Canllawiau

Crynoadau anifeiliaid: trwyddedau

Sut i wneud cais am drwydded, pryd mae angen trwydded arnoch, ffioedd, amodau trwydded a'r cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw.

Applies to England and Wales

Pryd mae angen trwydded crynoadau anifeiliaid arnoch

Os byddwch am gynnal crynhoad anifeiliaid, bydd yn rhaid i’r safle gael trwydded o dan y Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (AGO) gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Crynhoad anifeiliaid yw pan gaiff rhywogaethau penodol o anifeiliaid eu casglu ynghyd o wahanol leoedd:

  • i’w gwerthu
  • i’w hanfon i le arall (er enghraifft, i’w lladd)
  • i’w dangos neu eu harddangos
  • i’w harchwilio i gadarnhau eu bod yn meddu ar nodweddion eu brid (er enghraifft, er mwyn asesu statws pedigri)

Mae’r rhywogaethau o anifeiliaid yn cynnwys:

  • gwartheg (heb gynnwys buail ac iacod)
  • defaid
  • moch
  • ceirw
  • geifr

Ni chaiff crynoadau dofednod nac adar caeth eraill eu trwyddedu yn yr un modd ond mae’n rhaid eu cofrestru. Darllenwch y trwydded gyffredinol crynhoad adar. Rhaid i chi gael trwydded crynoadau anifeiliaid os bydd eich crynhoad yn cynnwys dofednod neu adar caeth ac unrhyw un o’r anifeiliaid a restrir.

Mae’n drosedd cynnal crynhoad anifeiliaid heb drwydded.

Pryd nad oes angen trwydded arnoch

Nid oes angen trwydded arnoch i gynnal crynhoad anifeiliaid os:

  • bydd yr holl anifeiliaid y deuir â nhw i’r safle yn dod o un daliad
  • caiff yr anifeiliaid eu gwasgaru o un daliad

Cael trwydded crynoadau anifeiliaid

Cwblhewch y ffurflen gais am drwydded i gynnal crynhoad anifeiliaid (AGO01) a chynllun o’r safle arfaethedig. Gallwch gael help gyda’r ffurflen AGO01 gan APHA.

Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i APHA.

Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen, bydd APHA yn trefnu ymweliad gan arolygydd milfeddygol i drafod eich cais ac archwilio’r safle.

Caiff eich trwydded ei phostio atoch os bydd yr arolygydd milfeddygol yn fodlon y caiff amodau’r drwydded eu bodloni.

Rhoi rhybudd

O leiaf 14 diwrnod cyn i chi gynnal pob crynhoad anifeiliaid o dan eich trwydded, bydd yn rhaid i chi hysbysu APHA a’ch awdurdod lleol am y canlynol:

  • yr adegau pan fydd y safle trwyddedig ar agor i dderbyn anifeiliaid
  • diben y crynhoad anifeiliaid

Ni fydd angen i chi wneud hyn os cafodd y dyddiadau eu cynnwys yn eich ffurflen gais.

Ffioedd

Os nad ydych wedi’ch heithrio, fel deiliad y drwydded, mae’n rhaid i chi dalu ffioedd trwyddedu i APHA am eiddo a ddefnyddir i gynnal crynhoad anifeiliaid. Bydd rhai taliadau yn codi ar 1 Rhagfyr 2023. Bydd APHA yn asesu lefel y risg i iechyd anifeiliaid a’r gwaith sydd angen ei gwblhau i brosesu eich cais. Bydd hyn yn pennu eich ffi. Bydd APHA yn cwblhau archwiliad yn y rhan fwyaf o achosion.

Pan nad oes angen i chi dalu

Nid oes angen i chi dalu am eich trwydded os yw eich crynhoad:

  • mewn sioe neu arddangosfa sydd ar agor i’r cyhoedd am un diwrnod yn unig ac nad oes anifeiliaid yn cael eu gwerthu neu eu harwerthu
  • i’w harchwilio i gadarnhau bod yr anifeiliaid yn meddu ar nodweddion penodol eu brîd

Yr hyn y mae’n rhaid i chi dalu ffioedd amdanynt

Mae’n rhaid i chi dalu ffioedd am y canlynol:

  • asesiadau cais am drwydded (p’un a chaiff y drwydded ei chymeradwyo a’i pheidio)
  • adnewyddu twydded (blynyddol)
  • addasiadau i drwydded (fel newid enw deiliad y drwydded neu newid y defnydd o’r safle) - efallai y bydd angen archwiliad ychwanegol
  • ymweliadau ychwanegol os na ellir cyhoeddi trwydded neu eu hailgyhoeddi ar ôl yr ymweliad cyntaf
  • amser teithio hyd at 75 munud

