Dechrau arni gyda’r gwasanaeth Defnyddio LPA
Mae’r gwasanaeth Defnyddio LPA yn ei gwneud yn haws i chi weithredu ar ran y rhoddwr, gan eich galluogi chi i weld yr atwrneiaeth arhosol (LPA) ar-lein a rhoi mynediad i bobl eraill.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfen yw LPA sy’n gadael i rywun, a elwir yn rhoddwr, ddewis pobl mae’n ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ar ei ran pan na fydd yn gallu gwneud hynny ei hun. Gelwir y bobl hyn yn atwrneiod.
Mae ein gwasanaeth Defnyddio LPA yn gadael i roddwyr ac atwrneiod reoli’r LPA ar-lein, yn hytrach na defnyddio’r fersiwn bapur gofrestredig. Gellir ei ddefnyddio’n rhad ac am ddim.
Mae’n eich galluogi i wneud y canlynol:
-
gweld manylion sylfaenol yr LPA
-
rhoi mynediad i bobl neu sefydliadau weld y manylion hynny
-
gwirio pwy sydd wedi gweld yr LPA drwy’r gwasanaeth
-
gweld sut mae pobl eraill a enwir ar yr LPA yn defnyddio’r gwasanaeth
-
gofyn am allwedd actifadu newydd os yw eich un chi ar goll neu wedi dod i ben
Dim ond LPAs sydd wedi’u cofrestru ers 1 Ionawr 2016 y gellir eu hychwanegu at y gwasanaeth ar-lein.
Beth sydd ei angen arnoch i greu cyfrif Defnyddio LPA
Mae’r wefan yn gweithio orau ar liniadur neu gyfrifiadur desg, ond gallwch hefyd ddefnyddio eich ffôn symudol.
Os cafodd yr LPA ei gofrestru ar ôl 17 Gorffennaf 2020, byddwch wedi cael llythyr sy’n cynnwys y ddau ddarn o wybodaeth sydd eu hangen arnoch i greu eich cyfrif, sef:
-
cyfeirnod yr LPA, sy’n cynnwys 12 digid. Mae hwn ar y fersiwn bapur gofrestredig hefyd
-
yr allwedd actifadu, sy’n dechrau gyda’r llythyren C. Mae’n ddilys am 12 mis ar ôl cofrestru
codes and reference numbers for your LPA
Os cafodd yr LPA arhosol ei gofrestru fwy na 12 mis yn ôl, neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r llythyr, gallwch greu cyfrif Defnyddio LPA o hyd, wedyn gofyn am allwedd actifadu drwy’r cyfrif hwnnw.
Os oes gennych gyfrif yn barod ond bod angen help arnoch i ychwanegu’r LPA, ewch i Ychwanegu LPA at eich cyfrif.
Bydd angen cyfrif GOV.UK One Login arnoch hefyd.
GOV.UK One Login – beth yw hwn a pham mae ei angen arnoch?
Mae GOV.UK One Login yn rhoi mynediad i chi at lawer o wasanaethau’r llywodraeth, gan eich galluogi i greu cyfrifon yn gyflym a mewngofnodi iddynt yn ddiogel.
Os nad oes gennych gyfrif yn barod, ewch i dudalen GOV.UK One Login a dilyn y cyfarwyddiadau i greu un.
Os oes gennych un, gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi i’r gwasanaeth Defnyddio LPA. Ar ôl i chi wneud hyn, bydd yn ymddangos yn y rhestr o dan ‘Eich gwasanaethau’ ar GOV.UK One Login.
Defnyddio GOV.UK One Login gyda chyfrif Defnyddio LPA sy’n bodoli’n barod
Os ydych wedi creu cyfrif Defnyddio LPA yn barod, bydd angen GOV.UK One Login arnoch i gael mynediad i’r gwasanaeth, a bydd angen i chi greu cyfrif newydd.
Os nad oes gennych gyfrif GOV.UK One Login eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei greu gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost â’r un a ddefnyddiwyd i greu eich cyfrif Defnyddio LPA. Bydd hyn yn cysylltu eich cyfrif LPA presennol â’r un newydd, gan eich galluogi i gael mynediad at yr LPA.
Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd angen i chi ofyn am allwedd actifadu i ychwanegu pob LPA at eich cyfrif newydd.
Creu eich cyfrif Defnyddio LPA
Ewch i Defnyddio-eich-atwrneiaeth-arhosol
Cam 1: Defnyddio atwrneiaeth arhosol
Cliciwch y botwm gwyrdd “Cychwyn nawr” i ddechrau arni.

Nid yw hwn yr un gwasanaeth â’r gwasanaeth Gwneud LPA, felly ni allwch ddefnyddio manylion eich cyfrif â’r gwasanaeth hwnnw i fewngofnodi yma. Rhaid i chi greu cyfrif ar wahân ar gyfer y gwasanaeth Defnyddio LPA.
Cam 2: Mewngofnodi i’r gwasanaeth hwn
Gallwch ddarllen rhywfaint o wybodaeth am GOV.UK One Login, a thelerau’r gwasanaeth Defnyddio LPA.
Cliciwch y botwm gwyrdd ‘Parhau’ i fewngofnodi.

Cam 3: Creu eich GOV.UK One Login neu fewngofnodi
Os oes gennych gyfrif GOV.UK One Login yn barod, cliciwch ‘Mewngofnodi’. Gallwch nawr ychwanegu’r LPA at eich cyfrif.
Os nad oes gennych un yn barod, cliciwch ‘Creu cyfrif GOV.UK One Login’. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen GOV.UK One Login lle gallwch ddechrau creu cyfrif gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost.

Unwaith i chi fewngofnodi
Os oes angen i chi ychwanegu unrhyw LPA at eich cyfrif, dilynwch y broses gam wrth gam ar Ychwanegu LPA at eich cyfrif Defnyddio LPA.
Help ac arweiniad
Os oes angen help arnoch neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni.
-
Ffôn: 0300 456 0300
-
Ffonio o’r tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
-
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 0300 123 1300
Cyfeiriad:
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
United Kingdom