Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2025
Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2025
Prif ystadegau ar gyfer Medi 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £272,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.6%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.6%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 104.1
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai’r DU yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Hydref 2025 am 9:30 yb ar ddydd Mercher 17 Rhagfyr 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
Ar 20 Awst 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
2. Datganiad economaidd
2.6% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.1% yn y 12 mis hyd at Awst 2025.
£272,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Medi 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £7,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2025 yn Lloegr i £293,000 (2.0%), cynyddodd yng Nghymru i £209,000 (2.7%) a chynyddodd yn yr Alban i £194,000 (5.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 i £193,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.1%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.6% rhwng Awst 2025 a Medi 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Awst 2025 a Medi 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yn Swydd Gaerefrog a Humber, lle cynyddodd prisiau gan 4.5% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fedi 2025.
Adroddodd September 2025 UK Residential Market Survey Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Medi 2025 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd yn y diriogaeth negyddol am y trydydd adroddiad yn olynol. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o rannau o’r DU bellach yn gweld lleihad yn y galw gan brynwyr newydd.
Dangosodd UK Property Transactions Statistics Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Medi 2025, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 96,000. Mae hyn 3.7% yn uwch na 12 mis yn ôl (Medi 2024). Rhwng Awst 2025 a Medi 2025, cynyddodd trafodion y DU gan 1.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Awst 2025 a Medi 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.3% yn Lloegr, wedi lleihau gan 12.7% yn yr Alban, wedi lleihau gan 1.9% yng Nghymru ac wedi lleihau gan 0.0% yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad Bank of England’s Money and Credit September 2025 Arian a Chredyd Banc Lloegr Medi 2025 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu gan 1,000 i 65,900 ym Medi.
Adroddodd [Bank of England’s Agents’ summary of business conditions – 2025 Q3] (https://www.bankofengland.co.uk/agents-summary/2025/2025-q3) Crynodeb o amodau busnes Banc Lloegr 2025 – Chwarter 3 farchnad dai dawel, lle mae’r galw wedi gwanhau, a’r cyflenwad wedi gwella yn rhannol oherwydd bod landlordiaid wedi gadael y farchnad rhentu.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
2.6% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.1% yn y 12 mis hyd at Awst 2025.
£272,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Medi 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £7,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2025 yn Lloegr i £293,000 (2.0%), cynyddodd yng Nghymru i £209,000 (2.7%) a chynyddodd yn yr Alban i £194,000 (5.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2025 i £193,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.1%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol | |
|---|---|---|---|---|
| Cymru | £209,253 | -0.8% | 2.7% | |
| Gogledd Iwerddon | £193,247 | 4.3% | 7.1% | |
| Lloegr | £293,292 | -0.8% | 2.0% | |
| Yr Alban | £194,273 | 0.4% | 5.3% | |
| De Ddwyrain Lloegr | £383,812 | -1.2% | 0.9% | |
| De Orllewin Lloegr | £307,078 | -0.9% | 0.9% | |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £243,459 | -0.6% | 3.7% | |
| Dwyrain Lloegr | £341,389 | -0.6% | 2.3% | |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £248,928 | -0.5% | 2.6% | |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £161,770 | -1.2% | 3.5% | |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £215,030 | -0.9% | 3.4% | |
| Llundain | £556,454 | -1.1% | -1.8% | |
