Skip to main content
Canllawiau

Bwydydd traddodiadol: hysbysiadau a cheisiadau

Deall y gweithdrefnau awdurdodi ar gyfer bwydydd traddodiadol cymwys o’r tu allan i’r DU a’r UE (Erthyglau 14 ac 16).

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae bwydydd newydd yn fwydydd nad oedden nhw’n cael eu bwyta i raddau helaeth gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU) na’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn 15 Mai 1997.

Rhaid i fwydydd newydd gael eu hawdurdodi cyn iddyn nhw allu cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Rhaid i’r trefniadau ar gyfer eu gwerthu a’u defnyddio gydymffurfio â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 a’r telerau awdurdodi perthnasol.

Y weithdrefn bwyd traddodiadol

Llwybr awdurdodi symlach yw’r weithdrefn bwyd traddodiadol a ddefnyddir ar gyfer bwydydd cymwys o wledydd y tu allan i’r DU a’r UE. Mae’r gofynion o ran data yn is oherwydd bod gan y bwyd hanes sefydledig o gael ei fwyta y tu allan i’r DU a’r UE.

Mae’n dechrau gyda hysbysiad Erthygl 14. Os caiff gwrthwynebiadau diogelwch eu codi, gallwch gyflwyno cais Erthygl 16 sy’n mynd i’r afael â’r gwrthwynebiadau hynny.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal adolygiad o fewn pedwar mis. Os nad oes gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd unrhyw wrthwynebiadau diogelwch, caiff y cynnyrch ei awdurdodi a’i roi ar y rhestr awdurdodedig.  

Mae Erthygl 16 yn barhad o’r weithdrefn hon yn hytrach na llwybr cychwyn ar wahân. Pan fo gwrthwynebiadau diogelwch yn cael eu codi, efallai y bydd angen gwybodaeth ychwanegol ac asesiad pellach cyn y gellir gwneud awdurdodiad.

Mae canllawiau ar wahân yn berthnasol i Ogledd Iwerddon. Dilynwch y canllawiau ar fwydydd newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Gwirio a yw’r weithdrefn hon yn briodol

Rhaid i chi ddangos y bu hanes o ddefnyddio’r cynnyrch yn ddiogel fel bwyd am o leiaf 25 mlynedd barhaus cyn i’r cais gael ei gyflwyno, a hynny’n seiliedig ar gyfraddau bwyta gan nifer sylweddol o bobl fel rhan o’u deiet arferol mewn gwlad y tu allan i’r DU a’r UE.

Mae hyn yn wahanol i dystiolaeth o ddefnydd sylweddol yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997, a ddefnyddir i sefydlu statws bwyd newydd.

Gall bwyd fod yn draddodiadol mewn mannau eraill a dal i fod yn fwyd newydd ym Mhrydain Fawr.

Erthygl 14: hysbysiad bwyd traddodiadol

Mae’r gofynion data yn is ar gyfer y weithdrefn hysbysu, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod hanes sefydledig o fwyta’r bwyd mewn mannau eraill.

Rhowch dystiolaeth o’r hanes o ddefnyddio’r bwyd yn ddiogel ac esboniwch beth mae’r defnydd hwnnw’n ei ddangos am risgiau diogelwch posib.

Rhaid i fwyd gael ei awdurdodi cyn iddo allu cael ei roi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr – nid yw cwblhau cyfnod adolygu pedwar mis ynddo’i hun yn gyfystyr â chaniatâd i’w werthu.

Os nad yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gwrthwynebu ar sail diogelwch ar ôl yr adolygiad pedwar mis, bydd yr asiantaeth wedyn yn gwneud argymhellion i weinidogion ar y telerau awdurdodi ar gyfer y cynnyrch.

Erthygl 16: cais bwyd traddodiadol (ymateb i wrthwynebiadau diogelwch)

Os caiff gwrthwynebiadau diogelwch eu codi yn dilyn eich hysbysiad Erthygl 14, nid fydd y bwyd yn cael ei awdurdodi drwy’r hysbysiad hwnnw.

Gallwch gyflwyno cais Erthygl 16 gyda gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys tystiolaeth sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r gwrthwynebiadau. Bydd angen asesiad pellach cyn y gellir gwneud penderfyniad awdurdodi.

Paratoi eich gwybodaeth ategol

Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/2468 yn nodi’r gofynion gwybodaeth.

Gallwch hefyd gyfeirio at ganllawiau EFSA ar baratoi a chyflwyno cais am fwydydd traddodiadol o drydydd gwledydd, a gyhoeddwyd yn 2016.

Cyflwyno’ch hysbysiad neu gais

Cyflwynwch eich hysbysiad neu’ch cais drwy’r porth ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig.

Argraffu'r dudalen hon