Carchar Gartree
Mae Gartree yn garchar diogelwch uchel i ddynion yn Market Harborough, Swydd Gaerlŷr.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Trefnu eich ymweliad â Gartree
I ymweld â rhywun yn Gartree, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- trefnu eich ymweliad ymlaen llaw
- cael yr ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd yno
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Mae nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael mewn mis yn dibynnu ar lefel ei fraint.
Cysylltwch â Gartree os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Garchar Bryste
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
I drefnu ymweliad, gallwch:
- trefnu eich ymweliad ar-lein
- anfon e-bost i, socialvisits.gartree@justice.gov.uk
- ffonio, 01858 426 727
Mae’r llinell trefnu ymweliad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a hanner dydd, a rhwng 1pm a 4pm.
Dysgu mwy am gostau galwadau
Gall carcharorion hefyd drefnu eu hymweliadau eu hunain drwy siarad â swyddog adain a llenwi’r ffurflenni cais.
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul, 2pm i 4pm.
- Sylwch fod yr amseroedd ymweld yn cynnwys mynediad i’r carchar a’r broses chwilio. Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod pawb yn cael o leiaf 60 munud yn neuadd ymweliadau’r carchar.
Mae’r ganolfan ymweliadau ar agor o 1pm ymlaen, ac mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru erbyn 2:45pm neu efallai y cewch eich gwrthod rhag mynd i mewn i’r neuadd ymweliadau.
Sut i drefnu ymweliadau swyddogol
I drefnu ymweliad swyddogol, gallwch:
- anfon e-bost i socialvisits.gartree@justice.gov.uk
- ffonio’r llinell ffôn 01858 426 727
Mae’r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a hanner a rhwng 1pm a 4pm
Dysgu mwy am gostau galwadau
Amseroedd ymweld swyddogol dros gyswllt fideo:
- Dydd Llun rhwng 8am a 9am, 9am a 10am, a rhwng 10am a 11am
- Dydd Mercher, rhwng 8am a 9am, 9am a 10am, a rhwng 10am a 11am
- Dydd Mercher, rhwng 2pm a 3pm, 3pm a 4pm, a rhwng 4pm a 5pm
Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:
- Fore Mercher rhwng 9am a 11am. (Mae’r amseroedd ymweld yn cynnwys mynediad i’r carchar a’r broses chwilio.)
Mynd i Gartree
Dewch o hyd i Gartree ar y map
Yr orsaf drenau agosaf yw Market Harborough, sydd tua 4 milltir o’r carchar. O’r orsaf, gallwch gael bws (ac eithrio ar ddydd Sul) yn syth i’r carchar neu gallwch gael tacsi.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Mae ychydig o lefydd parcio ar gael yn y carchar hefyd, gan gynnwys llefydd ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.
Cyrraedd Gartree
Rhaid i bob ymwelydd sy’n 16 oed neu’n hŷn brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i mewn i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Bydd pob ymwelydd, gan gynnwys plant, yn cael eu chwilio yn unol â pholisi lleol i sicrhau diogelwch pawb a diogelwch y sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys cael eich chwilio gan gŵn, porth synhwyro metel a chael archwiliad corfforol drwy rwbio. Mae’r holl staff wedi’u hyfforddi i gyflawni’r tasgau hyn ar yr un pryd â chynnal safon uchel o broffesiynoldeb, a pharchu gwedduster ac anghenion unigol.
Cod gwisg
Mae gan Gartree bolisi cod gwisg llym ar gyfer ymwelwyr. Pwrpas y polisi yw sicrhau diogelwch a gwedduster yn ystod ymweliadau; ei nod yw diogelu amgylchedd teuluol priodol, lle nad oes unrhyw fasnachu nwyddau gwaharddedig nac ymddygiad amhriodol arall.
Nid ydych yn cael gwisgo’r canlynol:
- topiau sy’n rhy isel a chrysau gyda’r botymau ar agor - rhaid gorchuddio eich ysgwyddau a’ch cefn hefyd
- topiau sy’n dangos eich canol. Rhaid i dopiau/crysau fod yn ddigon hir i orchuddio band gwasg eich trowsus/siorts/sgert
- dillad y gallwch weld drwyddyn nhw
- dillad sy’n dangos lluniau a/neu ysgrifen dramgwyddus neu amhriodol
- dillad tîm chwaraeon, h.y. crysau pêl-droed
- dillad â hwd neu ddillad â sipiau hyd llawn - caniateir sipiau chwarter
- cotiau, siacedi (gan gynnwys siacedi siwt/blaseri) neu gardiganau
- dillad sydd wedi rhwygo, er enghraifft jîns wedi’u rhwygo
- siorts, sgertiau neu ffrogiau sydd uwch na’r pen-glin ac sy’n dangos unrhyw ran o’r goes uwchben y pen-glin
- dillad pen, oni bai eu bod at ddibenion crefyddol neu feddygol; gall hyn fod yn amodol ar gael eich chwilio’n breifat gan staff sy’n cael eu hystyried yn briodol ar gyfer y dasg. Os yw’r benwisg at ddiben meddygol, yna rhaid dangos prawf wrth i chi gyrraedd a chofrestru am y tro cyntaf
- rhaid i esgidiau beidio â bod ag uchder sawdl o fwy na 2 fodfedd ac ni chaniateir gwisgo sodlau stileto
- sgarffiau neu fenig
- oriawr o unrhyw fath
- gellir gwisgo sbectol ddi-bresgripsiwn a/neu sbectol haul
Os ydych chi’n gwisgo top amhriodol o dan eich cot, eich siaced neu eich cardigan a dyma’r cyfan sydd gennych i wisgo, bydd eich ymweliad yn cael ei wrthod.
Mae loceri addas ar gael yn y Ganolfan i Deuluoedd ac Ymwelwyr. Gallwch adael eitemau bach yn y loceri hyn (am ddim). Mae’r loceri wedi eu lleoli y tu mewn i’r ganolfan.
Eiddo personol
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y cewch ddod ag ef i mewn i Gartree gyda chi. Bydd yn rhaid i chi adael bron iawn popeth sydd gennych gyda chi mewn locer yn y Ganolfan i Deuluoedd ac Ymwelwyr, yn cynnwys bagiau, allweddi a chamerâu. Mae’r loceri ar gael i’w defnyddio am ddim. Gallwch fynd ag allwedd eich locer gyda chi i’r carchar. Byddwch hefyd angen mynd â’ch ID i’w ddangos eto yn nerbynfa’r carchar.
Ni chewch fynd â choets neu sedd car i mewn i’r carchar, a bydd yn rhaid eu gadael yn y Ganolfan i Deuluoedd ac Ymwelwyr. Mae cadair uchel ar gael yn y Neuadd Ymweliadau.
Yn ystod yr ymweliad
Os ydych chi’n ymweld â’r carchar am y tro cyntaf, bydd y tîm PACT lleol yn rhoi gwybod i chi am y broses ymweld yn y Ganolfan i Deuluoedd ac Ymwelwyr cyn dechrau eich ymweliad.
Mae rheolau llym ar waith o ran eich ymddygiad chi ac ymddygiad y person rydych chi’n ymweld ag ef yn y Neuadd Ymweliadau. Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Os ydych chi’n ymweld â’r carchar am y tro cyntaf, bydd y tîm PACT lleol yn rhoi gwybod i chi am y broses ymweld cyn dechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Cyfleusterau ymweld
Mae Canolfan i Deuluoedd ac Ymwelwyr Gartree, sydd ger y carchar ac yn ystyriol o deuluoedd, yn gweithredu fel ardal gofrestru yn ogystal ag ardal aros. Mae PACT Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai yn rhedeg y ganolfan ac maen nhw’n gallu cynnig gwybodaeth a chymorth. Mae toiledau ar gael yno, yn ogystal â lluniaeth ac ardal chwarae i blant.
Gallwch siarad yn uniongyrchol â PACT yma:
Ffôn: 01858 461 134 neu 01858 466 614
Neu anfon neges e-bost i: gartree@prisonadvice.org.uk
Ar ddiwrnodau ymweld, mae’r ganolfan ar agor o 1pm ymlaen. Mae’n rhaid i chi gofrestru yn y ganolfan erbyn 2:45pm neu efallai y cewch eich gwrthod rhag mynd i mewn i’r carchar.
