Canllawiau

Codi ac adhawlio TAW ar nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â ffioedd ysgolion preifat

Gwiriwch a yw TAW yn ddyledus ar daliadau sy’n gysylltiedig â ffioedd ysgolion preifat, a chael gwybod beth gallwch chi adhawlio TAW arno.

Trosolwg

Ers 1 Ionawr 2025, mae’r holl wasanaethau addysg a hyfforddi galwedigaethol y mae ysgolion preifat yn y DU yn eu cyflenwi am dâl wedi bod yn agored i TAW ar y gyfradd safonol o 20%. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ysgol breswyl y mae ysgolion preifat yn eu cyflenwi.

Mae’r arweiniad hwn yn esbonio sut mae rhai taliadau a sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag addysg yn cael eu trin o ran TAW.

Mae TAW yn ddyledus ar gyfanswm popeth sy’n dod i law yn gyfnewid am roi addysg i’r myfyriwr. Er enghraifft, gall hyn gynnwys y swm a dalwyd gan y rhiant, yn ogystal ag unrhyw fwrsari allanol y gellir ei dalu ar gyfer addysg y myfyriwr hwnnw.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am y canlynol:

TAW ar nwyddau, gwasanaethau a thaliadau

Cyflenwi nwyddau a gwasanaethau addysg sy’n cynnwys elfennau eraill (fel prydau ysgol a chludiant)

Os ydych yn cyflenwi nifer o nwyddau a gwasanaethau gyda’i gilydd, mae’n bwysig gwybod a yw TAW yn berthnasol i’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y trafodiad cyfan

  • pob rhan o’r cyflenwad yn unigol

Pan fyddwch chi’n cyflenwi mwy nag un nwydd neu wasanaeth gyda’i gilydd fel pecyn, mae hyn fel arfer yn cael ei ystyried yn gyflenwad unigol. Yn yr un modd, pan ddarperir gwasanaeth ynghyd â nwyddau neu wasanaethau sy’n ychwanegol at y prif wasanaeth, fel arfer mae hyn hefyd yn cael ei ystyried yn gyflenwad unigol.

Ni ddylech rannu’r pecyn yn artiffisial i greu cyflenwadau ar wahân gyda rhwymedigaethau TAW gwahanol. Bydd y pecyn unigol yn cael ei drin fel un peth ar gyfer TAW.

Os bydd nwyddau neu wasanaethau ar wahân yn cael eu cyflenwi gyda’i gilydd, a bod pob un yn cynrychioli nod gwahanol i’r cwsmer, caiff y rhain eu hystyried yn gyflenwadau ar wahân. Bydd pob cyflenwad yn cael ei drin ar wahân, a gall fod yn agored i TAW ar gyfradd wahanol.

Pan fyddwch yn cyflenwi pecyn addysg am ffi unigol, mae hyn fel arfer yn cael ei ystyried yn gyflenwad unigol at ddibenion TAW. Gall y pecyn hwn gynnwys nifer o elfennau (megis cludiant neu brydau bwyd) ynghyd â’r brif elfen, sef addysg. Fel cyflenwad unigol, un rhwymedigaeth TAW fydd gan y cyflenwad hwn.

Os bydd ysgol yn cyflenwi addysg a hefyd yn cyflenwi elfennau eraill am ffi ar wahân, fel arfer caiff y rhain eu hystyried yn gyflenwadau ar wahân. Er enghraifft, os bydd ysgol yn darparu addysg a hefyd yn cynnig prydau ysgol am ffi ar wahân, fel arfer caiff y rhain eu hystyried fel 2 gyflenwad gwahanol. Mae’n bosibl y bydd gan y rhain rwymedigaethau TAW gwahanol. Mae’r addysg yn agored i’r gyfradd TAW safonol ac mae’n bosibl y bydd y prydau ysgol wedi’u hesemptio rhag y gyfradd hon os byddant yn bodloni’r amodau o ran bod yn wasanaethau cysylltiedig agos.

