Skip to main content
Canllawiau

Gwiriwch pa lwybr bwydydd newydd i’w ddefnyddio

Ymchwiliwch i statws eich bwyd a darganfyddwch sut i ofyn am benderfyniad (ceisiadau o dan ymgynghoriad Erthygl 4) os yw’n dal i fod yn ansicr.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae bwydydd newydd yn fwydydd nad oedden nhw’n cael eu bwyta i raddau helaeth gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU) na’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn 15 Mai 1997.

Rhaid i fwydydd newydd gael eu hawdurdodi cyn iddyn nhw allu cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Rhaid i’r trefniadau ar gyfer eu gwerthu a’u defnyddio gydymffurfio â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 a’r telerau awdurdodi perthnasol.

Defnyddiwch y canllawiau hyn i nodi pa lwybr bwydydd newydd sy’n berthnasol i’ch bwyd neu gynhwysyn a deall beth i’w wneud nesaf. Mae’r llwybr yn dibynnu a oes angen i chi sefydlu ei statws fel bwyd newydd neu geisio awdurdodiad i’w roi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.

Mae canllawiau ar wahân yn berthnasol i Ogledd Iwerddon. Dilynwch y canllawiau ar fwydydd newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Gwirio statws eich bwyd fel bwyd newydd ac unrhyw awdurdodiad sy’n bodoli

Fel gweithredwr busnes bwyd, rydych chi’n gyfrifol am wirio a yw’r ddeddfwriaeth bwydydd newydd yn gymwys i’ch bwyd cyn ei roi ar y farchnad. Rhaid i chi wybod ei gynhwysion, y broses gynhyrchu, ei ddefnyddiau arfaethedig ac a all unrhyw agwedd fod yn newydd.

Cyn cyflwyno cais am benderfyniad neu gais am awdurdodiad, gwiriwch a yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r bwyd eisoes wedi’i awdurdodi ar gyfer eich defnydd arfaethedig

  • mae tystiolaeth o’i fwyta i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997

  • mae penderfyniad ar ei statws fel bwyd newydd eisoes wedi’i gyhoeddi

Bwriad y gwiriadau hyn yw eich helpu i ddeall statws eich cynnyrch a nodi’r llwybr mwyaf priodol. Nid ydynt yn rhan o broses orfodol. Mae Cofrestr Prydain Fawr o awdurdodiadau bwyd newydd yn rhestru’r bwydydd newydd a ganiateir i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Gwiriwch fod yr awdurdodiad yn cwmpasu eich bwyd a’ch defnydd arfaethedig ohono, gan gynnwys unrhyw amodau a chyfyngiadau diogelu data.

Oni bai bod cyfyngiadau diogelu data yn berthnasol, gellir gwerthu bwyd newydd awdurdodedig yn unol â’i delerau awdurdodi. Darllenwch y canllawiau ar ddefnyddio’r gofrestr o awdurdodiadau bwyd newydd. Nid yw’r gofrestr yn cymryd lle’r angen i sefydlu statws bwyd sydd heb ei restru.

Adnoddau er mwyn ymchwilio i statws bwyd newydd

Mae’r canllawiau hyn yn cynnig adnoddau i helpu gweithredwyr busnesau bwyd i fynd ati i ymchwilio i statws eu cynnyrch fel bwyd newydd. Defnyddiwch yr adnoddau yn y tabl hwn i ymchwilio i’r bwyd, y dulliau paratoi a’r defnydd arfaethedig penodol.

Ceisiwch chwilio gan ddefnyddio enwau amgen, enwau gwyddonol a, lle bo’n berthnasol, enwau mewn ieithoedd eraill.

Dim ond drwy broses ymgynghori Erthygl 4 y gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd roi dilysiad cyfreithiol ar statws cynnyrch fel bwyd newydd.

Nid yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymateb i geisiadau anffurfiol gan fusnesau bwyd i bennu statws bwyd newydd.

