Help i ddod o hyd i waith i hawlwyr Credyd Cynhwysol 16 i 24 oed
Mae cymorth ychwanegol ar gael i bobl 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol, gan gynnwys swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy'r Daith Gwarant Ieuenctid.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Taith Gwarant Ieuenctid
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac yn 16 i 24 oed, gallech gael help ychwanegol i ddod o hyd i waith drwy Daith Gwarant Ieuenctid y DWP (Adran Gwaith a Phensiynau). Gofynnwch i’ch anogwr gwaith os gallwch chi gael yr help hwn.
Tra byddwch ar y Daith Gwarant Ieuenctid, byddwch yn parhau i gael Credyd Cynhwysol yn unol â’r cytundebau a wnaed yn eich ymrwymiad hawlydd.
Cefnogaeth y gallwch ei gael
Nod y Daith Gwarant Ieuenctid yw:
- helpu eich paratoi ar gyfer gwaith
- ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i swydd
- dod o hyd i’r gefnogaeth gywir i chi
Yn seiliedig ar y gefnogaeth rydych ei angen, efallai y byddwch yn cael help gan:
- anogwr gwaith mewn canolfan gwaith
- anogwr gwaith mewn Hyb Ieuenctid
- anogwr cyflogadwyedd ieuenctid
Byddwch yn cytuno ar yr opsiwn gorau gyda’ch anogwr gwaith ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol, neu’n ddiweddarach wrth i’ch anogwr gwaith ddod i’ch adnabod.
Mathau o help
Efallai y cynigir y canlynol i chi:
- rhaglen academi waith sy’n seiliedig ar sector (SWAP): dysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn math o swydd, er enghraifft, gofal, gwaith adeiladu neu warws
- profiad gwaith: adeiladu eich sgiliau, eich profiad a’ch CV
- prentisiaeth: swydd â thâl gyda hyfforddiant
- sesiynau i gael help gydag ysgrifennu CV, gosod nodau, ceisiadau am swyddi ac ymarfer cyfweliad, sy’n cael eu rhedeg gan staff profiadol o gwmnïau mawr
- hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith
Bydd eich anogwr gwaith yn eich canolfan gwaith leol yn rhoi gwybod i chi pa opsiynau sydd ar gael yn eich ardal ac yn eich cefnogi yn ystod y daith.
Costau teithio a gofal plant
Os ydych yn mynychu hyfforddiant neu brofiad gwaith, efallai y byddwch yn gallu gofyn am arian yn ôl ar gyfer teithio a gofal plant. Siaradwch â’ch anogwr gwaith am hyn.
Adolygiad cyflogaeth a sgiliau
Ar ôl eich cyfarfod ymrwymiad hawlydd, byddwch yn cael adolygiad gwaith a sgiliau gyda’ch anogwr gwaith.
Byddwch yn cael cefnogaeth pwrpasol i chi ac yn cael gwybod am y Daith Gwarant Ieuenctid. Bydd eich anogwr gwaith yn eich helpu i osod eich nodau swydd, a gweithio allan beth rydych yn dda yn ei wneud a beth rydych yn ei hoffi.
Yn yr adolygiad byddwch yn:
- cael cymorth i ddatblygu a gwella eich CV
- dysgu sut i chwilio am a gwneud cais am swyddi ar-lein
- nodi unrhyw hyfforddiant rydych ei angen
- gwirio os ydych angen unrhyw gymorth gyda Saesneg, mathemateg neu TG
- gweld pa opsiynau sy’n seiliedig ar waith sydd ar gael i chi
- trafod unrhyw beth sy’n ei gwneud hi’n anoddach cymryd rhan mewn opsiynau sy’n seiliedig ar waith
Erbyn diwedd yr adolygiad, byddwch yn cytuno ar gamau i:
- symud yn agosach at waith
- dod o hyd i waith
- cynyddu eich enillion
Apwyntiadau anogwr gwaith rheolaidd
Yn ystod eich amser ar y daith, byddwch yn cael apwyntiadau rheolaidd gyda’ch anogwr gwaith dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Byddwch yn cael cymorth i ddiwallu eich anghenion a delio ag unrhyw broblemau personol sydd gennych sy’n ei gwneud hi’n anoddach dod o hyd i swydd.
Gall eich anogwr gwaith eich cyfeirio at gymorth lleol a chyfleoedd gwaith lleol eraill, er enghraifft:
- hyfforddiant sgiliau sylfaenol
- hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys SWAP
- profiad gwaith (2 i 8 wythnos)
- cefnogaeth gan Hyb Ieuenctid
- cefnogaeth gan anogwr cyflogadwyedd ieuenctid
Cyfarfod Porth Gwarant Ieuenctif
O ddechrau eich amser ar y Daith Gwarant Ieuenctid, byddwch wedi cael cymorth i ddechrau gwaith, hyfforddiant neu addysg cyn gynted â phosibl.
Ar ôl 13 wythnos ar y daith, bydd gennych apwyntiad ‘porth’ lle byddwch yn cytuno beth i’w wneud nesaf gyda’ch anogwr gwaith.