| Swydd Gaerefrog a Humber | £207,877 | 0.3% | 4.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 64KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.6% rhwng Awst 2025 a Medi 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Awst 2025 a Medi 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Medi 2025 | Medi 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £445,097 | £432,642 | 2.9% |
| Tŷ pâr | £275,108 | £265,344 | 3.7% |
| Tŷ teras | £228,454 | £221,758 | 3.0% |
| Fflat neu fflat deulawr | £196,316 | £196,260 | 0.0% |
| Holl | £271,531 | £264,750 | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 67KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/about-the-uk-house-price-index/cb96bb72-e481-429b-8202-f58adf6deab9#gwelliannau-yn-2025. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2025 yn seiliedig ar oddeutu 37,800 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,500 ar gyfer yr Alban, a 2,200 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 47% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Medi 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Gwlad | Gorffennaf 2025 | Gorffennaf 2024 |
|---|---|---|
| Cymru | 2,408 | 3,528 |
| Gogledd Iwerddon | 1,923 | 2,152 |
| Lloegr | 42,568 | 64,652 |
| Yr Alban | 9,129 | 8,758 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein [Revisions Policy] (https://www.gov.uk/government/publications/about-the-uk-house-price-index/cb96bb72-e481-429b-8202-f58adf6deab9#cyfrifo-mynegai-prisiau-tai-y-du) Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2024 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 19.4% yn Lloegr, cynyddodd gan 5.9% yn yr Alban, a chynyddodd gan 15.8% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 4.0% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 4.8% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 7.2% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 2.5% yng Ngogledd Iwerddon yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025,
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2021 i 2025 yn ôl gwlad: Mai
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 15.9%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 4.2% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £380,666 | 4.4% | 15.7% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £265,368 | 0.5% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 11KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £229,158 | -0.7% | 2.6% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £334,108 | -0.6% | 2.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 4.7KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £258,265 | -0.6% | 1.9% |
| Morgais | £280,799 | -0.7% | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 5KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Ebrill a Mehefin 2025 cafwyd 134,419 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Cymru oedd £150,000 i £174,999 – 862 o eiddo wedi eu prynu
- Gogledd Iwerddon oedd £175,000 i £199,999 – 616 o eiddo wedi eu prynu
- Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – 7,285 o eiddo wedi eu prynu
- Yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 2,294 o eiddo wedi eu prynu
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2025 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 i £500,000, ac yna band mwy ar gyfer dros £500,000.
Yn unol â UK HPI revisions policy pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
Trafodion tai Lloegr
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 26 |
| £25,000 - £49,999 | 319 |
| £50,000 - £74,999 | 1497 |
| £75,000 - £99,999 | 2969 |
| £100,000 - £124,999 | 4459 |
| £125,000 - £149,999 | 5765 |
| £150,000 - £174,999 | 6822 |
| £175,000 - £199,999 | 7285 |
| £200,000 - £224,999 | 7049 |
| £225,000 - £249,999 | 7124 |
| £250,000 - £274,999 | 6773 |
| £275,000 - £299,999 | 6273 |
| £300,000 - £324,999 | 5187 |
| £325,000 - £349,999 | 4364 |
| £350,000 - £374,999 | 3951 |
| £375,000 - £399,999 | 3475 |
| £400,000 - £424,999 | 2964 |
| £425,000 - £449,999 | 2530 |
| £450,000 - £474,999 | 2224 |
| £475,000 - £499,999 | 1952 |
| £500,000 - £524,999 | 1520 |
| £525,000 - £549,999 | 1434 |
| £550,000 - £574,999 | 1270 |
| £575,000 - £599,999 | 1129 |
| £600,000 - £624,999 | 908 |
| £625,000 - £649,999 | 882 |
| £650,000 - £674,999 | 793 |
| £675,000 - £699,999 | 733 |
| £700,000 - £724,999 | 674 |
| £725,000 - £749,999 | 617 |
| £750,000 - £774,999 | 581 |