Adnodd Sut y gall fod o gymorth Cyfyngiadau a gwiriadau
Cofrestr Prydain Fawr o awdurdodiadau bwydydd newydd Mae’n rhestru’r bwydydd newydd sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr. Gwiriwch y telerau, y defnydd arfaethedig ac unrhyw gyfyngiadau diogelu data. Canllawiau ar ddefnyddio’r gofrestr o awdurdodiadau bwyd newydd.
Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd Mae’r dudalen hon yn manylu ar ganlyniadau ymgynghoriadau ar fwydydd newydd yn y DU, a elwir hefyd yn ‘geisiadau am ymgynghoriad o dan Erthygl 4’. Mae’n cynnwys cyfiawnhad cryno dros y penderfyniad. Gwiriwch fod y bwyd sy’n cael ei ddisgrifio yn y penderfyniad yn cyd-fynd â’ch cynnyrch.
Rhestr yr Undeb Ewropeaidd o fwydydd newydd awdurdodedig Y rhestr gyfreithiol rwymol ar gyfer yr UE a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys amodau, manylebau a gofynion labelu. Nid yw’r rhestr yr un peth â Chatalog Statws Bwydydd Newydd yr UE, ac nid yw’n sefydlu awdurdodiadau Prydain Fawr.
Canlyniadau ceisiadau ymgynghori ar statws bwydydd newydd yn yr UE Penderfyniadau Erthygl 4 wedi’u cyhoeddi, ynghyd â rhesymau cryno a thystiolaeth o ran defnydd a allai fod yn berthnasol. Mae penderfyniadau statws yr UE a wnaed cyn 1 Ionawr 2021 yn parhau i fod yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Nid yw penderfyniadau diweddarach yr UE yn gymwys ym Mhrydain Fawr, ond gallant ddarparu tystiolaeth berthnasol o ddefnydd yn yr UE.
Catalog Statws Bwydydd Newydd yr UE Gwybodaeth am fwydydd sy’n cael eu hystyried yn newydd neu ddim yn newydd, gan gynnwys bwydydd newydd sydd heb eu hawdurdodi. Ddim yn gyfreithiol rwymol nac yn gynhwysfawr. Nid yw absenoldeb yn sefydlu statws. Nid yw’r cofnodion yn dangos pryd y daethpwyd i benderfyniad; defnyddiwch ganlyniadau ymgynghoriadau dyddiedig lle bo hynny’n berthnasol.
Rhestr BELFRIT (PDF) Gwybodaeth a ddatblygwyd gan awdurdodau Gwlad Belg, Ffrainc a’r Eidal am gynhyrchion botanegol (cynhwysion sy’n deillio o blanhigion) a pharatoadau ar gyfer atchwanegiadau bwyd. Mae perthnasedd yn dibynnu ar ran y planhigyn, y paratoad a’r defnydd arfaethedig. Mae fersiwn Gwasanaeth Cyhoeddus Ffederal Gwlad Belg, sydd ar gael yn Ffrangeg ac Iseldireg, yn cynnwys planhigion gwaharddedig, madarch bwytadwy a phlanhigion a ganiateir mewn atchwanegiadau, gydag amodau fel yr uchafswm dyddiol fesul dogn dyddiol a dulliau dadansoddi a argymhellir. Nid yw’r rhestrau hyn, ynddynt eu hunain, yn gyfystyr ag awdurdodiadau Prydain Fawr.
Rhestr blanhigion EuroFIR-NETTOX (PDF) Yn rhestru 334 o blanhigion Ewropeaidd o bwys ar farchnad yr UE cyn i ddeddfwriaeth bwydydd newydd ddod i rym. Gall gefnogi ymchwil i ddefnydd blaenorol. Gwiriwch ei berthnasedd i’r bwyd a’r paratoad penodol.
Rhestr yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) o gynhwysion perlysieuol gwaharddedig a chyfyngedig Yn rhestru cynhwysion perlysieuol sy’n destun cyfyngiadau’r DU, ynghyd â dolenni i ddeddfwriaeth berthnasol. Er arweiniad yn unig. Nid yw defnydd meddyginiaethol yn sefydlu statws y cynhwysyn fel bwyd newydd nac yn dystiolaeth o’i fwyta.