Ffioedd am farchnadoedd neu arwerthiannau a chanolfannau casgliadau

Gwasaneth Ffioedd o’r 1 Rhagfyr 2022 Ffioedd o’r 1 Rhagfyr 2023
Cais am drwydded neu addasiad (risg isel). Mae hyn yn cynnwys hyd at 90 munud o amser archwilio £318 £379
Cais am drwydded neu addasiad (ddim yn risg isel). Mae hyn yn cynnwys hyd at ddau archwiliad 90 munud £550 £685
Adnewyddu trwydded flynyddol (risg isel) sydd angen un ymweliad archwilio yn unig. Mae hyn yn cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio £279 £340
Adnewyddu trwydded flynyddol (ddim yn risg isel) sydd angen dau ymweliad archwilio. Mae hyn yn cynnwys hyd at ddau archwiliad 75 munud £414 £486

Ffioedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd

Gwasanaeth Ffi o’r 1 Rhagfyr 2022 Ffi o’r 1 Rhagfyr 2023
Cais am drwydded (risg isel). Mae hyn yn cynnwys hyd at 60 munud o amser archwilio £175 £236
Cais am drwydded (mwy na risg isel). Mae hyn yn cynnwys hyd at 90 munud o amser archwilio £327 £408
Adnewyddu trwydded flynyddol: dim angen ymweliad archwilio £130 £168
Adnewyddu trwydded flynyddol: angen ymweliad archwilio sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys hyd at 60 munud o amser archwilio £141 £171
Adnewyddu trwydded flynyddol: angen mwy nag ymweliad archwilio sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys hyd at 60 munud o amser archwilio £193 £229

Ffioedd ychwanegol (ar gyfer pob math o grynhoad)

Gwasaneth Ffioedd o’r 1 Rhagfyr 2022 Ffioedd o’r 1 Rhagfyr 2023
Ymweliad ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio £246 £318
Ymweliad ar gyfer addasu trwydded. Mae hyn yn cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio £246 £318
Amser ymweld ychwanegol a godir fesul 15 munud £22 £22
Amser teithio ychwanegol a godir fesul 15 munud £22 £22

Amodau trwydded crynoadau anifeiliaid

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r amodau yn eich trwydded. Rhestrir yr amodau hyn ar y ffurflen gais ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • byddwch yn cymryd pob cam rhesymol i atal clefydau rhag lledaenu yn ystod crynoadau anifeiliaid (mesurau bioddiogelwch) - gweler biosecurity advice for animal gatherings (PDF, 788 KB, 6 pages)
  • byddwch yn penodi swyddog bioddiogelwch i sicrhau y cydymffurfir ag amodau’r drwydded (gellir penodi deiliad y drwydded i gyflawni’r rôl hon)
  • bod ffens o amgylch yr ardal drwyddedig i atal anifeiliaid rhag dianc
  • dim ond mewn cerbyd y bydd anifeiliaid yn dod i mewn i’r ardal anifeiliaid neu’n ei gadael (dim ond yn yr ardal anifeiliaid y dylid eu llwytho ar gerbydau neu eu dadlwytho o gerbydau)
  • ni fydd unrhyw anifeiliaid yn cyrraedd ar ôl cyfnod o 48 awr o’r amser dechrau yr hysbysebodd y safle y bydd ar agor i dderbyn anifeiliaid. Gallwch ofyn i APHA ymestyn y cyfnod hwn o dan rai amgylchiadau
  • byddwch yn cadw cofnodion i’w gwneud yn bosibl i anifeiliaid gael eu holrhain
  • byddwch yn cydymffurfio â rheolau ynglŷn â lles anifeiliaid ac ni fyddwch yn caniatáu i anifeiliaid sâl nac anifeiliaid wedi’u hanafu gael eu cyflwyno i’w gwerthu
  • bydd gennych weithdrefnau gweithredol wedi’u dogfennu gan gynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau anffafriol megis toriad yn y cyflenwad trydan neu’r goleuadau yn methu, anallu i lanhau a diheintio’n effeithiol, cludiant yn methu, digwyddiadau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid
  • bydd gennych gynllun wrth gefn ar gyfer yr hyn y byddech yn ei wneud pe bai achos o glefyd hysbysadwy yn cael ei amau yn ystod crynhoad. Mae’n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar y cynllun AGO04 sydd ar gael, o leiaf .

Adnewyddu eich trwydded

Bydd eich trwydded yn para am flwyddyn. Chi sy’n gyfrifol am wneud cais newydd os bydd angen i chi adnewyddu’r drwydded.