| £775,000 - £799,999 | 481 |
| £800,000 - £824,999 | 404 |
| £825,000 - £849,999 | 388 |
| £850,000 - £874,999 | 373 |
| £875,000 - £899,999 | 315 |
| £900,000 - £924,999 | 278 |
| £925,000 - £949,999 | 230 |
| £950,000 - £974,999 | 223 |
| £975,000 - £999,999 | 194 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 934 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 609 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 336 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 185 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 411 |
| £5,000,000 - £9,999,999 | 65 |
| greater than £10,000,000 | 13 |
Trafodion tai Cymru
| # Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 0 |
| £25,000 - £49,999 | 17 |
| £50,000 - £74,999 | 96 |
| £75,000 - £99,999 | 268 |
| £100,000 - £124,999 | 520 |
| £125,000 - £149,999 | 729 |
| £150,000 - £174,999 | 862 |
| £175,000 - £199,999 | 791 |
| £200,000 - £224,999 | 680 |
| £225,000 - £249,999 | 582 |
| £250,000 - £274,999 | 516 |
| £275,000 - £299,999 | 399 |
| £300,000 - £324,999 | 324 |
| £325,000 - £349,999 | 290 |
| £350,000 - £374,999 | 231 |
| £375,000 - £399,999 | 173 |
| £400,000 - £424,999 | 127 |
| £425,000 - £449,999 | 104 |
| £450,000 - £474,999 | 83 |
| £475,000 - £499,999 | 55 |
| £500,000 - £524,999 | 49 |
| £525,000 - £549,999 | 47 |
| £550,000 - £574,999 | 47 |
| £575,000 - £599,999 | 24 |
| £600,000 - £624,999 | 29 |
| £625,000 - £649,999 | 20 |
| £650,000 - £674,999 | 19 |
| £675,000 - £699,999 | 13 |
| £700,000 - £724,999 | 16 |
| £725,000 - £749,999 | 8 |
| £750,000 - £774,999 | 14 |
| £775,000 - £799,999 | 7 |
| £800,000 - £824,999 | 5 |
| £825,000 - £849,999 | 0 |
| £850,000 - £874,999 | 6 |
| £875,000 - £899,999 | 2 |
| £900,000 - £924,999 | 5 |
| £925,000 - £949,999 | 5 |
| £950,000 - £974,999 | 2 |
| £975,000 - £999,999 | 1 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 5 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 2 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 1 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 0 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 0 |
Trafodion tai yn yr Alban
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 53 |
| £25,000 - £49,999 | 543 |
| £50,000 - £74,999 | 1083 |
| £75,000 - £99,999 | 1721 |
| £100,000 - £124,999 | 1945 |
| £125,000 - £149,999 | 2294 |
| £150,000 - £174,999 | 2164 |
| £175,000 - £199,999 | 1991 |
| £200,000 - £224,999 | 1604 |
| £225,000 - £249,999 | 1639 |
| £250,000 - £274,999 | 1491 |
| £275,000 - £299,999 | 1257 |
| £300,000 - £324,999 | 1056 |
| £325,000 - £349,999 | 890 |
| £350,000 - £374,999 | 714 |
| £375,000 - £399,999 | 590 |
| £400,000 - £424,999 | 419 |
| £425,000 - £449,999 | 361 |
| £450,000 - £474,999 | 280 |
| £475,000 - £499,999 | 228 |
| £500,000 - £524,999 | 191 |
| £525,000 - £549,999 | 132 |
| £550,000 - £574,999 | 122 |
| £575,000 - £599,999 | 103 |
| £600,000 - £624,999 | 107 |
| £625,000 - £649,999 | 84 |
| £650,000 - £674,999 | 57 |
| £675,000 - £699,999 | 51 |
| £700,000 - £724,999 | 43 |
| £725,000 - £749,999 | 26 |
| £750,000 - £774,999 | 42 |
| £775,000 - £799,999 | 19 |
| £800,000 - £824,999 | 26 |
| £825,000 - £849,999 | 27 |
| £850,000 - £874,999 | 20 |
| £875,000 - £899,999 | 10 |
| £900,000 - £924,999 | 13 |
| £925,000 - £949,999 | 10 |
| £950,000 - £974,999 | 5 |
| £975,000 - £999,999 | 9 |
| £1,000,000 - £1,249,999 | 42 |
| £1,250,000 - £1,499,999 | 16 |
| £1,500,000 - £1,749,999 | 6 |
| £1,750,000 - £1,999,999 | 4 |
| £2,000,000 - £4,999,999 | 6 |
| £5,000,000 - £9,999,999 | 0 |
Trafodion tai Gogledd Iwerddon
| Band pris | Trafodion tai |
|---|---|
| less than £25,000 | 3 |
| £25,000 - £49,999 | 40 |
| £50,000 - £74,999 | 198 |
| £75,000 - £99,999 | 381 |
| £100,000 - £124,999 | 535 |
| £125,000 - £149,999 | 597 |
| £150,000 - £174,999 | 591 |
| £175,000 - £199,999 | 616 |
| £200,000 - £224,999 | 425 |
| £225,000 - £249,999 | 352 |
| £250,000 - £274,999 | 221 |
| £275,000 - £299,999 | 182 |
| £300,000 - £324,999 | 116 |
| £325,000 - £349,999 | 105 |
| £350,000 - £374,999 | 90 |
| £375,000 - £399,999 | 65 |
| £400,000 - £424,999 | 54 |
| £425,000 - £449,999 | 38 |
| £450,000 - £474,999 | 23 |
| £475,000 - £499,999 | 29 |
| greater than £500,000 | 102 |
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons.gov.uk
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4991