Ychwanegu LPA at eich cyfrif Defnyddio LPA
Mae ychwanegu LPA at eich cyfrif yn caniatáu ichi reoli’n hawdd sut rydych chi ac atwrneiod eraill yn defnyddio’r LPA.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae sefydlu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol (Defnyddio LPA) yn caniatáu i roddwyr ac atwrneiod gael mynediad i’r LPA ar-lein.
Ar ôl i chi sefydlu eich cyfrif Defnyddio LPA, gallwch ychwanegu’r LPA a’i reoli trwy roi mynediad i sefydliadau a chwmnïau ei weld. Rydych chi’n gwneud hyn trwy greu codau mynediad i’w rhoi iddynt.
Dim ond LPAs sydd wedi’u cofrestru ers 1 Ionawr 2016 y gellir eu hychwanegu at y gwasanaeth ar-lein.
Ychwanegu LPA at eich cyfrif
Cam 1: Eich atwrneiaethau arhosol
Pan fyddwch yn mewngofnodi i’r gwasanaeth Defnyddio LPA, byddwch yn gallu ychwanegu unrhyw LPA cofrestredig rydych wedi’ch enwi arno.
Bydd angen yr allwedd actifadu benodol arnoch ar gyfer pob un – dim ond ar gyfer un LPA y bydd pob allwedd actifadu yn gweithio.
Peidiwch â defnyddio allwedd actifadu a roddwyd i rywun arall. Bydd hyn yn creu cyfrif o dan enw’r unigolyn arall yn hytrach na’ch enw chi. Trwy ddefnyddio eich allwedd eich hun, gallwch gadw golwg ar bwy sydd wedi creu pob cod mynediad.
I ychwanegu’r LPA, cliciwch ‘Ychwanegu eich LPA cyntaf’.

Cam 2: A oes gennych allwedd actifadu i ychwanegu LPA?
Gofynnir i chi a oes gennych allwedd actifadu. Mae’r allwedd ar y llythyr a anfonwyd atoch yn cadarnhau bod yr LPA wedi’i gofrestru. Os yw’r allwedd gennych, dewiswch ‘Oes, mae gen i allwedd actifadu’ a chlicio Parhau.
Os nad yw’r allwedd gennych, neu os cafodd yr LPA ei gofrestru dros flwyddyn yn ôl, bydd angen i chi ofyn am allwedd newydd. Dewiswch yr opsiwn priodol a chlicio Parhau.

Cam 3: Beth yw eich allwedd actifadu?
Yma, byddwch yn rhoi’r allwedd actifadu ar gyfer yr LPA rydych am ei ychwanegu. Os oes gennych fwy nag un LPA i’w hychwanegu, does dim ots ym mha drefn rydych yn ychwanegu’r allweddi.
Teipiwch yr allwedd yn y maes a chlicio Parhau.

Cam 4 Beth yw eich dyddiad geni?
Gofynnir i chi roi eich dyddiad geni. Gwneir hyn i wirio mai chi yw’r person sydd wedi’i restru ar yr LPA.
Cam 5: Beth yw cyfeirnod yr LPA?
Gofynnir i chi roi cyfeirnod yr LPA. Mae hwn ar y llythyr a anfonwyd atoch yn cadarnhau bod yr LPA wedi’i gofrestru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cyfeirnod sy’n cyfateb i’r allwedd actifadu rydych wedi’i rhoi’n barod.

Cam 6: Cadarnhewch mai dyma yw’r LPA gyw
Dangosir crynodeb o fanylion yr LPA i chi. Gwnewch yn siŵr mai’r LPA hwn yw’r un roeddech yn bwriadu ei ychwanegu. Os mai hwn ydyw, cliciwch ‘Cadarnhau’.
Os nad dyma’r LPA cywir, gwiriwch y cyfeirnod – efallai eich bod wedi’i gymryd o’r llythyr anghywir.

Bydd clicio ‘Cadarnhau’ yn ychwanegu’r LPA at eich cyfrif ac yn mynd â chi’n ôl i’ch dangosfwrdd. Yna, gallwch glicio ‘Ychwanegu LPA arall’ a dilyn y cyfarwyddiadau o Gam 2 ymlaen.
Gallwch ychwanegu cynifer o LPAs ag sydd eu hangen arnoch. Efallai eich bod yn atwrnai ar LPAs eich dau riant, a bod gennych y ddau LPA eich hun hefyd. Mae hyn yn golygu bod 6 LPA y gallwch eu hychwanegu at eich cyfrif.
Rhoi mynediad i sefydliad at yr LPA
Nawr bod yr LPA wedi cael ei ychwanegu at eich cyfrif, gallwch roi mynediad i sefydliadau ato, i’w galluogi i weld y manylion sylfaenol.
I wneud hyn, rhaid i chi greu cod mynediad ar gyfer y sefydliad. Bydd y sefydliad yn ei ddefnyddio ar y gwasanaeth Gweld LPA, i’ch dilysu chi fel atwrnai ac i ganiatáu i chi weithio gydag ef ar ran y rhoddwr.
Cam 1: Pa sefydliad ydych chi am roi mynediad iddo?
Yn y blwch, teipiwch enw’r sefydliad rydych am ddangos yr LPA iddo. Er eich gwybodaeth chi yn unig mae’r enw hwn; ni fydd yn cael ei wirio. Ond dylech fod mor benodol â phosibl i’ch helpu chi ac unrhyw atwrneiod eraill i gadw trefn ar y codau. Er enghraifft, ‘ISA Nationwide’ neu ‘Trydan EON’.
Cliciwch ‘Parhau’.

Cam 2: Eich cod mynediad
Dangosir y cod mynediad i chi. Mae’n dechrau gyda’r llythyren V ac mae 12 nod ar ei hôl, sy’n gyfuniad o lythrennau a rhifau. Gwnewch nodyn ohono – mae hefyd fotwm sy’n gadael i chi gopïo’r cod i’w ludo mewn dogfen neu e-bost. (Efallai y bydd y sefydliad yn cyfeirio at y cod mynediad fel cod V.)
Bydd y dudalen yn dweud wrthych ar ba ddyddiad y daw’r cod mynediad i ben, sef 30 diwrnod o’r dyddiad y byddwch yn ei greu.
Os oes angen i chi greu cod mynediad arall, cliciwch ‘Rhoi mynediad i sefydliad arall’.

Beth fydd yn digwydd nesaf?
Dylech roi’r cod mynediad i’r sefydliad cyn gynted â phosibl. Daw i ben o fewn 30 diwrnod ar ôl i chi ei greu, a gall gymryd peth amser i brosesu gwybodaeth am gwsmeriaid.
Bydd y sefydliad yn rhoi gwybod i chi os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arno i dderbyn eich cod mynediad.
Efallai y bydd y sefydliad yn dal i ofyn am gael gweld yr LPA papur os oes cyfarwyddiadau a/neu ddewisiadau.
Help ac arweiniad
Os oes angen help arnoch neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni.
-
Ffôn: 0300 456 0300
-
Ffonio o’r tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
-
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 0300 123 1300
Cyfeiriad:
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
United Kingdom