Ad-daliadau TAW
Os oes angen siec newydd arnoch, neu os hoffech gael eich talu drwy ddull arall
Gallwch ysgrifennu at Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn iddynt wneud y canlynol:
- anfon siec newydd atoch os yw’ch un chi ar goll neu’n rhy hen i fod yn ddilys
- anfon yr ad-daliad i’r cyfrif banc sydd wedi’i gadw ar eich cyfrif treth busnes
- anfon yr ad-daliad i rywle arall gan nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW bellach
- defnyddio’r ad-daliad i dalu treth arall
Mae’n rhaid i chi gynnwys eich:
- enw
- cyfeirnod TAW
- cyfeiriad
- rhif cyswllt
Mae’n rhaid i chi hefyd ddychwelyd unrhyw sieciau sydd heb eu defnyddio neu sydd yn rhy hen.
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Cyllid a Thollau EF
BX9 1XD