Gallwch brynu tocynnau yn y ganolfan i gael lluniaeth i’w fwyta yn y Neuadd Ymweliadau yn ystod eich ymweliad. Rhaid cael arian parod i brynu tocynnau ac nid oes peiriant ATM yn Gartree. Ni allwch chi brynu mwy na gwerth £50 o docynnau. Os oes gennych chi unrhyw luniaeth ar ôl yn dilyn eich ymweliad rhaid i chi fynd a’r gweddill gyda chi o’r carchar. Nid yw carcharorion yn cael mynd ag unrhyw luniaeth sy’n weddill yn ôl i’w cell.
Diwrnodau teulu
Yn ogystal ag ymweliadau rheolaidd i deuluoedd a ffrindiau, mae Gartree yn anelu at gynnal 12 Diwrnod i’r Teulu bob blwyddyn, yn benodol ar gyfer carcharorion gyda pherthnasoedd ifanc o dan 18 oed. Mae pob Diwrnod i’r Teulu yn cael ei drefnu a’i redeg gan staff PACT, ac mae carcharorion yn cael cymdeithasu mwy â’u hymwelwyr iau drwy weithgareddau chwarae a chrefft.
Rhaid i’r carcharor wneud cais am Ddiwrnod i’r Teulu a rhaid i’r diwrnod gael ei gymeradwyo ymlaen llaw cyn i’r ymwelwyr gadarnhau eu bod yn dod i’r carchar. Mae rhagor o fanylion am Ddiwrnodau i’r Teulu a’r broses o drefnu ymweliad ar gael drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r tîm PACT yma gartree@prisonadvice.org.uk
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Gartree
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod ei amser yn Gartree.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho’r ap Prison Video
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Mae’r rhain ar gael rhwng 2:15pm a 3pm a 3:15 pm a 4pm ar ddiwrnodau ymweld.
Darllenwch fwy am sut mae ap Fideo’r Carchar yn gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd a gallan nhw wneud galwadau unrhyw bryd.
Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddyn nhw eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Gallan nhw ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon ar ôl iddyn nhw gyrraedd, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Bryste drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Mae’n bosib y gallwch atodi lluniau a chael ymateb, yn dibynnu ar reolau Gartree.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu llythyr ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen. Os nad ydych yn gwybod rhif y carcharor, defnyddiwch ei ddyddiad geni yn lle hynny.
Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Llyfrau yw’r unig eitemau y gallwch ddod gyda chi ar gyfer carcharor. Bydd y llyfrau’n cael eu casglu yn yr ardal chwilio a bydd y carcharor yn eu cael ar ôl iddyn nhw gael eu harchwilio gan y staff diogelwch.
Mae teuluoedd a ffrindiau carcharorion yn cael anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid neu gallan nhw archebu llyfrau gan werthwr sydd wedi’i gymeradwyo. Gall y gwerthwr yna ddod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.
Nid yw Gartree yn derbyn parseli dillad nac yn gadael i deuluoedd brynu eitemau gan ein cyflenwyr a’u danfon yma.
Mae carcharorion yn cael rhestr o eitemau y gallan nhw eu prynu gan gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo, ac mae’n rhaid iddyn nhw archebu’r eitemau eu hunain. I weld y rhestr lawn o siopau cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau llyfrgell ac addysg mewn carchardai, Atodiad A.
Cysylltu â Gartree am ragor o wybodaeth.
Bywyd yn Gartree
Mae Gartree wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, addas ac addysgol i ddynion, lle y gallan nhw ddysgu sgiliau newydd a fydd yn eu helpu ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau. Mae’n canolbwyntio ar leihau aildroseddu ac yn hyrwyddo diwylliant adsefydlu.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob unigolyn yng Ngharchar Gartree hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Gartree am y tro cyntaf, bydd yn cael sgwrs ag aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi, a fydd yn gofyn am anghenion iechyd a lles uniongyrchol y carcharor. Bydd hefyd yn cael ei weld gan weithiwr gofal iechyd clinigol proffesiynol.