Ceir rhagor o wybodaeth yn adran VATSC11113 o lawlyfr CThEF ynghylch Cydnabyddiaeth a Chyflenwi o ran TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Cyflenwi addysg a therapïau o ran anghenion addysgol ychwanegol ac anableddau (SEND)

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd disgyblion yn cael gwasanaethau addysg a therapi tra byddant yn yr ysgol. Fel arfer, bydd gwasanaethau yn cael eu hystyried yn wasanaethau gofal iechyd at ddibenion TAW os cânt eu cyflenwi gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, fel:

  • therapyddion iaith a lleferydd

  • seicolegwyr addysgol

Mae cyflenwadau cymhwysol o ran gofal iechyd wedi’u hesemptio rhag TAW ar yr amod mai prif ddiben y gwasanaethau hyn yw diogelu, cynnal, neu wella iechyd rhywun.

Os yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu cyflenwi drwy eich ysgol chi, mae’n rhaid i chi wirio’r canlynol:

  • pwy sy’n cyflenwi’r gwasanaeth dan sylw

  • p’un a yw’r gwasanaethau hyn yn ffurfio rhan o un cyflenwad o ran addysg neu’n gyflenwad ar wahân o ran gofal iechyd

Dylech hefyd ddarllen yr adran ‘Cyflenwi gwasanaethau addysg a lles gyda’i gilydd’ o’r arweiniad hwn.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai’r gwahaniaethau rhwng y ffordd y mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cyflawni arwain at ganlyniadau gwahanol o ran TAW.

Dim ond at ddiben egluro y mae’r enghreifftiau hyn a bydd angen i chi ystyried amgylchiadau unigol eich ysgol.

Enghraifft 1 — ysgol yn cyflenwi addysg a therapïau fel ffi unffurf

Mae Ysgol 1 yn codi ffi unffurf sy’n cynnwys popeth o ran addysg a therapi. Mae’r disgyblion yn mynychu gwersi addysgol a sesiynau therapi (er enghraifft, therapi iaith a lleferydd) drwy gydol y diwrnod yn yr ysgol yn dibynnu ar eu hanghenion ychwanegol.

Nid yw faint o therapi a geir na’r math o therapi yn effeithio ar y ffi ysgol. Yn yr achos hwn, mae’n debygol bod yr ysgol yn gwneud cyflenwad unigol o ran addysg, gydag elfen o ofal iechyd.

Byddai’r ffi ysgol yn cael ei phennu ar y gyfradd safonol fel addysg, gan mai addysg yw prif elfen y cyflenwad.

Enghraifft 2 — rhieni’n contractio’r therapyddion a’u talu’n uniongyrchol

Mae Ysgol 2 yn codi ffi ar gyfer addysg, ond nid yw’n cyflogi therapyddion nac yn cynnwys therapïau fel rhan o’i ffioedd. Mae’r rhieni’n contractio’r therapyddion a’u talu’n uniongyrchol.

Yn yr achos hwn, nid yw’r ysgol yn cyflenwi’r gwasanaethau gofal iechyd. Mae’n rhaid i’r therapyddion bennu a yw eu cyflenwadau’n bodloni’r amodau ar gyfer yr esemptiad o ran gofal iechyd a ph’un a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer TAW a rhoi cyfrif amdani.

Mae’r ffi ysgol yn cael ei phennu ar y gyfradd safonol fel addysg.

Enghraifft 3 — ysgol yn cyflenwi addysg a therapi fel ffioedd ar wahân

Mae Ysgol 3 yn cyflogi darparwyr therapi’n uniongyrchol. Mae ffi yn cael ei chodi ar rieni am yr addysg ac efallai y bydd y rhieni yn dewis talu ffi ychwanegol ar wahân am wasanaethau therapi.

Yn yr achos hwn, mae’r gwasanaethau therapi yn cael eu cyflenwi gan yr ysgol, ond mae’n debygol eu bod yn gyflenwad ar wahân o ran gofal iechyd.

Mae’r ffi ysgol ar gyfer y cyflenwad addysg yn cael ei phennu ar y gyfradd safonol.

Os yw’r cyflenwadau o ran gwasanaethau therapi’n bodloni’r amodau ar gyfer esemptiad o ran gofal iechyd, nid oes angen i’r ysgol godi TAW arnynt.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael:

Cyflenwi gwasanaethau addysg a lles gyda’i gilydd

Os ydych chi’n cyflenwi addysg ynghyd â gwasanaethau lles, mae’n bwysig penderfynu a yw’r cyflenwad ar gyfer lles neu addysg.

Gall rhai gwasanaethau sy’n cael eu cyflenwi fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad o ran lles, gan eu bod yn cyflenwi lles yn hytrach na chyflenwi addysg.

Rhaid i brif elfen y cyflenwad fod yn lles.

