.

Ni ddylech recordio na thynnu unrhyw luniau o’r gwrandawiad.

Cysylltu â thîm y gwasanaeth gwrandawiadau fideo

Cysylltwch â ni os:

  • nad ydych wedi llwyddo i gwblhau hunan-brawf
  • mae eich sefydliad angen profi unrhyw newidiadau y mae wedi’i wneud i’w rwydwaith/ei osodiadau wal dân (firewall)
  • mae arnoch angen arweiniad pellach ar gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo

Ni ddylech gysylltu â ni am yr achos. Dylech gysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys yn uniongyrchol neu siarad gyda’ch cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un.

Cymru a Lloegr

Rhif ffôn: 0300 303 0655

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

E-bost: video-hearings@justice.gov.uk

Yr Alban

Rhif ffôn: 0300 790 6234

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am - 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

E-bost:

Cyhoeddwyd ar 20 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 November 2022 + show all updates
  1. Added translation

  2. Instructions added to clarify how you'll receive instructions before a hearing.

  3. Moved technical support and user guidance to new user guide

  4. Added a link to video guidance.

  5. Added wording under Before the hearing and On the day of the hearing to highlight the need for users to test their equipment before the hearing starts.

  6. Updated Welsh edition.

  7. Added Welsh translation

  8. Small change to the on the day guidance to update the sign in times and details.

  9. First published.