Bydd yn cael pecyn gwybodaeth, ac fel arfer yn cael unrhyw eiddo a ddaeth gydag ef i’r carchar.
Yn dilyn y broses derbyn, bydd yn cael ei symud i’r uned gynefino lle gallai gael cawod a gwneud galwadau ffôn.
Cynefino
Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Gartree yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Bydd hyn yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion unigol gan gynnwys:
- iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Bydd yn cael gweld y llyfrgell a’r gampfa. Mae pawb hefyd yn cael gwybod am gymuned therapiwtig Gartree, rheolau’r carchar, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau’n gweithio.
Llety
Mae dros 700 o garcharorion yn byw yn Gartree, ac mae gan y rhan fwyaf eu celloedd eu hunain.
Addysg a gwaith
Mae’r holl raglenni a gwasanaethau yn Gartree wedi’u cynllunio i helpu carcharorion i addasu eu hymddygiad a lleihau eu risg o aildroseddu. Mae cefnogaeth ar gael i’r rheini sydd ag anableddau dysgu, help gyda sgiliau meddwl, lleihau trais a chynnal perthnasoedd iach.
Mae gan Gartree amrywiaeth o weithdai sy’n cynnwys gwaith coed, garddio, golchi dillad a TG. Mae rhai cymwysterau ar gael yn y gweithdai hefyd.
Mae’r carchar hefyd yn darparu gwasanaeth recordio ar gyfer papurau newydd llafar lleol a rhanbarthol.
Gall carcharorion ddatblygu sgiliau mewn dylunio gwefannau a meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith a chymryd rhan ym mhapur newydd y carchar.
Mae Coleg Milton Keynes yn darparu amrywiaeth o gyrsiau, gan ddechrau gyda llythrennedd a rhifedd. Mae cyrsiau eraill yn cynnwys llenyddiaeth Saesneg, celf, coginio, TG, gwaith barbwr a sgiliau adeiladu. Cynigir cyfleoedd addysg bellach drwy ddysgu o bell a’r Brifysgol Agored.
Sefydliadau y mae Gartree yn gweithio gyda nhw
Llyfrgelloedd Swydd Gaerlŷr sy’n darparu’r cyfleuster llyfrgell yn Gartree. Mae rhaglen o sesiynau crefft, diwrnodau lles a siaradwyr ynghyd â’r llyfrau.
Mae Ymddiriedolaeth Shannon yn helpu carcharorion yn Gartree i ddatblygu eu sgiliau darllen, magu hyder a symud ymlaen i gymwysterau addysgol.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Rhagor o wybodaeth am cyngor a llinellau cymorth i deuluoedd a ffrindiau.
I gysylltu â’n gwasanaeth darpariaeth i deuluoedd yng Ngharchar EF Gartree, anfonwch e-bost i: gartree@prisonadvice.org.uk
Mae’r Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT) yn darparu cymorth unigol gydag amrywiaeth o faterion sy’n wynebu teuluoedd ag anwyliaid yn y carchar. Gofynnwch yn y ganolfan ymwelwyr am ragor o wybodaeth.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01858 426 600 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 01858 426 886 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Gartree.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Gartree mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Gartree
Llywodraethwr: Rachel Jones
Ffôn: 01858 426 600
Cyfeiriad
HMP Gartree
Ulnes Walton
Leyland
Preston
PR26 8NE
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Updated video link visiting time slots.
-
How to book official visits section updated.
-
Updated time slots for official visits via video link.
-
Non-emergency contact phone number updated.
-
Non-emergency/Safer Custody phone number updated in Concerns, Problems and Complaints section.
-
Information about Local Authority Personal Advisors added.
-
Page updated with new information regarding booking lines, visiting times, legal visits, visiting facilities, family days, entering Gartree, gifts/parcels, and acting Governor.
-
Secure video calls update.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
New visiting times and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
Updated visit info
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated information to include confirmation of secure video calls being available at this prison.
-
First published.