Enghraifft o gyflenwad lles yw goruchwyliaeth ac arweiniad a ddarperir i berson sy’n agored i niwed er mwyn datblygu ei allu i fyw’n annibynnol a chyflawni tasgau pob dydd. Gall hyn gael ei restru ar gynllun addysg, iechyd a gofal (EHC).

Bydd unrhyw les sy’n cael ei ddarparu yn eilaidd i’r addysg os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r ysgol yn darparu addysg i ddisgybl

  • mae’r rhiant o’r farn ei fod yn prynu’r addysg

Mae hyn yn gyflenwad unigol o ran addysg at ddibenion TAW.

Enghraifft o wasanaeth lles wedi’i esemptio yw gwasanaethau gofal dydd, megis gwasanaethau a ddarperir gan grŵp chwarae neu glwb ar ôl ysgol (ond nid clybiau ar sail gweithgaredd, megis dosbarthiadau dawnsio). Mae’r gwasanaethau hyn yn ymwneud â gofal a diogelu plant.

Ceir rhagor o wybodaeth am TAW ar gyflenwadau lles ac amodau cyflenwi lles yn Hysbysiad TAW 701/2 — Gwasanaethau a nwyddau lles (yn agor tudalen Saesneg).

Efallai y bydd rhai ysgolion arbenigol o ran anghenion addysgol ychwanegol ac anableddau (SEND) yn darparu gofal ac addysg. Bydd p’un a yw’r cyflenwad yn gyflewnad gofal neu’n gyflewnad addysg yn cael ei bennu ar sail prif elfen y cyflenwad. Pan fo ysgol SEND yn darparu addysg am ffi, bydd hon yn agored i TAW.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gall awdurdodau lleol adennill TAW yn yr adran ‘Lleoliadau mewn ysgolion preifat a ddarperir gan Awdurdod Lleol’ o’r canllaw hwn.

Cael taliadau grant ar gyfer gwasanaethau addysg

Bydd p’un a yw taliad grant yn agored i TAW yn dibynnu ar union natur trefniadau’r grant.

Fel arfer, mae’r cyllid grant bloc nad yw’n ymwneud â disgyblion unigol (er enghraifft, grantiau bloc gan yr Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau) y tu allan i gwmpas TAW.

Fodd bynnag, os ydych yn cael grant i dalu ffioedd disgybl penodol, mae’r ffi gyfan yn agored i TAW. Mae hyn oherwydd bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng y canlynol:

  • y gwasanaeth rydych yn ei gyflenwi

  • y taliad rydych wedi ei gael

Ar gyfer pob taliad rydych yn ei gael, bydd angen i chi benderfynu:

  • a oes ‘cydnabyddiaeth ar gyfer cyflenwad’

  • a yw’n agored i TAW

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflenwi a chydnabyddiaeth a grantiau yn adran VATSC06310 o lawlyfr CThEF ynghylch Cydnabyddiaeth a Chyflenwi o ran TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Triniaeth TAW o ran taliadau bwrsari ar gyfer ffioedd ysgol

Codir TAW ar gyfanswm y gwerth a ddaw i law yn gyfnewid am yr addysg y mae’r ysgol yn ei darparu i’r myfyriwr. Mae’n rhaid i’r ysgol roi cyfrif am y TAW ar gyfanswm y ffi a godir am yr addysg, hyd yn oed os yw’r cyfanswm hwn yn cynnwys y canlynol:

  • taliad y rhiant

  • bwrsari ar wahân

Er enghraifft, codir TAW ar 100% o’r ffi os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ysgol yn derbyn taliad bwrsari ar gyfer plentyn penodol sy’n rhoi cyfrif am 30% o gyfanswm y ffi drethadwy

  • mae rhiant y plentyn yn talu’r 70% sy’n weddill o’r ffi

Pan fydd ysgol yn darparu taliad bwrsari iddi’i hun, mae’r taliad y tu allan i gwmpas TAW.

Lleoliadau mewn ysgolion preifat a ddarperir gan Awdurdod Lleol

Bydd TAW yn ddyledus ar ffioedd os yw’r canlynol yn wir:

  • mae enw ysgol breifat yn cael ei nodi ar gynllun addysg, iechyd a gofal myfyriwr

  • mae Awdurdod Lleol yn ariannu lle’r myfyriwr hwnnw

Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r Awdurdod Lleol dalu TAW ar yr addysg a gyflenwir i’r myfyriwr.

