Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2026
Diweddarwyd 31 Gorffennaf 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2026
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.2%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 106.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 19 Awst 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.2% yn y 12 mis hyd at Fai 2026, i £215,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 3.5% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.7% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fai 2026.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Ebrill 2026 a Mai 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Ebrill 2026 a Mai 2026.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 0.9% yng Nghymru a lleihaodd gan 36.7% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fai 2026. Caerffili welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 9.2% i £199,000 yn y 12 mis hyd at Fai 2026. Mewn cyferbyniad, Sir Fynwy welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 1.7% i £326,000 yn y 12 mis hyd at Fai 2026.
Yng Nghymru, tai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 5.3% yn y 12 mis hyd at Fai 2026, i’r pris cyfartalog o £173,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 1.0% yn y 12 mis hyd at Fai 2026, i’r pris cyfartalog o £129,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 4 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 4.2% yn y 12 mis hyd at Fai 2026 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 3.5% yn y 12 mis i Ebrill 2026 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Mai 2026 | Mai 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £206,087 | £203,756 | 1.1% |
| Blaenau Gwent | £143,645 | £134,350 | 6.9% |
| Bro Morgannwg | £292,677 | £284,440 | 2.9% |
| Caerdydd | £272,866 | £265,188 | 2.9% |
| Caerffili | £198,809 | £182,019 | 9.2% |
| Casnewydd | £231,830 | £219,066 | 5.8% |
| Castell-nedd Port Talbot | £161,864 | £159,730 | 1.3% |
| Ceredigion | £243,343 | £227,372 | 7% |
| Conwy | £213,240 | £209,572 | 1.8% |
| Gwynedd | £203,619 | £198,616 | 2.5% |
| Merthyr Tudful | £148,214 | £149,054 | -0.6% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £207,915 | £202,372 | 2.7% |
| Powys | £235,845 | £226,777 | 4% |
| Rhondda Cynon Taf | £168,304 | £154,899 | 8.7% |
| Sir Benfro | £220,318 | £220,987 | -0.3% |
| Sir Ddinbych | £200,146 | £193,287 | 3.5% |
| Sir Fynwy | £325,582 | £331,096 | -1.7% |
| Sir y Fflint | £213,863 | £210,291 | 1.7% |
| Sir Gaerfyrddin | £195,515 | £186,790 | 4.7% |
| Torfaen | £201,540 | £193,250 | 4.3% |
| Wrecsam | £214,317 | £203,961 | 5.1% |
| Ynys Môn | £237,629 | £225,808 | 5.2% |
| Cymru | £215,252 | £206,642 | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mai 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £326,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £144,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Mai 2026 | Mai 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £335,971 | £325,967 | 3.1% |
| Tŷ pâr | £214,736 | £205,028 | 4.7% |
| Tŷ teras | £173,138 | £164,380 | 5.3% |
| Fflat neu fflat deulawr | £128,696 | £127,426 | 1.0% |
| Holl | £215,252 | £206,642 | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Mawrth 2026 | Mawrth 2025 |
|---|---|---|
| Abertawe | 159 | 278 |
| Blaenau Gwent | 45 | 71 |
| Bro Morgannwg | 116 | 187 |
| Caerdydd | 253 | 418 |
| Caerffili | 145 | 198 |
| Casnewydd | 103 | 208 |
| Castell-nedd Port Talbot | 87 | 162 |
| Ceredigion | 49 | 84 |
| Conwy | 112 | 201 |
| Gwynedd | 81 | 151 |
| Merthyr Tudful | 22 | 69 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 125 | 152 |
| Powys | 98 | 148 |
| Rhondda Cynon Taf | 152 | 302 |
| Sir Benfro | 111 | 162 |
| Sir Ddinbych | 90 | 119 |
| Sir Gaerfyrddin | 136 | 179 |
| Sir Fynwy | 77 | 126 |
| Sir y Fflint | 112 | 203 |
| Torfaen | 44 | 116 |
| Wrecsam | 88 | 164 |
| Ynys Môn | 47 | 79 |
| Cymru | 2,252 | 3,777 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 0.9% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi lleihau gan 3.8% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Mawrth 2022 | 4,154 |
| Mawrth 2023 | 3,228 |
| Mawrth 2024 | 2,867 |
| Mawrth 2025 | 3,777 |
| Mawrth 2026 | 2,252 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £341,643 | 4.1% | 9.8% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £211,984 | 1.0% | 3.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £185,222 | 1.4% | 4.7% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £257,157 | 1.3% | 3.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Mai 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £214,107 | 1.1% | 3.6% |
| Morgais | £215,811 | 1.4% | 4.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2026 |
|---|---|
| Cymru | 4 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288