Carchar Frankland
Mae Frankland yn garchar dynion diogelwch uchel yn Brasside, Swydd Durham.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Archebu a chynllunio eich ymweliad â Frankland
I ymweld â rhywun yn Frankland, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr yr unigolyn hwnnw
- archebu eich ymweliad o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw
- cael yr ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynychu
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad. Gall hyd at 2 oedolyn ymweld ar yr un pryd, ynghyd ag unrhyw blant.
Mae nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael yn dibynnu ar lefel ei fraint. Gallwch holi Frankland am hyn.
Ewch i wefan Nepacs i ddysgu mwy am ymweld â Frankland.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Frankland
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
I drefnu ymweliad gallwch:
- archebu eich ymweliad ar-lein
- archebu dros y ffôn, 0191 376 5048
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a hanner dydd.
Dysgu mwy am gostau galwadau
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth i ddydd Sul, 2pm i 4pm.
Bydd staff yn ceisio gadael i ymwelwyr aros am gyn hired â phosibl rhwng yr amseroedd hyn.
Sut i drefnu ymweliadau swyddogol
Amseroedd ymweld swyddogol dros fideo:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 11am, a rhwng 2pm a 4pm
I drefnu ymweliad fideo swyddogol, e-bostiwch videolinkfrankland@justice.gov.uk
Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:
- Dydd Mawrth, rhwng 9:30am a 11:30am
- Dydd Iau, rhwng 9:30am a 11:30am
I drefnu ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol, e-bostiwch legalvisits.frankland@justice.gov.uk
Mynd i Frankland
Dewch o hyd i Frankland ar y map
Yr orsaf drenau agosaf yw Durham, yna ewch mewn tacsi neu fws i Brasside.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Mae modd parcio am ddim yn y carchar ac ar y stryd. Mae llefydd parcio ar gael i ddeiliaid Bathodyn Glas.
Cyrraedd Frankland
Rhaid i bob ymwelydd sy’n 16 oed neu’n hŷn brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i mewn i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Mae’n bosibl y bydd cŵn diogelwch yn eich arogli hefyd.
Mae gan Frankland bolisi cod gwisg llym, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo dillad smart (dim festiau, dim topiau isel, dim trowsus byr, dim ffrogiau byr, dim dillad wedi rhwygo, dim sloganau sarhaus, a dim penwisgoedd, ar wahân i’r rhai a wisgir am resymau crefyddol).
Mae lluniaeth ar gael yn ystod eich ymweliad, ond dylid archebu a thalu am unrhyw luniaeth yn y ganolfan ymwelwyr cyn i’ch ymweliad ddechrau.
Mae man chwarae i blant ar gael yn y neuadd ymweld.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y cewch ddod gyda chi i mewn i Frankland. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer (gan ddefnyddio darn £1 y byddwch yn ei gael yn ôl) neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.
Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Cyfleusterau ymweld
Mae yma ganolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan Nepacs. Mae’r ganolfan ar agor ar ddiwrnodau ymweld rhwng 11:30am a 4:15pm.
Mae lluniaeth ar gael i’w brynu yn ystod eich ymweliad ac mae man chwarae i blant.
Diwrnodau teulu
Mae ymweliadau dydd i deuluoedd wedi ailddechrau. Caiff y manylion llawn eu rhoi i garcharorion drwy hysbysiadau ar yr adain, a drwy gynrychiolwyr yr adain. Rhoddir hysbysiadau yn y ganolfan ymwelwyr hefyd. Mae Frankland yn ceisio cynnal 12 o ddiwrnodau ymweld i deuluoedd bob blwyddyn.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Frankland
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Frankland.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho’r ap Prison Video
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Darllenwch fwy am sut mae ap Fideo’r Carchar yn gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion fynediad at ffôn yn y gell sy’n cefnogi cysylltiadau teuluol.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar, Prison Voicemail.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Frankland drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a chael atebion, yn dibynnu ar y rheolau yn Frankland.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch â Frankland.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.
Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon
Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchar trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioeau wythnosol.
Gallwch anfon neges atom, a gwrando ar y sioeau yn nationalprisonradio.com
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych chi’n gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Allwch chi ddim postio na dod ag unrhyw beth i garcharor yn Frankland. Rhaid archebu unrhyw beth sydd ei angen ar y carcharor drwy gatalogau’r carchar.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.
I weld y rhestr lawn o siopau cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau llyfrgell ac addysg mewn carchardai, Atodiad A.
Bywyd yn Frankland
Mae Frankland wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob unigolyn yn Frankland hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Frankland am y tro cyntaf, byddant yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddant yn cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a lles sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Frankland yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 850 o garcharorion yn byw yn Frankland ar draws 8 adain. Celloedd sengl sydd yno, gyda thoiled a sinc bob un.
Mae yno uned gofal iechyd ac uned datblygu rheolaeth.
Mae yno gyfleusterau campfa ac mae gan bob carcharor fynediad at amrywiaeth o weithgareddau corfforol.
Addysg a gwaith
Mae Coleg Milton Keynes yn darparu amrywiaeth o gyrsiau o lefel sylfaenol i lefel gradd. Gall carcharorion astudio’n llawn-amser neu’n rhan-amser mewn amrywiaeth o leoliadau diwydiannol, galwedigaethol ac academaidd, ac ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.
Gall carcharorion yn Frankland weithio ym meysydd gwneud dodrefn, torri a gwnïo, ac ailgylchu.
Cynigir amrywiaeth o raglenni ymddygiad troseddol.
Sefydliadau y mae Frankland yn gweithio gyda nhw
Mae Frankland yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau lleol i roi cymorth ac arweiniad i garcharorion, gan gynnwys:
- Age UK
- Y Lleng Brydeinig Frenhinol
- Fine Cell Work
- Y Samariaid
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor i deulu a ffrindiau.
Mae’r Strategaeth Plant a Theuluoedd yn cael ei goruchwylio gan ein Pwyllgor Lleihau Aildroseddu, sy’n cael ei gadeirio gan ein Pennaeth Lleihau Aildroseddu. Mae modd cysylltu â nhw drwy e-bostio Businesshubfrankland@justice.gov.uk.
Cefnogaeth yn Frankland
Mae tîm cymorth i deuluoedd Partners of Prisoners (POPS) yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Gallwch ffonio neu ofyn i gael siarad â rhywun yn y ganolfan ymwelwyr.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 0191 376 5000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 0800 032 0079 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Frankland.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Frankland mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Frankland
Llywodraethwr: Darren Finley
Ffôn: 0191 376 5048
Ffacs: 0191 376 5001
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: BusinesshubFrankland@Justice.gov.uk
Cyfeiriad
Business Hub
HMP Frankland
Brasside
Durham
DH1 5YD
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
How to book official visits section revised.
-
Updated operating times for visits booking line from 8:30am to 9am.
-
Secure video calls update.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated physical contact guidance
-
New visiting times and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
Updated visit info
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated the family and friends visits booking line times of operation.
-
Updated governor
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
added video calling info
-
First published.