Gwneud cais i awdurdodi bwyd newydd
Defnyddiwch lwybr Erthygl 10 i wneud cais i awdurdodi bwyd newydd ar gyfer marchnad Prydain Fawr.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Mae bwydydd newydd yn fwydydd nad oedden nhw’n cael eu bwyta i raddau helaeth gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU) na’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn 15 Mai 1997.
Rhaid i fwydydd newydd gael eu hawdurdodi cyn iddyn nhw allu cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Rhaid i’r trefniadau ar gyfer eu gwerthu a’u defnyddio gydymffurfio â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 a’r telerau awdurdodi perthnasol.
Defnyddiwch lwybr Erthygl 10 i wneud cais i awdurdodi bwyd newydd ar gyfer marchnad Prydain Fawr. Rhaid i’ch cais ddangos bod y bwyd yn ddiogel ar gyfer ei ddefnydd arfaethedig.
Os ydych chi’n ansicr a yw’r bwyd yn newydd, darllenwch y canllawiau ar ddewis llwybr a’r canllawiau ar Erthygl 4.
Ar gyfer bwydydd traddodiadol cymwys, darllenwch y canllawiau ar wahân ar fwydydd traddodiadol Erthyglau 14 a 16.
Mae canllawiau ar wahân yn berthnasol i Ogledd Iwerddon. Dilynwch y canllawiau ar fwydydd newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Gwirio awdurdodiadau presennol
Gwiriwch Gofrestr Prydain Fawr o awdurdodiadau bwydydd newydd cyn gwneud cais. Mae’n rhestru bwydydd a ganiateir ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi.
Os yw awdurdodiad presennol yn cwmpasu eich bwyd a’i ddefnydd, gallwch ei werthu yn unol â’r telerau hynny, oni bai bod cyfyngiadau diogelu data yn berthnasol. Gwiriwch unrhyw gyfyngiadau o’r fath yn y gofrestr.
Paratoi coflen eich cais
Mae’r gofynion wedi’u nodi yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/2469.
Gallwch hefyd gyfeirio at ganllawiau EFSA ar baratoi a chyflwyno cais bwyd newydd, a gyhoeddwyd yn 2016.
Rhan 1: gwybodaeth weinyddol
Darparu gwybodaeth weinyddol, gan gynnwys manylion yr ymgeisydd.
Rhan 2: gwybodaeth am y bwyd newydd
- dynodiad y bwyd newydd
- proses gynhyrchu
- data cyfansoddol a manylebau
- hanes defnyddio’r bwyd neu ffynhonnell y bwyd
- defnyddiau arfaethedig, lefelau defnydd a’r cymeriant a ragwelir
- amsugno, dosbarthu, metabolaeth ac ysgarthiad
- gwybodaeth am faeth
- gwybodaeth docsicolegol ac alergenigrwydd
Esboniwch sut mae’r wybodaeth hon yn dangos diogelwch ar gyfer y defnydd arfaethedig. Cyflwynwch y data ategol a rhowch restr gyfeirio gyflawn.
Rhan 3: deunydd ategol
- rhestr termau ac esboniad o’r byrfoddau a ddefnyddir yn y goflen
- tystysgrifau achredu’r labordy a thystysgrifau dadansoddi
- copïau llawn o ddata gwyddonol perthnasol sydd wedi a heb ei gyhoeddi
- adroddiadau astudio llawn
- barn wyddonol cyrff rheoleiddio cenedlaethol neu ryngwladol
Cyflwyno’ch cais
Defnyddiwch y porth ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig i gyflwyno’ch cais ac uwchlwytho’r dogfennau sy’n ffurfio’ch coflen.
Rhaid i fwyd newydd gael ei awdurdodi cyn iddo allu cael ei roi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.