Canllawiau

Twbercwlosis buchol (TB) mewn anifeiliaid anwes dof

Yr hyn fydd angen i berchnogion anifeiliaid anwes ei wneud os amheuir neu os cadarnheir bod eu hanifail anwes wedi'i heintio â TB buchol.

Applies to England, Scotland and Wales

Paratowyd y canllaw hwn ar gyfer perchnogion mamaliaid anwes dof yr amheuir neu y cadarnheir eu bod wedi’u heintio â thwbercwlosis (TB) o ganlyniad i Mycobacterium bovis (M. bovis – y bacteriwm sy’n achosi TB buchol). Mae mamaliaid anwes dof yn cynnwys cŵn, cathod, cwningod a ffuredau.

Os ydych yn cadw da byw fel anifeiliaid anwes, dylech ddilyn yr adran yn y canllaw hwn ar TB mewn da byw a gedwir fel anifeiliaid anwes. Mae hyn yn cynnwys buchod, geifr, moch, defaid, camelidau (megis alpacas a lamas).

Sut y gall anifeiliaid anwes gael eu heintio â TB

Gall anifeiliaid anwes gael eu heintio fel a ganlyn:

  • amlyncu (drwy’r geg), er enghraifft, drwy yfed llaeth heb ei basteureiddio o fuwch, gafr neu ddafad sydd wedi’i heintio neu fwyta cynhyrchion llaeth megis caws neu gig heb ei goginio’n ddigonol neu gig amrwd neu offal (ymysgaroedd) o garcasau anifeiliaid oedd wedi’u heintio.
  • erosolau (drwy fewnanadlu) o fod mewn cysylltiad agos ag anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt neu anifeiliaid anwes eraill wedi’u heintio
  • brathiadau, naill ai ar ôl cael eu brathu gan anifail wedi’i heintio neu os bydd clwyf yn cael ei heintio gan facteria yn yr amgylchedd.

Arwyddion a diagnosis

Mae arwyddion cyffredin TB yn cynnwys:

  • pesychu
  • gwichian
  • colli pwysau
  • lympiau, crawniadau neu frathiadau o amgylch y pen neu’r gwddf, nad ydynt yn gwella (mewn cathod gan amlaf)
  • nodau lymff chwyddedig (chwarennau)

Nid yw arwyddion o TB mewn anifeiliaid anwes yn unigryw a gallant fod yn debyg i glefydau eraill.

Os bydd eich milfeddyg yn amau bod eich anifail wedi’i heintio â TB, efallai y bydd yn argymell nifer o brofion, gan gynnwys prawf adwaith cadwynol polymerasau (PCR). Fel arfer, bydd angen i chi neu’ch darparwr yswiriant dalu am y profion hyn oni bai bod amgylchiadau penodol iawn yn codi pan fydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn talu am y costau o bosibl.

Prawf PCR ar samplau o feinwe

Gall prawf PCR ar samplau o feinwe o’ch anifail anwes nodi’r bacteriwm TB buchol. Bydd angen i’r milfeddyg gasglu sampl o feinwe, naill ai:

  • sampl drwy fiopsi o anifail anwes byw (ni fydd hyn yn cael ei wneud yn achos rhywogaethau o dda byw)
  • meinwe a gesglir drwy archwiliadau post mortem ar anifail anwes trig (bydd hyn yn cynnwys rhywogaethau o dda byw)

Sut i drin anifail anwes â TB

Gall eich milfeddyg eich helpu i ddewis a ddylai eich anifail anwes gael ei drin neu ei ewthaneiddio os bydd TB arno.

Cyffuriau a thrwyddedu

Nid oes unrhyw gyffuriau wedi’u trwyddedu yn y DU ar gyfer trin anifeiliaid anwes sydd wedi’u heintio â TB. Os byddwch yn dewis trin eich anifail anwes, efallai y bydd yn rhaid i’ch milfeddyg ddefnyddio cyffuriau heb eu trwyddedu. Nid ydynt wedi mynd drwy brosesau diogelwch penodol ar gyfer anifeiliaid na phrofion ar gyfer TB buchol yn y DU ac efallai na fyddant yn gweithio. Gallant hefyd beryglu lles eich anifail anwes. Bydd angen i chi neu’ch darparwr yswiriant dalu am unrhyw driniaeth a roddir.

Ymwrthedd gwrthficrobaidd a’r risg barhaus i eraill

Mae triniaethau i wella TB yn gofyn am ddefnyddio sawl cyffur am o leiaf chwe mis. Gall fod yn anodd iawn rhoi’r rhain i’ch anifail anwes yn gyson, a all olygu nad yw’n cael y dos na’r driniaeth lawn. Gall hyn arwain at fathau o facteria ag ymwrthedd gwrthfiotig yn datblygu, sy’n risg i iechyd pobl ac anifeiliaid. Gall dos rhy isel hefyd olygu bod eich anifail anwes yn dal wedi’i heintio ac yn dal i fod yn risg i eraill, yn aml heb ddangos unrhyw arwyddion o glefyd.

