Canllawiau

Cael help i dalu neu leihau eich ffi apelio fisa neu mewnfudo

Beth yw’r ffioedd, pryd nad oes rhaid i chi dalu, cael help i dalu a gostyngiadau ffioedd neu ad-daliadau.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref i wrthod eu fisa neu eu cais mewnfudo. Mae’n egluro:

  • beth yw’r ffioedd
  • pryd nad oes rhaid i chi dalu
  • sut i gael help i dalu neu leihau eich ffi
  • sut telir ffioedd a dyfarniadau- ffioedd yn ôl

Nid yw’n egluro’r broses apelio. Dysgwch fwy am sut i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch fisa neu fewnfudo yma.

Ynglŷn a’r ffioedd

Mae ffi yn gysylltiedig â mwyafrif yr apeliadau yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Mewnfudo a Lloches). Mae’r hyn y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar sut hoffech i’ch apêl gael ei phenderfynu:

  • £80 heb wrandawiad – mae barnwr yn penderfynu ar eich apêl ar yr wybodaeth a’r dystiolaeth rydych yn ei hanfon at y tribiwnlys
  • £140 gyda gwrandawiad – mae barnwr yn penderfynu ar eich apêl mewn gwrandawiad y gallwch fynd iddo

Gallwch dalu eich ffi gyda cherdyn credyd neu ddebyd pan fyddwch chi’n gwneud eich apêl ar-lein. Os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, a fuasech mor garedig â chynnwys eich manylion ar eich ffurflen apelio.

Nid oes rhaid i’r cerdyn credyd neu ddebyd fod yn eiddo i chi. Gall rhywun arall dalu ar eich rhan.

Pan na fydd yn rhaid i chi dalu

Nid oes raid i chi dalu’r ffi o dan rhai amgylchiadau – gelwir y rhain yn ‘eithriadau.’

Nid oes rhaid i chi dalu os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad:

  • i dynnu eich Dinasyddiaeth Brydeinig oddi arnoch (gelwir hyn yn ‘amddifadu dinasyddiaeth’)
  • i dynnu eich statws fel ffoadur oddi arnoch (gelwir hyn yn ‘ddirymu statws gwarchodaeth’)
  • os yw’r Swyddfa Gartref yn eich cadw ac mae eich llythyr penderfyniad wedi cael ei anfon gan Weithiwr Achos Ceisiwr Lloches a Gedwir Dan Glo neu’r Tîm Apelio yn erbyn achos unigolyn sy’n destun Mewnfudo ac a gedwir dan glo (DAC neu DIA)

Dylai eich llythyr penderfyniad gan y Swyddfa Gartref gynnwys gwybodaeth am y math o benderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn.

Hefyd, nid oes rhaid i chi dalu os:

  • rydych yn cael help lloches gan y Swyddfa Gartref
  • rydych yn derbyn cymorth cyfreithiol
  • rydych o dan 18 ac yn cael budd-daliadau neu gymorth tai gan eich cyngor lleol o dan ddeddf plant neu orchymyn, neu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • mae gennych gyfrifoldeb rhiant dros berson sydd o dan 18 sy’n cael budd-daliadau neu gymorth tai gan y cyngor lleol o dan ddeddf plant neu orchymyn, neu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • bu i’r Swyddfa Gartref hepgor ffi eich cais i warchod eich hawliau confensiwn o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (eithriad 4.5 neu 9.4 o Reoliadau Mewnfudo a Chenedligrwydd (Ffioedd) 2016)

Dylech ddarparu copi o’r llythyr yn cadarnhau eich cymorth lloches, eich cymorth cyfreithiol, eich budd-daliadau neu ohebiaeth y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau yr eithrir eich ffi, pan fyddwch chi’n cyflwyno eich apêl.

Cael help gyda’r ffi

Efallai y cewch chi help i dalu yr holl ffi neu ran ohoni os ydych yn:

  • derbyn rhai budd-daliadau penodol
  • os nad oes gennych gynilion neu fawr ddim cynilion
  • ar incwm isel

Gallwch wneud cais am help gyda ffioedd ar-lein. Rhoddir rhif cyfeirnod help gyda ffioedd i chi, a bydd angen y rhif hwn arnoch ar gyfer eich cais am apêl ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch lenwi ffurflen bapur ‘help gyda ffioedd’. Dylech gynnwys hon pan fyddwch chi’n anfon eich cais i apelio ar bapur.