Gall Awdurdodau Lleol adennill y TAW a ysgwyddwyd gan ddefnyddio prosesau presennol ‘adran 33’.

I gael rhagor o wybodaeth am adran 33, darllenwch Hysbysiad TAW 749 — Awdurdodau Lleol a chyrff cyffelyb (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonebau TAW

Os ydych yn anfonebu ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sy’n agored i TAW ar wahanol gyfraddau, gallwch eu cynnwys ar yr un anfoneb.

Mae’n rhaid i’r anfoneb ddangos cyfradd y TAW a godir ar bob cyflenwad. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 4 o Hysbysiad TAW 700/21 — Cadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg).

Ffioedd ymgeisio a chofrestru a dalwyd yn ystod y broses ymgeisio

Mae’r ffioedd ymgeisio a chofrestru y mae’n rhaid eu talu er mwyn i fyfyriwr fynychu’ch ysgol yn agored i TAW – yn yr un modd â ffioedd ysgol arferol.

Dulliau eraill o dalu

Diffinnir ‘cydnabyddiaeth’ fel taliad yn gyfnewid am gyflenwi nwydd neu wasanaeth. Er enghraifft, os gwnaethoch daliad arian parod yn gyfnewid am werslyfr. Y gydnabyddiaeth yw’r taliad arian parod a’r nwydd yw’r llyfr.

Fel arfer, mae taliad yn cael ei wneud ar ffurf arian, ond dim o reidrwydd. Gellir talu cydnabyddiaeth ar ffurf nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir yn gyfnewid (er enghraifft, cytundeb barter), neu gyfuniad o’r ddau.

Ceir rhagor o wybodaeth am gydnabyddiaethau TAW yn adran VATSC05000 o lawlyfr CThEF ynghylch Cydnabyddiaeth a Chyflenwi o ran TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Gweithgareddau elusennau sy’n rhedeg ysgolion preifat

Os yw elusen yn cynnal nifer o weithgareddau, gan gynnwys rhedeg ysgol, rhaid ystyried pob gweithgaredd ar wahân er mwyn penderfynu a yw’n weithgaredd busnes ac yn agored i TAW.

Os yw gweithgaredd yn cynnwys gwneud cyflenwadau gyda’r bwriad o gynhyrchu incwm, mae hwn yn cael ei ystyried yn weithgaredd busnes ac mae felly’n agored i TAW.

Cyflenwadau a ddarperir ar gyfer yr ystafell ddosbarth

Mae’n bosibl y bydd nwyddau neu wasanaethau wedi’u hesemptio os ydynt yn angenrheidiol i’r ddarpariaeth o addysg ac yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol gan un o’r canlynol:

  • y disgybl

  • y myfyriwr

  • yr ymarferydd dan hyfforddiant

Er mwyn elwa o’r esemptiad hwn, mae’n rhaid bod i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gael eu cyflenwi ar wahân i’r brif addysg. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ‘Cyflenwi nwyddau a gwasanaethau addysg sy’n cynnwys elfennau eraill (fel prydau ysgol a chludiant)’ o’r arweiniad hwn.

Er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu deunydd ysgrifennu i ddisgybl i’w ddefnyddio yn y dosbarth, mae cysylltiad agos rhwng hyn a chyflenwi addysg ac mae felly wedi’i esemptio rhag TAW.

Mae’r holl nwyddau a gwasanaethau eraill, sydd heb gysylltiad agos â’r cyflenwad addysg, yn agored i TAW.

Dosbarthiadau meithrin a ddarperir gan ysgolion preifat

Bydd dosbarthiadau meithrin sy’n cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol yn bennaf, neu’n gyfan gwbl, yn parhau i fod wedi’u hesemptio rhag TAW. Er enghraifft, bydd dosbarth sy’n cynnwys 90% o blant o dan oedran ysgol gorfodol wedi’i esemptio rhag TAW.

Gweithgareddau allgyrsiol a chlybiau cyn ac ar ôl yr ysgol

Bydd gweithgareddau allgyrsiol addysgol a ddarperir gan ysgol breifat yn agored i TAW.

Fodd bynnag, bydd unrhyw ddarpariaeth gofal plant cyn neu ar ôl ysgol neu ddarpariaeth glybiau gwyliau gofal plant, sy’n cynnwys gofal ac sy’n cael ei darperir gan ysgol breifat, wedi’i hesemptio rhag TAW.