Prognosis

Mae anifeiliaid anwes yn aml yn annhebygol o wella’n llawn o TB. Nid oes unrhyw sicrwydd o wellhad parhaol.

Risgiau i iechyd pobl

Gall TB ledaenu o anifeiliaid i bobl ond mae’r risg i chi neu’ch teulu yn isel iawn.

Os caiff eich anifail anwes ddiagnosis o TB a achosir gan M. bovis, bydd eich milfeddyg yn hysbysu APHA. Bydd yn rhoi gwybod i’ch tîm diogelu iechyd lleol o’r Asiantaeth Diogelwch Iechyd yn Lloegr (neu’r cyrff cyfatebol yng Nghymru a’r Alban). Gall y tîm diogelu iechyd gynnig prawf sgrinio TB i berchnogion neu eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r anifail anwes heintiedig.

Rhagor o wybodaeth am sgrinio TB i bobl.

Risgiau i iechyd anifeiliaid eraill

Bydd eich swyddog APHA lleol yn ystyried y risgiau i anifeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad â’ch anifail anwes.

Os oes angen, bydd APHA yn datblygu cynllun i helpu i ddiogelu da byw ac anifeiliaid anwes eraill yn eich cartref neu yn y cyffiniau. Os oes gennych dda byw, efallai y bydd angen profion TB arnynt fel rhan o’r cynllun hwn. Bydd APHA yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os bydd hyn yn berthnasol i chi.

Da byw a gedwir fel anifeiliaid anwes

Os ydych yn cadw da byw fel anifail anwes, bydd wedi’i ddosbarthu’n anifail da byw. Bydd y dull o reoli’r clefyd yn amrywio, yn dibynnu ar y rhywogaeth.

Mae Gorchmynion TB penodol sy’n ymdrin ag anifeiliaid da byw, megis buchod, geifr a chamelidau (fel alpacas a lamas). Yn Lloegr a’r Alban, mae’r Gorchmynion TG yn cynnwys moch a defaid hefyd. Caiff da byw a gedwir fel anifeiliaid anwes yr amheuir neu y cadarnheir eu bod wedi’u heintio â TB eu rheoli drwy’r polisïau rheoli clefyd perthnasol.

Am ragor o wybodaeth am TB mewn da byw.

Bydd angen i anifail byw o’r fath yr amheuir ei fod wedi’i heintio â TB gael ei brofi drwy brawf diagnostig priodol. Bydd APHA yn gwneud y canlynol:

  • asesu (ar sail unigol) a oes angen prawf
  • ysgrifennu i ddweud wrthych os bydd angen prawf
  • rhoi gwybod gyda phwy y dylech gysylltu er mwyn trefnu’r prawf
  • talu am gostau’r prawf

Mae’n rhaid i anifeiliaid y mae canlyniad eu prawf yn bositif gael eu lladd a chaiff eu perchnogion eu digolledu. Yn ystod yr archwiliad post mortem, caiff meinwe ei chasglu at ddibenion profion labordy.

Ni allwch drin buchod, geifr, moch, defaid, camelidau na cheirw am TB oni bai eich bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan APHA.

Bydd angen cynnal prawf ar unrhyw anifail da byw arall sydd wedi bod mewn cysylltiad ag anifail y cadarnhawyd ei fod wedi’i heintio â TB. Caiff anifeiliaid y mae canlyniadau eu prawf yn bositif eu lladd.

Efallai y bydd APHA yn rhoi hysbysiad cyfyngiadau statudol (TN02) yn gofyn i chi wneud y canlynol:

  • peidio â symud anifeiliaid eraill a allai gael eu heintio â TB, i’ch safle neu oddi ar eich safle
  • cadw eich anifeiliaid o dan reolaeth er mwyn atal cysylltiad ag anifeiliaid ar safleoedd cyfagos

Cael cymorth

Iechyd anifeiliaid anwes

Gallwch gael cyngor a chymorth gan eich milfeddyg. Gallwch gysylltu ag APHA i godi unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn ag iechyd eich anifail anwes sy’n gysylltiedig â TB.

Iechyd pobl

Dylech gysylltu â’ch meddyg teulu os bydd gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’ch iechyd neu iechyd eich teulu.

Iechyd y cyhoedd

Darllenwch gyngor Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ar Dwbercwlosis (TB): diagnosis, sgrinio, rheoli a data

Darllenwch ganllawiau Health Protection Scotland ar Dwbercwlosis (TB)

Darllenwch ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Dwbercwlosis (TB)

Cyhoeddwyd ar 18 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 October 2022 + show all updates
  1. Link to Northern Ireland guidance on bovine TB in pets has been updated.

  2. Added translation