Rhaid i chi gytuno i wneud un o’r canlynol:
- gweithio
- prentisiaeth
- profiad gwaith
- SWAP neu Lwybr Sgiliau i Gyflogaeth Cymru
- hyfforddiant (hyd at 16 wythnos)
- addysg sy’n gweithio gyda Chredyd Cynhwysol
Hybiau Ieuenctid
Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at Hyb Ieuenctid. Gall Hyb Ieuenctid eich helpu i:
- feithrin sgiliau a hyder
- ysgrifennu eich CV
- paratoi ar gyfer cyfweliadau
Os cewch eich cyfeirio at Hyb Ieuenctid, gallwch barhau i gymryd rhan yn y Daith Gwarant Ieuenctid os ydych yn gymwys.
Mae dros 100 o Hybiau Ieuenctid ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda llawer mwy yn cael eu sefydlu. Gallwch ddod o hyd iddynt yng nghanol dinasoedd, trefi, ardaloedd arfordirol a gwledig.
Maent yn rhannu safleoedd gyda sefydliadau eraill fel y rhai sy’n canolbwyntio ar dai, cyflogaeth a sgiliau, a chymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu y gallwch gael mwy o help mewn un lle.
Mae rhai Hybiau Ieuenctid yn cynnig gwasanaeth galw heibio i bob person ifanc, gan gynnwys y rhai sydd ddim yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Cysylltwch â’ch canolfan gwaith leol i ddod o hyd i’ch Hyb Ieuenctid agosaf.
Darganfyddwch fwy am Hybiau Ieuenctid.
Anogwyr cyflogadwyedd ieuenctid
Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at anogwr cyflogadwyedd ieuenctid os oes gennych bethau eraill sy’n eich atal rhag dod o hyd i swydd.
Mae anogwyr cyflogadwyedd ieuenctid wedi’u lleoli mewn canolfannau gwaith.
Gallant eich cefnogi i symud i mewn i waith am hyd at 6 mis. A gallant eich cefnogi am hyd at 6 wythnos ar ôl i chi ddechrau gwaith, i’ch helpu i setlo yn eich rôl newydd.
Os cewch eich cyfeirio at anogwr cyflogadwyedd ieuenctid, gallwch barhau i gymryd rhan yn y Daith Gwarant Ieuenctid.
Help arall i ddod o hyd i waith
Gwefannau
HelpSwyddi - yn darparu cymorth i ddod o hyd i waith, cymorth gyda CVs, ceisiadau a chyfweliadau. Mae’n cynnwys dolenni i gynlluniau recriwtio cenedlaethol a gwybodaeth i helpu pobl o dan 25 oed i ddod o hyd i waith.
Dod o hyd i swydd - yn caniatáu i chi chwilio a gwneud cais am swyddi ledled y DU. Gallwch gyfyngu eich chwiliad a gosod rhybuddion ar gyfer swyddi gwag newydd.
Hyb Gwaith - yn caniatáu i chi ddod o hyd i swyddi, hyfforddiant, cyngor gyrfaoedd a chymorth CV mewn un lle. Defnyddiwch ei declynnau i gynllunio eich cam nesaf.
My World of Work, yn yr Alban - yn rhoi cyngor ar swyddi, gyrfaoedd a hyfforddiant. Mae’n canolbwyntio ar bobl ifanc a datblygu sgiliau.
Gwefannau Swyddi, yng Nghymru - yn casglu gwefannau chwilio am swydd, cymorth a hyfforddiant.
Gwasanaethau yn yr Alban
No One Left Behind - yn gynllun cyflogadwyedd sy’n rhoi cymorth personol i ddod o hyd i swydd a’i gadw. Mae ar gyfer pobl o bob oed sy’n ddi-waith neu’n wynebu problemau dod o hyd i waith.
Skills Development Scotland - yn cynnig cyngor ac yn cefnogi datblygiad gyrfa o’r ysgol i opsiynau dysgu pellach a chyflogaeth.
Gwasanaethau Llywodraeth Cymru
Y Warant Person Ifanc Cymru - yn rhoi opsiynau addysg a hyfforddiant i helpu a chefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed. Mae’n cefnogi mynediad i waith neu hunangyflogaeth ac yn dwyn ynghyd y llywodraeth, busnesau, elusennau a’r DWP i roi’r cynnig gorau posibl.
Twf Swyddi Cymru - yn rhaglen hyfforddi a datblygu hyblyg ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n darparu’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Cymunedau am Waith a Mwy, Cymru yn Gweithio - ar gyfer pobl 20 oed a throsodd. Mae’n cynnig cymorth cyflogaeth arbenigol i bobl ddi-waith hirdymor ac yn helpu’r rhai sydd â rhwystrau cymhleth, gan gynnwys sgiliau isel a chyflyrau iechyd.
ReAct Plws, Cymru yn Gweithio - sydd â grantiau i bobl a allai golli eu swydd neu sydd wedi colli eu swydd yn ddiweddar.
Updates to this page
-
The Youth Guarantee Journey replaces the Youth Offer from June 2026.
-
Added information on Scottish and Welsh programmes for young people.
-
Update to reflect that from 25 September certain young people will be invited to join the Youth Offer on a voluntary basis.
-
From 1 December 2021 the help to find a job, work-related training or an apprenticeship though the 'Youth Offer' has been extended to Universal Credit claimants aged 16 and 17.
-
First published.