Bwydydd newydd: canllawiau i fusnesau bwyd
Canllawiau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar wirio statws bwyd newydd, dewis llwybr awdurdodi a rhoi bwydydd newydd ar y farchnad.
Mae’r casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Beth yw bwyd newydd?
Mae bwydydd newydd yn fwydydd nad oedden nhw’n cael eu bwyta i raddau helaeth gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU) na’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn 15 Mai 1997.
Dyma rai enghreifftiau:
- bwydydd newydd fel ffytosterolau a ffytostanolau a ddefnyddir mewn sbrediau sy’n lleihau colesterol
- bwydydd traddodiadol sy’n cael eu bwyta mewn mannau eraill yn y byd, fel hadau a baobab
- bwydydd sy’n cael eu cynhyrchu drwy brosesau newydd, fel bara wedi’i drin â golau uwch-fioled i gynyddu ei gynnwys fitamin D
Rhaid i fwydydd newydd gael eu hawdurdodi cyn iddyn nhw allu cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Rhaid i’r trefniadau ar gyfer eu gwerthu a’u defnyddio gydymffurfio â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 a’r telerau awdurdodi perthnasol.
Mae canllawiau ar wahân yn berthnasol i Ogledd Iwerddon. Dilynwch y canllawiau ar fwydydd newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Dewch o hyd i’r canllawiau bwydydd newydd sydd eu hangen arnoch
- gwiriwch pa lwybr bwydydd newydd i’w ddefnyddio (ceisiadau o dan ymgynghoriad Erthygl 4): ymchwiliwch i statws eich bwyd a darganfyddwch sut i ofyn am benderfyniad os yw’n dal i fod yn ansicr
- gwnewch gais am awdurdodiad bwyd newydd (Erthygl 10): paratowch a chyflwyno cais llawn sy’n dangos diogelwch ar gyfer y defnydd arfaethedig
- bwydydd traddodiadol – hysbysiadau a cheisiadau (Erthyglau 14 ac 16): sicrhewch eich bod yn deall y weithdrefn ar gyfer bwydydd traddodiadol cymwys o’r tu allan i’r DU a’r UE
- bwydydd newydd – canllawiau ar gyfer Gogledd Iwerddon: gwiriwch ofynion perthnasol yr UE a’r trefniadau ar wahân ar gyfer nwyddau manwerthu cymwys sy’n symud o dan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon
- canllawiau ar dreialon blasu bwydydd newydd: darllenwch y canllawiau ar dreialon blasu
- canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd: gwiriwch benderfyniadau cyhoeddedig ar statws bwydydd newydd
Mae yna ddau brif lwybr awdurdodi: cais Erthygl 10 llawn a’r llwybr traddodiadol, sef hysbysiad a chais bwyd.
Mae’r weithdrefn bwyd traddodiadol yn dechrau gyda hysbysiad Erthygl 14 a gall barhau gyda chais Erthygl 16 pe bai gwrthwynebiadau diogelwch yn cael eu codi. Mae ymgynghoriad Erthygl 4 yn pennu statws bwyd newydd. Nid yw’n asesu diogelwch nac yn awdurdodi bwyd i’w werthu.
Mwy o ganllawiau ar gyfer cynhyrchion penodol
Dilynwch y dolenni i weld canllawiau penodol ar gyfer pob math o gynnyrch rheoleiddiedig.
Mae’r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys dolenni i’r canllawiau a’r rheoliadau perthnasol sy’n gymwys i bob math o gynnyrch.