Canllawiau

Cofrestru gwartheg sy’n cael eu mewnforio neu eu symud i Gymru neu Loegr

Yr hyn mae'n rhaid i geidwaid gwartheg ei wneud pan fyddan nhw’n mewnforio neu'n symud gwartheg i Gymru neu Loegr, gan gynnwys y rheolau ynghylch pasbortau a thagio clustiau.

Applies to England and Wales

Rhaid i wartheg, buail a byfflos gael eu cofrestru pan fyddwch chi’n eu mewnforio neu’n eu symud i Gymru neu Loegr fel bod modd olrhain eu symudiadau drwy’r amser, a hynny er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau. I gofrestru gwartheg, mae’n rhaid ichi:

  • gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r tagiau clust cywir
  • gwneud cais am basbort gwartheg

Heb y tagiau clust cywir neu basbortau, chewch chi ddim gwerthu na symud yr anifail.

Pryd does dim angen ichi wneud cais am basbort neu amnewid tagiau clust

Does dim angen ichi wneud cais am basbortau nac amnewid tagiau clust:

Gwartheg sy’n cael eu mewnforio o’r UE neu eu symud o Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw

Pryd i amnewid tagiau clust

Bydd anifeiliaid o’r UE, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn cadw’r tagiau clust o’u gwlad wreiddiol gydol eu hoes.

Does dim angen ichi amnewid tagiau clust o’r wlad wreiddiol oni bai bod un ar goll. Rhaid ichi archebu tag amnewid o fewn 28 diwrnod ar ôl sylwi bod un ar goll. Cysylltwch â chyflenwr tagiau clust sydd wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg) i gael tag amnewid.

Pryd i wneud cais am basbort

Rhaid ichi wneud cais am basbort gwartheg o fewn 15 diwrnod ar ôl i’r anifail gyrraedd eich daliad. Anfonwch y canlynol at Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP):

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Gwartheg sy’n cael eu symud o Weriniaeth Iwerddon

Mae gan wartheg sydd wedi’u geni ac wedi’u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon ers 1 Ionawr 2018 y cod gwlad ‘372’ ar eu tagiau clust. Ond bydd cod y wlad yn ymddangos fel ‘IE’ ar y canlynol:

  • y System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein
  • y pasbort sy’n cael ei roi gan GSGP
  • unrhyw dagiau amnewid sy’n cael eu harchebu tra bo’r anifail yng Nghymru neu Loegr

Y rheswm am hyn yw mai dim ond codau â dwy lythyren y gall systemau GSGP eu derbyn er mwyn olrhain anifeiliaid.

Mae’r naill god neu’r llall yn gywir ac fe gân nhw eu derbyn wrth i anifeiliaid gael eu symud a’u gwerthu.

Bydd tagiau clust sy’n cael eu harchebu trwy’r system dyrannu tagiau clust (ETAS) yn dangos ‘IE’ fel cod y wlad.

Gwartheg sy’n cael eu mewnforio o’r tu allan i’r UE, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw

Diweddaru cofrestr eich daliad

O fewn 36 awr ar ôl i’r anifail gyrraedd eich daliad, rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad.

Tynnu ac amnewid tagiau clust

O fewn 20 diwrnod ar ôl i’r anifail adael y safle rheoli ffiniau, neu cyn iddo adael eich daliad os yw hynny’n gynt, mae’n rhaid ichi:

  • tynnu unrhyw dagiau clust gwreiddiol - efallai y bydd arnoch chi angen milfeddyg i wneud hyn
  • tagio’r anifail â thagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig oddi wrth gyflenwr tagiau clust sydd wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).

Rhaid hefyd ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad eto â gwybodaeth am dag clust newydd y Deyrnas Unedig o fewn 36 awr ar ôl i fanylion adnabod newydd yr anifail gael eu rhoi.

Gwneud cais am basbort gwartheg

O fewn 15 diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer tagio’r glust, rhaid ichi wneud cais am basbort gwartheg.

Mae hyn yn golygu bod rhaid i GSGP gael eich cais am basbort o fewn 35 diwrnod ar ôl i’r anifail adael y safle rheoli ffiniau. Bydd eich cais yn cael ei wrthod os bydd yn cyrraedd ar ôl mwy na 35 diwrnod.

Mae angen ichi anfon:

Anfon eich dogfennau at:

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Beth sy’n digwydd nesaf

Fel arfer, byddwch yn cael eich pasbort gwartheg o fewn 14 diwrnod.

Darllenwch y canllawiau ar sut i gael, cywiro neu ddiweddaru pasbort gwartheg os bydd problem ynglŷn â’ch pasbort, neu os na fydd yn cyrraedd.

Cysylltwch â GSGP

Gallwch gysylltu â GSGP i gael cyngor.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 June 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. The Livestock Unique Identification Service (LUIS) has replaced the Ear Tagging Allocation System (ETAS).

  3. Clarified what cattle keepers need to do when they've imported or moved cattle into England or Wales.

  4. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  5. BCMS email address updated on form CPP16.

  6. Change to format of Republic of Ireland ear tag numbers.

  7. Minor amendment to form CPP16

  8. Version 6 of the CPP16 added

  9. New version of application for cattle passports form (CPP16) published

  10. New version of Application for cattle passports form (CPP16) published

  11. First published.