Gofyn am allwedd actifadu
Gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau hyn i ofyn am allwedd actifadu ar gyfer atwrneiaeth arhosol (LPA).
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gall atwrneiod a rhoddwyr greu cyfrif ar y gwasanaeth Defnyddio LPA, sy’n caniatáu iddynt gael mynediad at yr LPA ar-lein, yn hytrach na defnyddio’r fersiwn bapur gofrestredig.
I wneud hyn, mae angen cyfeirnod LPA arnoch, a’r allwedd actifadu sy’n cyfateb i’r LPA hwnnw. Mae’r rhain i’w gweld yn y llythyr a anfonwyd atoch pan gafodd yr LPA ei gofrestru.
Os cafodd yr LPA ei gofrestru fwy na blwyddyn yn ôl, bydd yr allwedd actifadu wedi dod i ben. Os felly, neu os ydych wedi colli’r allwedd, gallwch ofyn am un newydd drwy’r gwasanaeth Defnyddio LPA.
Os nad oes gennych gyfrif Defnyddio LPA yn barod, gallwch greu un gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau cam wrth gam hyn.
Am resymau diogelwch, dim ond drwy’r post y gallwn anfon allweddi actifadu. Gwnewch yn siŵr bod gennym eich cyfeiriad cywir cyn gwneud cais am allwedd actifadu newydd.
Once you have received the activation key, you can use it to add the LPA to your account.
Gofyn am yr allwedd actifadu
Cam 1: A oes gennych allwedd actifadu?
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Defnyddio LPA. Cliciwch y botwm gwyrdd i ychwanegu LPA. Bydd hyn yn dangos dau opsiwn i chi ddewis o’u plith.
Opsiwn 1: Oes, mae gen i allwedd actifadu
Os oes gennych allwedd actifadu, gallwch ddewis yr opsiwn hwn, teipio’r allwedd, a pharhau â’r broses i’w hychwanegu at eich cyfrif.
Opsiwn 2: Na, mae angen i mi ofyn am allwedd actifadu
Dewiswch hwn os ydych wedi colli’r allwedd actifadu neu os yw wedi dod i ben.
Cliciwch ‘Parhau’.

Cam 2: Gofyn am allwedd actifadu
Ar y sgrin nesaf, byddwch yn cael yr wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch i wneud y cais hwn. Er enghraifft, bydd yn dweud wrthych:
-
A ydych yn gallu gofyn am allwedd yn y sefyllfa hon
-
Pa ddogfennau nad ydych yn gallu gofyn am allwedd ar eu cyfer
-
Yr wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ofyn am allwedd

Cam 3: Beth yw cyfeirnod yr LPA?
Rhowch gyfeirnod yr LPA y mae arnoch angen allwedd actifadu ar ei gyfer.

Cam 4: Beth yw eich enw?
Gofynnir i chi roi eich enw. Defnyddir hwn i gadarnhau eich bod ar yr LPA. Os ydych wedi newid eich enw ers i’r LPA gael ei gofrestru, a’ch bod eisoes wedi cysylltu â ni i ddweud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r enw sydd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ar gofnod.
Os nad ydych wedi cysylltu â ni eto, gwnewch hynny cyn gynted â phosibl i’w ddiweddaru. Ewch i’r adran help ac arweiniad am fanylion cyswllt.
Cam 5: Beth yw eich dyddiad geni?
Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn cael ei defnyddio i gadarnhau eich bod wedi’ch rhestru ar yr LPA.

Cam 6: Ble ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
Gofynnir i chi am eich cyfeiriad. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid anfon yr allwedd actifadu drwy’r post.
Os yw eich cyfeiriad wedi newid ers cofrestru’r LPA, cysylltwch â ni cyn gwneud cais am yr allwedd actifadu hon er mwyn i ni allu diweddaru eich manylion. Ewch i’r adran cymorth ac arweiniad am fanylion cyswllt.

Os ydych yn byw yn y DU, gellir dod o hyd i’ch cyfeiriad yn awtomatig gyda’r cod post. Os nad ydych yn byw yn y DU, gofynnir i chi roi eich cyfeiriad llawn.
Gofynnir i chi hefyd a yw’r cyfeiriad rydych yn byw ynddo ar hyn o bryd yr un fath â’ch cyfeiriad ar yr LPA papur. Os nad yw’r un fath, gofynnir i chi roi’r cyfeiriad hwnnw. Gwneir hyn er mwyn helpu i wirio pwy ydych chi.
Cofiwch, dim ond yng Nghymru a Lloegr y bydd unrhyw LPA sy’n cael ei ychwanegu at y gwasanaeth hwn yn gweithio. Er y gallai atwrnai neu’r rhoddwr fod yn byw dramor, ni ellir defnyddio’r LPA i wneud penderfyniadau am amodau byw beunyddiol y rhoddwr yn y wlad honno nac am eiddo dramor.
Cam 7: Gwirio eich atebion
Dangosir crynodeb i chi o’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi. Dylech wirio’r wybodaeth hon ac, os oes unrhyw beth yn anghywir, cliciwch ‘Newid’ i’w olygu.
Pan fyddwch yn fodlon â’r wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno, cliciwch Parhau.

Os cafodd yr LPA ei gofrestru rhwng mis Ionawr 2016 a mis Medi 2019, efallai y gofynnir i chi am rywfaint o wybodaeth ychwanegol am yr LPA yn ystod y cam hwn. Bydd hyn yn helpu i wirio eich rôl ar yr LPA.
Os nad ydych wedi cael eich allwedd o fewn 4 wythnos, ffoniwch ni ar 0300 456 0300.
Help ac arweiniad
Os oes angen help arnoch neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni.
-
E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk
-
Ffôn: 03004560300
-
Ffonio o’r tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
-
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 0300 123 1300
Address:
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
United Kingdom