Canllawiau

Ffeilio datganiad cadarnhau’ch cwmni

Cael gwybod beth yw datganiad cadarnhau a sut i anfon eich dadganiad i Dŷ’r Cwmnïau.

Rhaid i bob cwmni, gan gynnwys cwmnïau segur a rhai nad ydynt yn masnachu, ffeilio datganiad cadarnhau. Mae’n cadarnhau bod y wybodaeth sydd gennym am eich cwmni yn gyfredol.

Rhaid ichi ffeilio datganiad o leiaf unwaith y flwyddyn, ond cewch ddewis ffeilio’n amlach.

Beth yw datganiad cadarnhau?

Sut i ffeilio’ch datganiad cadarnhau

Bydd arnoch angen eich cyfrinair a’ch cod dilysu. Os nad yw’r rhain gennych, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer ffeilio ar lein.

Diweddaru manylion eich cwmni

Cyn ffeilio’ch datganiad cadarnhau, dylech wirio manylion eich cwmni. Rhaid ichi ddiweddaru’ch cofnodion os yw unrhyw wybodaeth yn anghywir neu wedi dyddio.

Newidiadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud cyn anfon eich datganiad cadarnhau

Cyn cadarnhau bod eich cofnodion yn gyfredol, rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau i’ch:

  • cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd
  • pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni

Newidiadau y gallwch eu gwneud wrth ffeilio’ch datganiad cadarnhau

Mae gan y datganiad cadarnhau adran wybodaeth ychwanegol. Gallwch chi gwblhau hyn os bu newidiadau i’ch:

Os nad oes dim byd wedi newid

Rhaid i chi ffeilio datganiad cadarnhau hyd yn oed os na fu unrhyw newidiadau i’ch cwmni yn ystod y cyfnod adolygu. Mae hyn yn cadarnhau bod eich cofnodion yn gyfredol a bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir.

Cyfnod adolygu

Rhaid i chi ffeilio o leiaf un datganiad cadarnhau bob 12 mis. Mae’ch cyfnod adolygu 12 mis yn dechrau ar:

  • y dyddiad y corfforwyd eich cwmni, neu
  • y dyddiad y ffeilioch eich datganiad cadarnhau diwethaf

Rhaid i chi ffeilio’ch datganiad cyn pen 14 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod adolygu.

Enghraifft Corfforwyd eich cwmni newydd ar 1 Ionawr 2022.

Bydd eich cyfnod adolygu yn dechrau ar 1 Ionawr 2022 ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

Os ffeiliwch datganiad yn gynnar

Gallwch ffeilio datganiad unrhyw bryd yn ystod y cyfnod adolygu. Os ydych chi’n ffeilio datganiad cadarnhau yn gynnar, bydd yn dechrau cyfnod adolygu 12 mis newydd.

Enghraifft Corfforwyd eich cwmni newydd ar 1 Ionawr 2022.

Mae’ch cwmni yn ffeilio datganiad cadarnhau ar 30 Medi 2022. Bydd eich cyfnod adolygu nesaf yn dechrau ar 1 Hydref 2022 ac yn dod i ben ar 30 Medi 2023.

Os nad ydych yn ffeilio’ch datganiad cyn pen 14 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod adolygu, efallai y bydd eich cwmni a’i swyddogion yn cael eu herlyn. Efallai y bydd eich cwmni hefyd yn cael ei ddileu o’r gofrestr.

Ffi flynyddol

Mae’n costio:

  • £13 i ffeilio’ch datganiad cadarnhau ar-lein
  • £40 i anfon ffurflen papur i ni.

Cyfnod talu

Mae eich cyfnod talu ar wahân i’ch cyfnod adolygu. Mae’n dweud wrthych pryd mae eich ffi flynyddol yn ddyledus.

Mae cyfnod talu yn cwmpasu 12 mis gan ddechrau gyda dyddiad ymgorffori. I gwmnïau hŷn, mae pob cyfnod talu yn cwmpasu 12 mis ac yn gorffen ar ben-blwydd dyddiad dychwelyd eich datganiad blynyddol diwethaf (AR01).

Ni allwch newid eich cyfnod talu.

Rhaid i chi dim ond talu’r ffi flynyddol gyda’ch datganiad cadarnhau cyntaf yn y cyfnod talu o 12 mis. Yna gallwch ffeilio cymaint o ddatganiadau cadarnhau ag y dymunwch yn y cyfnod talu hwn.

Bydd ffi newydd yn ddyledus pan fydd eich cwmni’n cyrraedd pen-blwydd y cyfnod talu o 12 mis.

Enghraifft Mae cyfnod talu’ch cwmni yn dechrau ar 1 Ionawr 2022 ac yn did i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

Os ydych chi’n ffeilio’ch datganiad ar 30 Medi 2022, rhaid ichi dalu’r ffi. Os ydych chi’n ffeilio datganiad arall ar 1 Rhagfyr 2022, nid oes rhaid ichi dalu eto.

Os ydych chi’n ffeilio datganiad cadarnhau ar 5 Ionawr 2023, rhaid ichi dalu’r ffi gan ei fod yn gyfnod talu newydd.

Datganiad cadarnhau: esbonio cyfnod adolygu a chyfnod talu (Saesneg yn unig)

Adfer cwmni

Os ydych chi’n adfer cwmni i’r gofrestr, dim ond ffurflen bapur CS01c y gallwch chi ei ffeilio.

Wrth adfer cwmni, rhaid ichi roi’r dyddiad yr oedd y datganiad i fod i gael ei ffeilio cyn iddo gael ei ddileu o’r gofrestr. Os nad ydych chi’n siŵr o’r dyddiad cywir, cysylltwch â ni cyn ffeilio’ch datganiad.

Cyhoeddwyd ar 15 January 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 March 2024 + show all updates
  1. Updated with new measures under the Economic Crime and Corporate Transparency Act.

  2. Content about payment periods reviewed and updated with clearer guidance.

  3. The automatic extensions granted by the Corporate Insolvency and Governance Act have come to an end.

  4. The automatic extensions granted by the Corporate Insolvency and Governance Act will come to an end for filing deadlines that fall after 5 April 2021.

  5. Added video on 'How to file your confirmation statement'.

  6. Welsh translation added.

  7. Guidance updated with more information about filing and payment periods.

  8. Video added.

  9. Added translation