Skip to main content
Canllawiau

Gwirio a oes angen i chi dalu treth ar eich pensiwn

Defnyddiwch yr offeryn hwn i gyfrifo faint o Dreth Incwm y gallai fod angen i chi ei dalu pan fyddwch yn cael pensiwn.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich pensiwn, yn dibynnu ar eich incwm.

Ar ddiwedd yr offeryn hwn, cewch amcangyfrif sy’n dangos y canlynol:

  • a oes angen i chi dalu treth ar eich pensiwn
  • faint o dreth y gallai fod angen i chi ei thalu eleni

Mae’r canlyniad yn dibynnu ar y canlynol:

  • eich bod yn cael y Lwfans Personol safonol o £12,570 (y swm y gallwch ei ennill cyn bod yn rhaid i chi dalu treth)
  • rydych yn dechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2010

Cyn i chi ddechrau

Bydd yr offeryn yn amcangyfrif eich treth ar gyfer y flwyddyn dreth hon (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Bydd angen i chi wybod y canlynol ar gyfer y flwyddyn dreth hon:

  • pa fathau o bensiynau y byddwch yn eu cael (er enghraifft, Pensiwn y Wladwriaeth neu bensiwn preifat)
  • faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael — gallwch ddefnyddio’r swm blynyddol, wythnosol neu bob pedair wythnos
  • faint o bensiwn preifat y byddwch yn ei gael
  • swm unrhyw incwm trethadwy arall y byddwch yn ei gael (er enghraifft, o gyflogaeth neu incwm o log ar gynilion)
  • os ydych yn cael neu’n trosglwyddo Lwfans Priodasol

Ni allwch gynnwys unrhyw incwm tramor na Lwfans Person Dall (yn agor tudalen Saesneg) sy’n dod i law.

Gwirio nawr

Argraffu'r dudalen hon