Dewis y llwybr priodol

Beth mae ymgynghoriad Erthygl 4 yn ei wneud

Mae ymgynghoriad Erthygl 4 yn ystyried eich tystiolaeth i benderfynu a yw bwyd yn dod o dan ddeddfwriaeth bwydydd newydd (a yw’n newydd neu beidio) ac a oes modd dangos bod y bwyd wedi’i fwyta i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997.

Nid yw’n asesu diogelwch nac yn awdurdodi bwyd i’w werthu.

Os penderfynir bod y bwyd yn newydd, rhaid iddo fod wedi’i gwmpasu gan awdurdodiad cyn y gellir ei roi ar farchnad Prydain Fawr. Darllenwch y canllawiau ar geisiadau Erthygl 10 neu, os yw’n gymwys, y canllawiau ar fwydydd traddodiadol fel y bo’n briodol.

Mae penderfyniadau cyhoeddedig ar gael ar y dudalen canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd.

Tystiolaeth o ddefnydd sylweddol cyn 15 Mai 1997

Rhowch dystiolaeth bod y bwyd penodol a gwmpesir gan eich cais wedi’i fwyta fel bwyd i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Esboniwch sut mae pob dogfen yn ymwneud â’r bwyd hwnnw.

Nid oes unrhyw swm na math o dystiolaeth wedi’i ragnodi a fydd yn sefydlu hanes o fwyta: ystyrir pob cais ar ei berthnasedd, ansawdd a phwysau cyffredinol y dystiolaeth, gan gynnwys pryd a ble y cafodd y bwyd ei fwyta, i ba raddau y digwyddodd, a sut y cafodd ei fwyta.

Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • cofnodion gwerthu ac anfonebau
  • labeli hanesyddol, catalogau a thystiolaeth o argaeledd masnachol
  • cofnodion mewnforio neu allforio
  • llyfrau ryseitiau a chyhoeddiadau masnach
  • tystiolaeth sy’n dangos pwy oedd yn bwyta’r bwyd, ble, pryd ac ym mha faint

Mae’r dystiolaeth hon yn helpu i sefydlu a oedd y bwyd yn cael ei fwyta gan nifer sylweddol o bobl, ar draws ardal ddaearyddol eang, fel rhan o’r deiet arferol, ac a oedd ar gael yn fasnachol cyn 15 Mai 1997. Mae’r prawf hwn yn wahanol i’r hanes o ddefnydd diogel sy’n ofynnol o dan y weithdrefn bwyd traddodiadol.

Pwysig: Rhowch ddigon o dystiolaeth i ategu’ch cais; efallai na fydd un ddogfen yn ddigonol ar ei phen ei hun. Gall ceisiadau sydd heb ddigon o wybodaeth gael eu hystyried yn annilys, ac efallai na fyddent yn symud ymlaen i’r cam asesu.   

Gwirio’ch cais cyn ei gyflwyno

  • gwiriwch gofrestr Prydain Fawr, canlyniadau ymgynghoriadau cyhoeddedig ac adnoddau ymchwil perthnasol

  • nodwch y bwyd unigol sydd wedi’i gwmpasu gan eich cais a chadarnhau mai Erthygl 4 yw’r llwybr priodol
  • rhowch dystiolaeth bod y bwyd wedi’i fwyta i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997
  • pan nad oes gwybodaeth am fwyta’r bwyd i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997, neu fod yr wybodaeth honno’n gyfyngedig, rhowch ddisgrifiadau o’r wybodaeth rydych chi wedi’i hystyried sy’n dangos hyn
  • gwnewch yn siŵr bod y dystiolaeth yn ymwneud â’r bwyd penodol ac eglurwch unrhyw gymariaethau â bwydydd eraill
  • rhowch yr holl wybodaeth ofynnol, dogfennau ategol ac esboniad o’u perthnasedd