Goblygiadau TAW ar gyfer darparwyr addysg bellach a dosbarthiadau’r chweched lle telir ffioedd

Mae’r newidiadau i TAW yn effeithio arnoch os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • eich prif bwrpas yw darparu addysg sy’n addas i ddisgyblion 16 i 19 oed yn bennaf, neu’n gyfan gwbl

  • rydych yn darparu addysg amser llawn i ddisgyblion 16 i 19 oed

  • codir ffi ar y rhan fwyaf o’r disgyblion hynny

Mae’r geiriad ‘yn bennaf, neu’n gyfan gwbl’ yn golygu bod o leiaf 51% o’r addysg rydych yn ei darparu yn addas i bobl ifanc 16 i 19 oed.

Mae sut mae hyn yn effeithio arnoch yn dibynnu ar y canlynol:

  • natur yr addysg rydych chi’n ei darparu

  • eich cynulleidfa darged nodweddiadol

Er enghraifft, ystyrir bod coleg chweched dosbarth, sy’n darparu gwersi ‘Safon Uwch’ yn bennaf, yn darparu addysg sy’n addas i bobl ifanc 16 i 19 oed. Mae’r coleg yn agored i TAW os yw’n darparu addysg amser llawn i bobl ifanc 16 i 19 oed, ac os codir ffi ar y mwyafrif ohonynt.

Ni effeithir ar addysg sydd fel arfer wedi’i thargedu at fyfyrwyr dros 19 oed (er enghraifft, addysg israddedig ac ôl-raddedig).

Darparwyr hyfforddiant annibynnol

Nid yw darparwyr hyfforddiant annibynnol sy’n darparu addysg i ddisgyblion 16 i 19 oed am ffi yn agored i TAW ar yr amod bod y darparwyr hyn yn cael eu hariannu o dan gontract gydag awdurdod contractio perthnasol.

Mae’r awdurdodau contractio perthnasol yn cynnwys y canlynol:

  • Yr Ysgrifennydd Gwladol

  • Medr (Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)

  • Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon

  • Datblygu Sgiliau yn yr Alban

Ysgolion arbennig nas cynhelir

Fel arfer, mae cyllid grant bloc a roed i ysgolion arbennig nas cynhelir y tu allan i gwmpas TAW. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran ‘Cael taliadau grant ar gyfer gwasanaethau addysg’ o’r canllaw hwn.

Os yw ysgol arbennig nas cynhelir yn cael taliadau gan Awdurdod Lleol i ariannu lle plentyn, mae’n ofynnol i’r ysgol godi TAW ar y plant hynny fesul un, ar yr amod bod yr Awdurdod Lleol hwnnw wedi cael ei nodi ar gynllun addysg, iechyd a gofal y disgybl dan sylw. Gall yr Awdurdod Lleol adennill y TAW hon.

Mae ysgolion nas cynhelir sy’n codi ffioedd ar ddisgyblion ar gyfer addysg, ac nad ydynt yn cael cyllid grant bloc, yn agored i TAW.

Dysgu Saesneg fel iaith dramor

Mae cyrsiau sy’n dysgu Saesneg fel iaith dramor a ddarperir gan ysgolion preifat wedi’u hesemptio rhag TAW.

Cyrsiau addysg uwch 

Mae cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ysgolion preifat wedi’u hesemptio rhag TAW. Diffinnir ‘cyrsiau addysg uwch’ fel:

  • cwrs addysg uwch yng Nghymru a Lloegr sydd wedi’i nodi’n benodol yn adran 83(1) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017

  • cwrs yn yr Alban sydd wedi’i nodi’n benodol yn adran 5(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (yr Alban) 2005

  • cwrs yng Ngogledd Iwerddon o unrhyw ddisgrifiad sydd wedi’i nodi ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997

Sut i ddiffinio ffioedd bwyd a llety

Nid yw’r term ‘bwyd a llety’ yn cael ei ddiffinio gan y ddeddfwriaeth.

Mae bwyd a llety yn ymwneud â’r trefniant lle mae disgybl yn byw mewn llety ysgol yn ystod y tymor.

Mae unrhyw ffioedd bwyd neu lety sydd â chysylltiad agos ag addysg neu hyfforddiant galwedigaethol yn agored i TAW.