Mae’n bosibl y gofynnir i chi am dystiolaeth er mwyn cefnogi eich cais am help gyda ffioedd.

Chi yn unig sy’n gallu llofnodi cais am help gyda ffioedd. Gallwch ond llofnodi ar ran rhywun arall os mai plentyn ydyn nhw neu nid yw’r gallu ganddynt i lofnodi.

Os nad ydych yn y DU pryd y cyflwynwyd eich apêl, ni allwch ymgeisio am help gyda ffioedd.

Os ydych eisoes wedi talu’r ffi apelio, mae’n bosibl y gallwch ymgeisio am help gyda ffioedd os ydych:

  • wedi talu’r ffi ar 20 Ebrill 2020 neu wedi’r dyddiad hwn
  • yn gymwys i gael help gyda ffioedd pryd talwyd y ffi

Gwneud cais i ganslo neu leihau’r ffi

Os nad ydych yn gymwys i gael eich eithrio neu gael help gyda ffioedd, mae’n bosibl y gallwch ymgeisio i gael canslo neu leihau eich ffioedd. Gelwir hyn yn ‘beidio â chodi tâl o dan amgylchiadau eithriadol’.

Gallwch ond wneud cais os:

  • nad oes modd gwirioneddol i chi dalu
  • rydych wedi cymryd camau rhesymol i gael yr arian o rhywle arall – er enghraifft, nawdd i gael mynediad neu i barhau yn y DU
  • gallwch ddangos amgylchiadau eithriadol eraill

Bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig a darparu tystiolaeth o’ch anallu i dalu neu’r amgylchiadau eithriadol. Dylai tystiolaeth gynnwys:

  • manylion o’ch incwm a’ch cynilion
  • gwybodaeth am eich sefyllfa tai a chostau eraill
  • eich statws cyflogaeth neu addysg
  • prawf o gamau gweithredu cyfreithiol yn cael eu cymryd yn eich erbyn am fethu â thalu biliau neu gostau tai
  • gwybodaeth berthnasol arall sy’n gallu dangos amgylchiadau eithriadol.

Ystyrir eich holl dystiolaeth. Fodd bynnag, ni fyddwch yn awtomatig yn gymwys i gael canslo neu leihau eich ffi os ydych yn ddi-waith, yn fyfyriwr neu’n garcharor.

Rhaid i chi ysgrifennu eich cais a chyflwyno’ch tystiolaeth yn Saesneg neu rhaid ei gyfieithu os ysgrifennir y llythyr mewn iaith arall. Dylai ffigurau eich incwm, eich cynilion a’ch costau gael eu cyflwyno mewn sterling neu eu trosi i sterling, os yw mewn arian cyfred arall.

Llofnodwch a rhowch ddyddiad eich cais ysgrifenedig a chadarnhau bod yr holl wybodaeth rydych wedi ei rhoi yn gywir. Efallai y cewch eich erlyn os ydych yn fwriadol wedi gwneud hawl annilys.

Dim ond chi all lofnodi eich cais. Gallwch ond lofnodi ar ran rhywun arall os mai plentyn ydyn nhw neu nid yw’r gallu ganddynt i lofnodi.

Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ac fe’ch cynrychiolir yn gyfreithiol, bydd eich cyfreithiwr neu eich cynghorydd mewnfudo yn gallu cyflwyno eich cais ar yr un pryd ag y cyhoeddir eich apêl.

Os na chewch eich cynrychioli, anfonwch eich cais a’ch tystiolaeth at:

Article Seven Remission Application
First-tier Tribunal (Immigration and Asylum Chamber)
PO Box 6987
Leicester
LE1 6ZX

Byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais ymhen 14 niwrnod ar ôl ei dderbyn.

Os na chaniateir eich cais, mae’n bosibl y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Byddwn ond yn ail-ystyried eich apêl unwaith – os na chaniateir eich cais yr eildro, byddwn yn ystyried fod y mater wedi ei gau.