Gellir ystyried bod cais yn annilys os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae tystiolaeth ar goll i ddangos bod y bwyd wedi’i fwyta i raddau helaeth
  • mae manylion ar goll o’r wybodaeth ynghylch hanes defnydd a ystyriwyd gan yr ymgeisydd
  • mae’r dystiolaeth yn ymwneud â bwyd gwahanol
  • does dim digon o wybodaeth wedi’i rhoi i gefnogi unrhyw gymariaethau a wnaed â’r bwyd dan sylw
  • mae’r wybodaeth yn ymwneud â defnydd meddyginiaethol yn hytrach nag fel bwyd
  • mae’r cais yn cwmpasu bwydydd lluosog, ystod o gynhyrchion neu fwyd cyfansawdd yn hytrach nag un bwyd
  • mae gwybodaeth allweddol neu wybodaeth ategol ar goll
  • nid yw’r cynnyrch yn cael ei ystyried yn fwyd

Gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd gysylltu ag ymgeiswyr i ofyn am eglurhad neu wybodaeth ychwanegol. Fodd bynnag, gall ceisiadau sydd heb ddigon o wybodaeth gael eu hystyried yn annilys, ac efallai na fyddent yn symud ymlaen i’r cam asesu. 

Paratoi a chyflwyno’ch cais

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn a gymathwyd (UE) 2018/456 yn nodi’r wybodaeth sy’n ofynnol. Rhaid cynnwys:

Dylai’r nodyn esboniadol egluro sut mae’r dogfennau ategol yn ymwneud â’r bwyd sy’n destun y cais a pham maent yn berthnasol i’r asesiad ar gyfer pennu statws bwyd newydd.

Nid yw cyflwyniad yn gwneud cais yn ddilys yn awtomatig. Mae’r wybodaeth yn cael ei hadolygu i benderfynu a yw’n ddigonol at ddiben asesiad.

Mae ceisiadau’n cael eu hadolygu yn gyntaf i benderfynu a ydynt yn cynnwys digon o wybodaeth at ddiben dilysu. Dim ond ceisiadau dilys sy’n gallu symud i’r cam asesu.

Os nad yw’n ddigonol, gellir gofyn am fwy o wybodaeth neu gellir penderfynu bod y cais yn annilys.

Efallai y gofynnir i chi roi eglurhad neu wybodaeth ychwanegol yn ystod y cam dilysu neu asesu. Gall ceisiadau sydd heb ddigon o wybodaeth gael eu hystyried yn annilys, ac efallai na fyddent yn symud ymlaen i’r cam asesu.

Dylech gyflwyno’ch cais am ymgynghoriad Erthygl 4, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol, drwy’r porth ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig.

Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno

  1. Dilysu: mae eich gwybodaeth yn cael ei gwirio i benderfynu a all asesiad ddechrau.

  2. Ceisiadau am fwy o wybodaeth: efallai y bydd gofyn i chi roi eglurhad neu dystiolaeth ychwanegol.

  3. Canlyniad dilysrwydd: cewch wybod a yw’r cais yn ddilys. Gall diffyg gwybodaeth arwain at gais annilys.

  4. Asesiad: mae’r dystiolaeth mewn cais dilys yn cael ei hasesu.

  5. Ceisiadau am fwy o wybodaeth: efallai y bydd gofyn i chi roi eglurhad neu dystiolaeth ychwanegol.

  6. Argymhelliad a phenderfyniad: mae argymhelliad yn cael ei baratoi a gwneir penderfyniad ar statws y cynnyrch fel bwyd newydd.

  7. Cyhoeddiad: rhoddir gwybod i chi am y penderfyniad a chaiff y canlyniad ei gyhoeddi ar y dudalen ‘Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd’.

Mae’r amser sydd ei angen yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos, ansawdd y dystiolaeth ac a oes angen rhagor o wybodaeth. Ni all yr Asiantaeth Safonau Bwyd ddarparu amserlen safonol ar gyfer pob cais.

Gwybodaeth i awdurdodau lleol

Yn gyntaf, edrychwch ar y canllawiau cyhoeddedig, Rhwydwaith Rhannu’r ASB, a’r cwestiynau ac atebion presennol.

Os nad yw’r rhain yn datrys y broblem, dilynwch y broses uwchgyfeirio ar Rwydwaith Rhannu’r ASB. Gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd roi cyngor anffurfiol ar statws bwyd newydd pan fo hyn yn angenrheidiol ac yn briodol, gan gynnwys er budd diogelwch defnyddwyr neu fudd y cyhoedd ehangach.

Argraffu'r dudalen hon