Rhoddion a chyfraniadau gwirfoddol i ysgolion preifat

Nid yw TAW yn cael ei chodi ar rodd ariannol neu gyfraniad gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r rhoddwr yn ei roi o’i ewyllys ei hun

  • nid yw’r rhoddwr na’i fuddiolwr yn derbyn unrhyw beth yn gyfnewid

  • nid yw’r rhodd yn amodol ar unrhyw delerau nac amodau

Ceir rhagor o wybodaeth am TAW a chyfraniadau yn adran VATSC06110 o lawlyfr CThEF ynghylch Cydnabyddiaeth a Chyflenwi o ran TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Adennill TAW

Adennill TAW ar gyflenwadau 

Gallwch adennill TAW a godir ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddir i wneud cyflenwadau trethadwy, megis addysg a phreswylio.

Nid oes modd adennill y TAW rydych yn ei hysgwyddo ar bryniannau sydd ond yn cael eu defnyddio at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â busnes.

Fel arfer, ni allwch adhawlio TAW ar gyflenwadau esempt, megis nwyddau a gwasanaethau sydd â chysylltiad agos, a gyflenwir gydag addysg. 

Mae ysgolion preifat yn debygol o ddarparu cyflenwadau trethadwy a chyflenwadau sydd wedi’u hesemptio.

Mae hyn yn eu gwneud yn fusnesau sydd wedi’u hesemptio’n rhannol sy’n gorfod talu TAW ar gyflenwadau trethadwy ac esempt.

I gyfrifo faint o TAW y gallwch ei hadhawlio, mae angen i chi gyflawni dosraniad. Gelwir hyn yn gyfrifiad esemptiad rhannol. 

Mae dwy ffordd o gyfrifo a dosrannu:

  • y dull safonol

  • dull pwrpasol (a elwir yn ddull arbennig esemptiad rhannol)

Ceir rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 706 — Esemptiad Rhannol (yn agor tudalen Saesneg)

Talu TAW ar gyflenwadau cyn cofrestru ar gyfer TAW 

O dan rai amgylchiadau, gall busnesau adhawlio TAW sydd wedi’i chodi ar gyflenwadau trethadwy cyn iddynt gofrestru ar gyfer TAW

Gellir adhawlio TAW ar gyfer:

  • nwyddau a ddaeth i law hyd at 4 blynedd cyn cofrestru ac sy’n dal i fod ar gael i’w defnyddio pan fyddwch chi’n cofrestru

  • gwasanaethau a gawsoch hyd at 6 mis cyn cofrestru sydd ar gael i’w defnyddio ar gyfer gweithgareddau busnes rydych chi’n eu cynnal ar ôl cofrestru

Efallai y bydd angen dosrannu’r TAW a godir dros oes economaidd y nwyddau. Byddai hyn fel arfer yn 5 mlynedd, ond dylech seilio cyfnod yr oes economaidd ar y canlynol:

  • cyfnod y defnydd trethadwy

  • cyfnod y defnydd esempt

Mae enghreifftiau o sut i gyfrifo’r swm o TAW y gellir ei adennill ar nwyddau a gafwyd cyn cofrestru i’w gweld yn adran VIT32000 o lawlyfr CThEF ynghylch Treth Fewnbwn ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych wedi defnyddio gwasanaeth cyn cofrestru i wneud cyflenwadau wedi’u hesempto, dim ond cyfran o’r TAW sy’n ymwneud â’r defnydd trethadwy ar ôl cofrestru y gallwch chi ei hadennill, a hynny gan ddefnyddio dull teg a rhesymol.

Enghraifft o ddefnyddio gwasanaeth cyn cofrestru

Mae ysgol breifat yn prynu tanysgrifiad am flwyddyn i wefan addysgol. Bydd y tanysgrifiad yn rhedeg o 1 Medi 2024 hyd at 31 Awst 2025.

Gan fod y tanysgrifiad yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau addysgol, byddai’n cael ei dybio i gael ei ddefnyddio i wneud cyflenwadau sydd wedi’u hesemptio am 4 mis, a’i ddefnyddio ar gyfer cyflenwadau trethadwy am 8 mis.

Gall yr ysgol adennill cyfran o’r TAW sydd wedi’i chodi arni yn seiliedig ar y defnydd trethadwy. Cyfrifir y gyfran fel y ganlyn:

(12 – 4) ÷ 12 = 8 ÷ 12 × 100 (defnydd trethadwy llawn) = 66.67%

Mae hon wedi’i thalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Mae hyn yn golygu y gall yr ysgol adennill 67% o’r TAW sydd wedi’i chodi arni cyn cofrestru.

