Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2021

Cyhoeddwyd 14 July 2021

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £184,297

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 13.3%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.8%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 135.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2021 am 9.30am ddydd Mercher 18 Awst 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 13.3% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, i lawr o 14.2% yn Ebrill 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Ebrill a Mai 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill a Mai 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Ebrill a Mai 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 24.2% yng Nghymru, o 2829 i 3515. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 70.9% o 57,318 i 97,984 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mai 2021 o’i gymharu â Mai 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, gan godi 21.7% i £128,000 yn y flwyddyn hyd at Fai 2021. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid blynyddol lleiaf, gan ostwng 1.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £188,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021 i £146,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 8.6% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021 i £123,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 13.3% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, i lawr o 14.2% yn Ebrill 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mai 2021 Mai 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £166,210 £150,882 10.2%
Blaenau Gwent £110,772 £92,196 20.1%
Bro Morgannwg £270,585 £226,665 19.4%
Caerdydd £233,402 £211,287 10.5%
Caerffili £155,940 £139,224 12%
Casnewydd £187,818 £190,548 -1.4%
Castell-nedd Port Talbot £138,161 £125,159 10.4%
Ceredigion £219,801 £189,391 16.1%
Conwy £189,867 £167,611 13.3%
Gwynedd £186,003 £153,762 21%
Merthyr Tudful £128,408 £105,516 21.7%
Pen-y-bont ar Ogwr £176,741 £157,293 12.4%
Powys £216,566 £184,984 17.1%
Rhondda Cynon Taf £133,482 £113,224 17.9%
Sir Benfro £188,776 £176,596 6.9%
Sir Ddinbych £172,523 £159,045 8.5%
Sir Fynwy £302,488 £271,157 11.6%
Sir y Fflint £191,744 £161,854 18.5%
Sir Gaerfyrddin £175,076 £145,213 20.6%
Tor-faen £180,056 £148,868 20.9%
Wrecsam £163,953 £155,961 5.1%
Ynys Môn £197,578 £178,413 10.7%
Cymru £184,297 £162,701 13.3%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mai 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £302,000 oedd pris cyfartalog eiddo. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £111,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mai 2021 Mai 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £278,049 £243,819 14.0%
Tŷ pâr £176,345 £158,117 11.5%
Tŷ teras £145,839 £126,548 15.2%
Fflat neu fflat deulawr £123,144 £113,349 8.6%
Holl £184,297 £162,701 13.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mawrth 2021 Mawrth 2020
Abertawe 242 244
Blaenau Gwent 74 70
Bro Morgannwg 145 192
Caerdydd 371 343
Caerffili 185 165
Casnewydd 162 173
Castell-nedd Port Talbot 167 134
Ceredigion 78 66
Conwy 150 152
Gwynedd 178 136
Merthyr Tudful 50 58
Pen-y-bont ar Ogwr 159 222
Powys 153 126
Rhondda Cynon Taf 249 231
Sir Benfro 160 135
Sir Ddinbych 144 89
Sir Gaerfyrddin 219 227
Sir Fynwy 133 88
Sir y Fflint 164 163
Tor-faen 74 104
Wrecsam 141 133
Ynys Môn 117 89
Cymru 3,515 3,340

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 24.2% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 55.6% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mawrth 2017 3,909
Mawrth 2018 3,800
Mawrth 2019 3,639
Mawrth 2020 3,340
Mawrth 2021 3,515

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £252,646 6.4% 14.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £182,699 3.2% 11.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £158,871 0.6% 12.8%
Cyn berchen-feddiannydd £214,051 1.1% 13.9%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Mai 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £178,193 1.1% 13.5%
Morgais £187,807 0.7% 13.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2021
Cymru 12

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317