Ad-daliadau TAW
Trosolwg
Os ydych wedi codi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag yr ydych wedi’i thalu ar eich pryniannau, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pan fyddwch yn llenwi’r bylchau ar eich Ffurflen TAW, bydd yr wybodaeth a nodwyd gennych yn dangos y canlynol:
- cyfanswm y TAW a godwyd – Blwch 3
- cyfanswm y TAW a dalwyd – Blwch 4
Os yw’r ffigur ym Mlwch 3 yn llai na’r ffigur ym Mlwch 4, mae ad-daliad yn ddyledus i chi. Mae hyn yn golygu eich bod wedi codi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag yr ydych wedi’i thalu.
Dangosir y swm a fydd yn cael ei ad-dalu i chi ym Mlwch 5 ar eich Ffurflen TAW.
Mae ad-daliadau TAW (VAT repayments) yn wahanol i gael TAW yn ôl (VAT refunds) yn sgil camgymeriad. Os ydych wedi talu TAW drwy gamgymeriad, darllenwch yr arweiniad am gywiro gwallau yn eich Ffurflen TAW i hawlio arian yn ôl (yn agor tudalen Saesneg).
Sut i gael ad-daliad TWE
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW, bydd CThEF yn prosesu’ch ad-daliad yn awtomatig.
Bydd eich ad-daliad yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc os gwnaethoch roi eich manylion banc i CThEF ar gyfer yr ad-daliad. Fel arall, bydd CThEF yn anfon siec atoch (a elwir hefyd yn ‘archeb talu’).
Gallwch wneud y canlynol:
- newid y manylion y mae CThEF yn eu defnyddio i wneud eich ad-daliad
- gofyn bod ad-daliadau’n mynd at gyfrif banc tramor
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, caiff ad-daliadau eu gwneud cyn pen 30 diwrnod ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen TAW.
Os bydd CThEF yn hwyr yn gwneud eich ad-daliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi.
Olrhain ad-daliad TAW
Gallwch olrhain ad-daliad TAW ar-lein.
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych wedi clywed oddi wrthym cyn pen 30 diwrnod ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW.