Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2025
Cyhoeddwyd 21 Ionawr 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2025
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £209,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.7%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 103.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2025 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 18 Chwefror 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025, i £209,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 1.4% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Hydref 2025 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.5% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Hydref 2025 a Thachwedd 2025, o’i gymharu â dim newid yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Hydref 2025 a Thachwedd 2025.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 4.4% yng Nghymru a chynyddodd gan 9.3% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025. Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 6.7% i £142,000 yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.9% i £229,000 yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025.
Yng Nghymru, tai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 1.8% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025, i’r pris cyfartalog o £168,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 2.1% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025, i’r pris cyfartalog o £125,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 0.7% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 1.4% yn y 12 mis hyd at Hydref 2025 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Tachwedd 2025 | Tachwedd 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £206,784 | £196,693 | 5.1% |
| Blaenau Gwent | £141,706 | £132,807 | 6.7% |
| Bro Morgannwg | £296,423 | £287,453 | 3.1% |
| Caerdydd | £268,201 | £266,414 | 0.7% |
| Caerffili | £190,754 | £190,378 | 0.2% |
| Casnewydd | £224,780 | £215,518 | 4.3% |
| Castell-nedd Port Talbot | £160,500 | £154,714 | 3.7% |
| Ceredigion | £228,854 | £245,933 | -6.9% |
| Conwy | £202,852 | £202,738 | 0.1% |
| Gwynedd | £201,466 | £194,858 | 3.4% |
| Merthyr Tudful | £145,607 | £145,069 | 0.4% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £207,263 | £203,330 | 1.9% |
| Powys | £229,686 | £233,175 | -1.5% |
| Rhondda Cynon Taf | £159,008 | £155,319 | 2.4% |
| Sir Benfro | £209,122 | £220,673 | -5.2% |
| Sir Ddinbych | £193,633 | £197,108 | -1.8% |
| Sir Fynwy | £334,317 | £325,442 | 2.7% |
| Sir y Fflint | £212,541 | £209,703 | 1.4% |
| Sir Gaerfyrddin | £198,688 | £193,562 | 2.6% |
| Torfaen | £188,490 | £193,312 | -2.5% |
| Wrecsam | £204,843 | £195,083 | 5.0% |
| Ynys Môn | £233,649 | £230,772 | 1.2% |
| Cymru | £208,935 | £207,435 | 0.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Nhachwedd 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £334,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £142,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Tachwedd 2025 | Tachwedd 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £325,441 | £326,263 | -0.3% |
| Tŷ pâr | £208,471 | £205,967 | 1.2% |
| Tŷ teras | £168,162 | £165,199 | 1.8% |
| Fflat neu fflat deulawr | £125,485 | £128,236 | -2.1% |
| Holl | £208,935 | £207,435 | 0.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Medi 2025 | Medi 2024 |
|---|---|---|
| Abertawe | 160 | 245 |
| Blaenau Gwent | 33 | 44 |
| Bro Morgannwg | 129 | 144 |
| Caerdydd | 246 | 351 |
| Caerffili | 111 | 172 |
| Casnewydd | 116 | 185 |
| Castell-nedd Port Talbot | 84 | 133 |
| Ceredigion | 54 | 82 |
| Conwy | 108 | 188 |
| Gwynedd | 61 | 127 |
| Merthyr Tudful | 20 | 51 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 133 | 154 |
| Powys | 82 | 147 |
| Rhondda Cynon Taf | 169 | 276 |
| Sir Benfro | 104 | 138 |
| Sir Ddinbych | 67 | 84 |
| Sir Gaerfyrddin | 126 | 193 |
| Sir Fynwy | 80 | 113 |
| Sir y Fflint | 115 | 147 |
| Torfaen | 56 | 88 |
| Wrecsam | 99 | 129 |
| Ynys Môn | 43 | 79 |
| Cymru | 2,196 | 3,270 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 4.4% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fedi 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 14.3% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Medi 2021 | 4,773 |
| Medi 2022 | 4,153 |
| Medi 2023 | 3,201 |
| Medi 2024 | 3,270 |
| Medi 2025 | 2,196 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £333,411 | 0.8% | 10.6% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £206,476 | -0.8% | 2.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £179,822 | -0.7% | 1.0% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £249,115 | -0.6% | 0.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Tachwedd 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £207,788 | -0.7% | 0.0% |
| Morgais | £209,520 | -0.6% | 1.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2025 |
|---|---|
| Cymru | 4 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288