Os tybir i’r tanysgrifiad gael ei ddefnyddio at wasanaethau amrywiol, 70% trethadwy a 30% wedi’u hesemptio, canran y TAW y gellir ei hadennill fydd:

(12 – 4) ÷ 12 = 8 ÷ 12 × 70 (defnydd trethadwy rhannol) = 46.67%

Mae hon wedi’i thalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Mae hyn yn golygu y gall yr ysgol adennill 47% o’r TAW sydd wedi’i chodi arni cyn cofrestru.

Eitemau cyfalaf mawr ac adhawlio TAW 

Mae TAW a godir ar eitemau cyfalaf mawr yn cael ei hadhawlio mewn ffordd wahanol i wariant bob dydd.

Er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall y defnydd o’r asedion hyn newid dros amser, mae’r Cynllun Nwyddau Cyfalaf yn caniatáu i’r TAW a adhawliwyd adlewyrchu’r defnydd newidiol hwn.

Er enghraifft, gallai hyn fod yn berthnasol pan fo asedion cyfalaf wedi’u caffael yn ystod y blynyddoedd diwethaf (pan na ellid ei hadhawlio pan y’u defnyddir ar gyfer addysg wedi’i hesemptio) ac maent bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer addysg drethadwy. 

Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i’r canlynol: 

  • tir, gwaith adeiladu a pheirianneg sifil gwerth £250,000 neu fwy

  • eitemau o offer cyfrifiadurol gwerth £50,000 neu fwy

  • awyrennau, llongau neu gychod eraill gwerth £50,000 neu fwy

Efallai y bydd gennych hawl i adhawlio TAW yr ydych wedi’i thalu ar eitemau cyfalaf sy’n llai na 10 oed. Ceir rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 706/2 — Cynllun Nwyddau Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Llogi neu osod cyfleusterau

Nid yw’r driniaeth TAW o ran llogi neu osod cyfleusterau wedi’i newid.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut a phryd i godi TAW wrth logi neu osod cyfleusterau yn adran 3.4 ac adran 5 o Hysbysiad TAW 742 — Tir ac eiddo (yn agor tudalen Saesneg).

Prynu teithio a llety i’w hailwerthu i ddisgyblion

Os bydd ysgol yn ‘prynu i mewn’ wasanaethau teithio sy’n gysylltiedig â thaith ysgol (er enghraifft, cludiant neu lety) sydd wedyn yn cael eu hailwerthu i ddisgyblion, gellir trin yr ysgol fel gweithredwr teithiau at ddibenion TAW.

Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i’r ysgol ddefnyddio’r Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau i roi cyfrif am y TAW ar y teithiau. Ceir rhagor o wybodaeth am weithredwyr teithiau a’r Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau yn Hysbysiad TAW 709/5 — Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau (yn agor tudalen Saesneg) a Hysbysiad TAW 709/6 — Trefnwyr teithiau (yn agor tudalen Saesneg).

Rhagor o wybodaeth

Gallwch wylio gweminarau ynghylch TAW ar ffioedd ysgolion preifat (yn agor tudalen Saesneg), i ddysgu am y canlynol:

  • a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW fel darparwr addysg a phryd mae angen gwneud hyn

  • y nwyddau a gwasanaethau y mae angen i chi godi TAW arnynt ac adhawlio TAW ar eu cyfer

  • codi ac adhawlio TAW

Gallwch hefyd ddysgu rhagor:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Chwefror 2026 show all updates
  1. The example of parents contracting and paying the therapists directly and the example of a school supplying education and therapy as separate fees have been updated to add clarity. Information on VAT implications for fee-paying sixth forms and further education providers has been updated.

  2. The 'Incurring VAT on supplies before registering for VAT' section has been updated with an example of using a service before registration.

  3. Information about education services and vocational training provided by private schools being subject to VAT at the standard rate of 20% has been updated.

  4. Guidance has been added about supplying special educational needs and disabilities (SEND) therapies and education.

  5. Added translation

  6. Guidance has been added about extra-curricular and before and after school clubs, independent training providers, non-maintained special schools, higher education courses and teaching English as a foreign language.

  7. Details on how to attend webinars about VAT on private school fees have been added to the ‘Get more information’ section.

  8. Added translation

Argraffu'r dudalen hon