Pa mor aml y gellir cynnal crynoadau anifeiliaid ac am faint o amser

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod o leiaf 27 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r anifail olaf adael y safle a bod yr holl gyfarpar wedi cael ei lanhau a’i ddiheintio.

Nid yw’r rheol ynglŷn â 27 diwrnod yn gymwys os yw’r ardal gyfan wedi’i phalmantu â deunydd y gellir ei lanhau a’i ddiheintio’n effeithiol rhwng crynoadau anifeiliaid ac sy’n cael ei lanhau a’i ddiheintio’n effeithiol rhyngddynt. Mae deunyddiau a dderbynnir yn cynnwys:

  • sement
  • concrid
  • asffalt
  • deunyddiau anhydraidd eraill

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw

Rhaid i chi gofnodi:

  • enwau a chyfeiriadau pob aelod o staff sy’n gweithio yn yr ardal anifeiliaid
  • p’un a yw’r staff yn dod i gysylltiad â da byw unrhyw le arall
  • tarddiad yr anifeiliaid sy’n rhan o bob crynhoad
  • cyrchfan yr anifeiliaid neu, os na fydd ar gael, manylion y prynwr
  • manylion unrhyw gerbydau a ddefnyddir i gludo’r anifeiliaid fel y gellir eu holrhain os bydd angen

Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion yn gyfredol a’u cadw am 6 mis.

Rhaid i chi roi gwybod am symudiadau anifeiliaid fel y gellir eu cofnodi ar gronfeydd data symudiadau anifeiliaid cenedlaethol:

Cyfleusterau sydd eu hangen ar y safle

Os yw’r ardal anifeiliaid yn balmantog, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y llawr a’r holl osodiadau a ffitiadau mewn ardaloedd anifeiliaid:

  • mewn cyflwr da
  • yn gallu cael eu glanhau a’u diheintio ar ôl pob crynhoad

Dylai fod ardal ar wahân ar gyfer glanhau a diheintio cerbydau a ddefnyddir i gludo anifeiliaid. Mae’n rhaid i’r ardal hon fod yn addas ar gyfer glanhau a diheintio ar ôl pob crynhoad.

Os bydd angen i chi symud anifeiliaid rhwng ardaloedd, rhaid i’r ardaloedd ateb un o’r disgrifiadau canlynol:

  • maent yn ffinio â’i gilydd
  • maent wedi’u cysylltu gan lwybrau cerdded dynodedig

Crynhoi anifeiliaid i’w lladd

Os byddwch yn cynnal crynhoad lladd sy’n cynnwys anifeiliaid nad ydynt wedi treulio cyfnod o dan waharddiad symud ar fferm, rhaid iddo gael ei gynnal ar ardal anifeiliaid balmantog. Ni ellir cynnal crynoadau lladd fel rhan o unrhyw fath arall o grynhoad anifeiliaid.

Gwaredu cynhyrchion anifeiliaid

Rhaid gwaredu’r holl sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys:

  • porthiant
  • sarn
  • tail
  • unrhyw halogyddion eraill sy’n deillio o anifeiliaid

Rhaid eu gwaredu drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • eu difa
  • eu gwaredu er mwyn sicrhau na ddaw anifeiliaid i gysylltiad â nhw
  • eu trin er mwyn dileu’r risg y caiff clefydau eu lledaenu

Rhaid cofnodi’r dull gwaredu

Pan fydd y crynhoad anifeiliaid wedi dod i ben

Pan fydd pob crynhoad anifeiliaid a gynhelir o dan eich trwydded wedi dod i ben rhaid i chi sicrhau bod y cyfarpar a’r ardaloedd palmantog yn cael eu glanhau a’u diheintio ar ôl i’r holl anifeiliaid adael y safle a chyn y crynhoad anifeiliaid nesaf.

Cosbau

Os byddwch yn cynnal crynhoad anifeiliaid heb drwydded neu os byddwch yn methu â chydymffurfio ag amodau’r drwydded gallwch gael eich erlyn.

Efallai y caiff eich trwydded ei hatal dros dro neu ei thynnu’n ôl hefyd ac mae’n bosibl y bydd yn destun gwaith monitro ychwanegol gan APHA neu’r cyngor lleol.

Cyhoeddwyd ar 15 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 December 2022 + show all updates
  1. Added translation

  2. Fee information has been removed from the PDF attachment and added to the page. Fees increased on 1 December 2022 and will increase again in December 2023.

  3. Fees document updated.

  4. Added translation

  5. Page translated into Welsh language

  6. Linked to fees document

  7. Amendment made due to requirements of the new Animal Gatherings (Fees) (England) Order 2018 and Animal Gatherings (Fees) Order (Wales) 2018.

  8. Guidance rewritten due to changes in the animal gathering licence process.

  9. AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).

  10. First published.