Dyfarniad eich ffi neu ad-daliad

Gallwch dderbyn ad-daliad llawn neu rannol o’ch ffi apelio mewn 3 ffordd:

  • dyfarniad ffi
  • ad-daliad os yw’r Swyddfa Gartref yn tynnu ei wrthodiad yn ôl
  • ad-daliad

Dyfarniad ffioedd

Dyfarniad ffi yw pan fu’ch apêl yn llwyddiannus ac mae barnwr wedi gorchymyn i’r Swyddfa Gartref dalu’r ffi yn ôl i chi. Y Swyddfa Gartref sy’n talu’r ffi ond gall ymddangos ar eich datganiad banc fel taliad gan WLlTEM.

Fel rheol, fe’i telir yn ôl i’r cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddiwyd i wneud y taliad gwreiddiol. Os gwnaeth rhywun arall dalu eich ffi, a wnewch chi gysylltu â nhw os gwelwch yn dda i gadarnhau bod eu cerdyn yn parhau’n ddilys, cyn y gwneir ad-daliad.

Os na fyddwch chi’n derbyn eich dyfarniad ffi ar ôl 60 niwrnod, anfonwch e-bost at appealsfeesenquiries@homeoffice.gov.uk.

Dylech gynnwys yr wybodaeth sy’n dilyn:

  • eich rhif cyfeirnod Swyddfa Gartref
  • rhif cyfeirnod eich apêl
  • dyddiad penderfyniad y tribiwnlys

Y Swyddfa Gartref yn tynnu’r penderfyniad i wrthod yn ôl

Gall y Swyddfa Gartref dynnu’r penderfyniad i wrthod eich cais fisa neu apêl mewnfudo gwreiddiol yn ôl. Gall hyn fod oherwydd eich bod wedi cyflwyno tystiolaeth bellach ers iddo wneud ei benderfyniad cychwynnol.

Fodd bynnag, os ydych o’r farn fod y Swyddfa Gartref wedi gwyrdroi’r penderfyniad oherwydd camgymeriad yn ei benderfyniad cychwynnol, gallwch anfon e-bost i appealsfeesenquiries@homeoffice.gov.uk i drafod hyn.

Bydd angen i chi gyflwyno eich rhesymau’n glir ac mae’n bosibl y gellir trafod ad-dalu eich ffi apelio.

Ad-daliadau

Mae’n bosibl y gallwch gael ad-daliad er enghraifft os;

  • ydym wedi cymryd taliad mewn camgymeriad
  • ydych wedi talu am yr apêl ond buoch yn llwyddiannus yn eich cais i ganslo neu leihau’r ffi
  • Bu i chi dalu am wrandawiad ond penderfynodd y tribiwnlys y gellid fod wedi ymdrin â’ch apêl ar sail yr wybodaeth a’r dystiolaeth yr oeddech wedi eu hanfon

Yn y trydydd enghraifft, gallech dderbyn taliad o £60, sef y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffi.

Ystyrir ad-daliadau ar sail achosion unigol a GLlTEM fydd yn eu talu.

Fel rheol, telir yr ad-daliad yn ôl i’r cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddiwyd i wneud y taliad gwreiddiol. Os gwnaeth rhywun arall dalu eich ffi, cysylltwch â nhw os gwelwch yn dda i gadarnhau bod eu cerdyn yn ddilys o hyd cyn y gwneir yr ad-daliad. Os na ellir gwneud taliad yn ôl i’r cerdyn hwn, rhaid i chi roi manylion banc i ni, er mwyn gallu trosglwyddo’r arian.

Os oes gennych gwestiwn am y taliad neu ad-daliad, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda:

Rhifau ffon

0300 123 1711 Dydd Llun i dydd Gwener, 8.30am hyd 5pm

Dysgwch fwy am gostau galwadau

E-bost

iapaymentexceptions@justice.gov.uk

Ein nod yw ymateb cyn pen 3 niwrnod gwaith.

Cyhoeddwyd ar 18 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2024 + show all updates
  1. Added guidance that a legal representative or litigation friend can apply for help with fees on a user's behalf.

  2. This guide has replaced the T495.

  3. First published.