Guidance
Beth i'w wneud ar ôl i lo gael ei eni
Mae'n rhaid i geidwaid gwartheg dagio lloi newydd-anedig, gwneud cais am basbortau a chofnodi'r manylion cywir ar gostrestr y daliad.
Pan gaiff llo ei eni, mae’n rhaid i’r ceidwad gydymffurfio â’r rheoliadau adnabod gwartheg, sy’n cynnwys y canlynol:
- sicrhau bod tag clust cymeradwy wedi’i osod ym mhob clust o fewn y terfynau amser cyfreithiol isod
- gwneud cais am basbort gwartheg o fewn y terfynau amser cyfreithiol isod
- cofnodi manylion yr anifail ar gofrestr y daliad.
Pa dagiau y dylid eu defnyddio
Mae angen un prif dag ac ail dag ar bob anifail, y mae’r ddau ohonynt yn dangos yr un rhif adnabod unigol unigryw.
Mae’n rhaid i’r prif dag fod yn dag baner o blastig melyn y gellir ei ddarllen o bellter. Gall fynd yn y naill glust neu’r llall.
Rhaid i bob rhan o’r tag cynradd cynnwys y wybodaeth a nodir isod yn unig:
- Logo’r Goron
- cod y wlad (‘y DU’)
- nod y fuches
- rhif anifail unigol chwe digid

Mae’n rhaid i’r ail dag fod yn y glust arall. Dylai gynnwys yr un wybodaeth â’r prif dag ond gall gynnwys gwybodaeth reoli hefyd. Os byddwch yn cynnwys gwybodaeth reoli ychwanegol, ni ddylai effeithio ar y wybodaeth adnabod swyddogol ar y tag na’i drysu.
Nid oes rhaid i ail dagiau fod yn un peth â phrif dagiau: gallant fod wedi’u gwneud o fetel neu blastig ac yn wahanol o ran maint neu arddull.
Pryd i dagio anifeiliaid newydd-anedig a gwneud cais am basbortau gwartheg
Ni allwch symud llo oddi ar ddaliad heb fod ganddo’r tagiau clust cywir a heb basbort (ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol am resymau lles, pan fydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded symud drwy gysylltu â GSGP).
Noder nad oes rhaid i chi wneud cais am y ddau dag ar yr un pryd a gallwch ddewis p’un a fyddwch yn gosod y prif dag neu’r ail dag yn gyntaf.
math o lo | terfyn amser ar gyfer gosod y tag cyntaf | terfyn amser ar gyfer gosod yr ail dag | terfyn amser ar gyfer cyflwyno cais am basbort i GSGP |
---|---|---|---|
llaeth | o fewn 36 awr ar ôl yr enedigaeth | hyd at 20 diwrnod ar ôl yr enedigaeth | o fewn 27 diwrnod ar ôl yr enedigaeth |
eidion | hyd at 20 diwrnod ar ôl yr enedigaeth | hyd at 20 diwrnod ar ôl yr enedigaeth | o fewn 27 diwrnod ar ôl yr enedigaeth |
buail | o fewn naw mis ar ôl yr enedigaeth, neu cyn diddyfnu, pa un bynnag fydd gynharaf. | o fewn naw mis ar ôl yr enedigaeth, neu cyn diddyfnu, pa un bynnag fydd gynharaf. | o fewn 7 diwrnod ar ôl yr enedigaeth |
Os bydd anifail heb ei dagio yn marw cyn y terfynau amser hyn nid oes angen i chi ei dagio, ond mae’n rhaid i chi gofnodi ei ddyddiad geni a dyddiad ei farwolaeth yn erbyn rhif y fam yng nghofrestr eich daliad.
Gwartheg i’w defnyddio at ddibenion diwylliannol a hanesyddol
Os ydych yn cadw gwartheg ar ddaliad sydd wedi’i gofrestru ar gyfer defnydd diwylliannol a hanesyddol (ac eithrio ffeiriau ac arddangosfeydd), efallai y caniateir i chi ddefnyddio dyfais adnabod electronig ar ffurf bolws yn lle tagiau clust. Cysylltwch â GSGP i gael cyngor.
Dylech gymryd gofal wrth drin gwartheg bob amser, gan gynnwys wrth osod tagiau clust. Dylech sicrhau bod gennych gyfleusterau trin digon diogel i dagio anifeiliaid gan fodloni’r gofynion statudol.
Gall ‘ Handling and housing cattle’ a gyhoeddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch eich helpu, yn ogystal â chodau lles gwartheg ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru.
Cysylltwch â GSGP ar unwaith os ydych yn cael problem yn tagio eich gwartheg.
Yr hyn y dylech ei gofnodi ar gofrestr eich daliad
Dylech gofnodi’r manylion canlynol am y llo newydd-anedig:
- rhif y tag clust
- dyddiad geni
- rhyw
- brîd
- rhif tag clust y fam
- rhif tag clust y tad (os yw’n hysbys)
Cysylltu
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
BCMS
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Email bcms-enquiries@bcms.rpa.gsi.gov.uk
Llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i geidwaid gwartheg yng Nghymru 0345 050 3456
Llinell Saesneg 0345 050 1234
Oriau agor arferol llinell gymorth GSGP: rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar y penwythnosau a gwyliau banc. Codir y gyfradd leol am bob galwad.