Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd
Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd, a elwir hefyd yn ymgynghoriadau Erthygl 4.
Mae bwydydd newydd yn fwydydd nad oedden nhw’n cael eu bwyta i raddau helaeth gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU) na’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn 15 Mai 1997. Gweld holl ganllawiau bwyd newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae’r broses ymgynghori ar fwydydd newydd (a elwir hefyd yn gais ymgynghori Erthygl 4) ar gael i fusnesau sy’n ansicr ynghylch statws bwyd newydd eu cynnyrch/cynhyrchion, ac y mae tystiolaeth helaeth iddynt gael eu bwyta yn y DU neu’r Undeb Ewropeaidd (EU) cyn mis Mai 1997.
Gwiriwch y dudalen hon ar gyfer penderfyniadau Erthygl 4 a gyhoeddwyd a’r rhesymau cryno dros y penderfyniadau hynny.
Gall y rhain gynnwys tystiolaeth ddefnyddiol am fwyta yn y DU neu’r UE. Nid yw penderfyniad statws bwyd newydd yn gyfystyr ag awdurdodiad nac asesiad diogelwch.
Gwiriwch fod y bwyd sy’n cael ei ddisgrifio yn y penderfyniad yn cyd-fynd â’ch cynnyrch.
Gweld holl ganllawiau bwyd newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Y broses ymgynghori ar fwydydd newydd (Erthygl 4)
Mae’r broses ymgynghori ar fwydydd newydd (a elwir hefyd yn gais ymgynghori Erthygl 4) ar gael i fusnesau sy’n ansicr ynghylch statws bwyd newydd eu cynnyrch/cynhyrchion, ac y mae tystiolaeth helaeth iddynt gael eu bwyta yn y DU neu’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn mis Mai 1997.
Mae Rheoliad a Ddargedwir (UE) 2018/456 yn nodi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom i wneud penderfyniad ynglŷn â statws bwyd newydd y bwyd. Os taw casgliad y broses yw bod y bwyd yn newydd, bydd angen i fusnesau wneud cais am awdurdodiad o dan Reoliad a Ddargedwir (UE) 2015/2283 er mwyn marchnata’r cynnyrch yn gyfreithlon ym Mhrydain Fawr.
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Cyfraith Bwyd yr UE mewn perthynas â bwydydd newydd yn dal i fod yn gymwys o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon (PDF).
O ganlyniad, dylai busnesau sy’n ceisio pennu statws bwyd newydd eu cynhyrchion yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at y wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) a Chatalog Bwydydd Newydd yr UE.
Noder: oni nodir datganiad i’r gwrthwyneb isod, bydd unrhyw benderfyniadau a wnaed ynghylch statws bwyd newydd bwyd gan yr UE cyn 1 Ionawr 2021 yn dal i fod yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Nid yw penderfyniadau’r UE a wnaed ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys ym Mhrydain Fawr.
Sut i gyflwyno cais ymgyghori Erthygl 4
Gall busnesau sy’n ceisio marchnata eu cynnyrch ym Mhrydain Fawr gyflwyno cais ymgynghori Erthygl 4 a thystiolaeth ategol gan ddefnyddio’r gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.
Yn yr adran ‘Math o gynnyrch’, dewiswch ‘Arall’ a nodi yng nghrynodeb y cynnyrch eich bod yn bwriadu cyflwyno cais ymgynghori Erthygl 4.
Ymgynghoriadau wedi’u cwblhau
Isod ceir datganiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban ar fwydydd sydd wedi cwblhau’r broses ymgynghori.
| Y bwyd dan sylw/dyddiad hysbysu | Datganiad ar y bwyd dan sylw | |
|---|---|---|
| ‘Protein corbys’ a gafwyd o gorbys coch a/neu felyn (Lens culinaris) sy’n cynnwys o leiaf 85% o brotein sych, 14 Chwefror 2025 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad ar brotein corbys | |
| Trwythau dyfrllyd nad ydynt yn ddewisol o ffrwythau mynach (wedi’u gwneud o ffrwythau ffres a sych y planhigyn Siraitia grosvenorii), 21 Mehefin 2024 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn | |
| Madarch seleniwm (Agaricus bisporus), 13 Mehefin 2022 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn | |
| Madarch fitamin B12 (Agaricus bisporus), 13 Mehefin 2022 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn | |
| Crynodiad protein maidd llaeth gwartheg sy’n cynnwys pilen globwl braster llaeth (WPC MFGM), 25 Mehefin 2026 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn |
Am ragor o gymorth gyda cheisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig, darllenwch ein canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.