Canllawiau

Gwiriwch a allwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Cael gwybod am newidiadau dros dro a allai effeithio arnoch os ydych yn gwneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim, neu eisoes yn ei gael.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s out of date. Find current information about:

Bydd rhieni neu ofalwyr sy’n gweithio, ac sy’n gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu 30 Awr o Ofal Plant sy’n Rhad ac am Ddim ond sydd dros dro wedi disgyn o dan y gofyniad isafswm incwm o ganlyniad i’r pandemig, yn parhau i gael cymorth ariannol tan 31 Hydref 2020.

Bydd gweithwyr hanfodol y mae’n bosibl y byddant yn mynd heibio’r trothwy incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021, o ganlyniad i weithio mwy er mwyn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws, yn parhau i gael cymorth y flwyddyn dreth hon.

Mae newidiadau dros dro wedi’u gwneud i’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim, yn ystod coronafeirws.

Gall y newidiadau effeithio arnoch os ydych chi, neu os yw rhywun rydych yn byw gydag ef:

  • ar ffyrlo
  • ddim yn gallu gweithio neu’n gweithio llai
  • yn hunangyflogedig
  • yn weithiwr hanfodol

Os ydych ar ffyrlo

Os nad oes gan eich cyflogwr unrhyw waith i chi efallai y bydd yn gallu eich cadw ar y gyflogres a’ch rhoi ar absenoldeb dros dro yn lle. Gelwir hyn yn cael eich rhoi ‘ar ffyrlo’ ac rydych yn cael eich talu 80% o’ch cyflog drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Dylech wneud cais, neu ailgadarnhau os oes gennych gyfrif gofal plant eisoes, os yw’ch cyflog chi, a chyflog eich partner os oes gennych un:

  • o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos
  • yn is na’r gofyniad isafswm incwm arferol, ond fel rheol byddech yn disgwyl bodloni’r gofyniad incwm

Os nad ydych yn gallu gweithio neu os ydych yn gweithio llai

Dylech wneud cais neu ailgadarnhau os oes gennych gyfrif gofal plant eisoes os ydych yn:

  • cael tâl salwch neu dâl salwch statudol (SSP) – bydd yr amser a dreulir ar dâl salwch neu SSP yn cyfrif fel eich bod yn gweithio ac yn bodloni’r gofyniad isafswm incwm
  • cymryd absenoldeb di-dâl i ofalu am eraill, fel eich plant – os ydych yn disgwyl i’ch incwm fodloni’r gofyniad isafswm incwm (o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos) ar ôl coronafeirws
  • byw gyda rhywun sydd â choronafeirws - rhaid i chi aros gartref – os ydych yn disgwyl i’ch incwm fodloni’r cytundeb isafswm incwm (o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos) ar ôl coronafeirws
  • gweithio llai, mae’ch oriau wedi’u lleihau, a bod eich cyflog yn:
    • bodloni’r gofyniad isafswm enillion
    • is na’r gofyniad isafswm enillion arferol ond byddech fel arfer yn disgwyl ennill yn uwch na hynny

Os cewch eich diswyddo

Os cewch eich diswyddo, nid ydych yn gymwys i wneud cais neu ailgadarnhau bod gennych gyfrif gofal plant oherwydd y canlynol:

  • nid ydych yn gweithio mwyach
  • nid ydych yn bodloni’r gofyniad isafswm incwm

Os byddwch yn dechrau cyflogaeth eto ac yn disgwyl ennill mwy na’r gofyniad isafswm incwm, gallwch wneud cais 31 diwrnod cyn i chi ddechrau’ch swydd newydd.

Os ydych yn hunangyflogedig

Dylech wneud cais neu ailgadarnhau os oes gennych gyfrif gofal plant eisoes ac mae’r canlynol yn wir:

  • rydych yn parhau i weithio, ac mae’ch enillion:
    • yn uwch na’r gofyniad isafswm enillion
    • yn is na’r gofyniad isafswm enillion arferol ond byddech fel arfer yn disgwyl ennill yn uwch na hynny
  • ni allwch weithio oherwydd coronafeirws ac mae’r canlynol yn wir:
    • rydych yn gymwys i hawlio grant drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – bydd taliadau a wneir i chi drwy’r cynllun yn cyfrif fel enillion
    • nid ydych yn gymwys i gael cymhorthdal incwm hunangyflogaeth ond byddech yn disgwyl ennill o leiaf y gofyniad isafswm incwm

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych bellach yn hawlio Credyd Cynhwysol ac roeddech yn cael:

  • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, ni allwch wneud cais nac ailgadarnhau o ran Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth - os byddwch yn rhoi’r gorau i hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth eto
  • 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim, a’ch bod yn bodloni’r gofyniad isafswm incwm diwygiedig neu y byddech yn disgwyl gwneud hynny fel rheol, dylech wneud cais neu ailgadarnhau os oes gennych gyfrif gofal plant eisoes

Os ydych yn weithiwr hanfodol sy’n gweithio rhagor o oriau

Os ydych yn weithiwr hanfodol, efallai eich bod wedi mynd y tu hwnt i’r trothwy uchafswm incwm o £100,000 y flwyddyn. Os yw hyn oherwydd cynnydd mewn oriau o ganlyniad uniongyrchol i goronafeirws, byddwch yn dal yn gymwys am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.

Gwneud cais neu ailgadarnhau

Dysgwch am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a sut i wneud cais.

Dysgwch am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a sut i wneud cais.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gofal plant i gadarnhau eich manylion.

Cyhoeddwyd ar 7 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 August 2020 + show all updates
  1. Updated to say - eligibility for Tax Free Childcare for those who don't meet the minimum requirements has been extended to October 31 2020.

  2. Welsh translation has been added.

  3. Section about 'if you have missed the 31 March deadline' has been updated.

  4. First published.