Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2025
Cyhoeddwyd 16 Gorffennaf 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2025
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £210,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 5.1%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.5%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 103.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2025 am 9.30am ddydd Mercher 20 Awst 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 5.1% yn y 12 mis hyd at Fai 2025, i £210,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 4.5% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 3.9% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fai 2025.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 54.1% yng Nghymru a chynyddodd gan 53.8% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fai 2025. Caerffili welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 8.8% i £194,000 yn y 12 mis hyd at Fai 2025. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.9% i £221,000 yn y 12 mis hyd at Fai 2025.
Yng Nghymru, tai sengl a thai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 5.7% yn y 12 mis hyd at Fai 2025, i’r pris cyfartalog o £330,000 a £209,000, yn y drefn honno. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan gynyddu 1.9% yn y 12 mis hyd at Fai 2025, i’r pris cyfartalog o £130,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 5.1% yn y 12 mis hyd at Fai 2025 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 4.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Mai 2025 | Mai 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £207,873 | £192,984 | 7.7% |
| Blaenau Gwent | £135,607 | £129,680 | 4.6% |
| Bro Morgannwg | £290,152 | £284,622 | 1.9% |
| Caerdydd | £270,159 | £259,855 | 4% |
| Caerffili | £194,045 | £178,351 | 8.8% |
| Casnewydd | £225,181 | £210,490 | 7% |
| Castell-nedd Port Talbot | £157,606 | £150,106 | 5% |
| Ceredigion | £221,186 | £237,578 | -6.9% |
| Conwy | £203,366 | £201,818 | 0.8% |
| Gwynedd | £196,584 | £183,647 | 7% |
| Merthyr Tudful | £144,974 | £139,399 | 4% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £212,160 | £198,449 | 6.9% |
| Powys | £231,249 | £228,174 | 1.3% |
| Rhondda Cynon Taf | £156,904 | £147,646 | 6.3% |
| Sir Benfro | £221,445 | £215,034 | 3% |
| Sir Ddinbych | £190,052 | £183,956 | 3.3% |
| Sir Fynwy | £325,677 | £316,890 | 2.8% |
| Sir y Fflint | £217,504 | £200,477 | 8.5% |
| Sir Gaerfyrddin | £196,987 | £188,816 | 4.3% |
| Tor-faen | £193,453 | £193,433 | 0% |
| Wrecsam | £204,235 | £189,821 | 7.6% |
| Cymru | £209,580 | £199,330 | 5.1% |
| Ynys Mon | £224,123 | £221,212 | 1.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mai 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £326,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £136,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Mai 2025 | Mai 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £329,988 | £312,223 | 5.7% |
| Tŷ pâr | £208,858 | £197,540 | 5.7% |
| Tŷ teras | £166,098 | £158,166 | 5.0% |
| Fflat neu fflat deulawr | £129,975 | £127,502 | 1.9% |
| Holl | £209,580 | £199,330 | 5.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Awdurdodau lleol | Mawrth 2025 | Mawrth 2024 |
|---|---|---|
| Abertawe | 164 | 226 |
| Blaenau Gwent | 39 | 59 |
| Bro Morgannwg | 117 | 119 |
| Caerdydd | 239 | 302 |
| Caerffili | 124 | 164 |
| Casnewydd | 118 | 151 |
| Castell-nedd Port Talbot | 104 | 142 |
| Ceredigion | 55 | 62 |
| Conwy | 140 | 151 |
| Gwynedd | 72 | 100 |
| Merthyr Tudful | 28 | 34 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 98 | 141 |
| Powys | 93 | 117 |
| Rhondda Cynon Taf | 183 | 220 |
| Sir Benfro | 97 | 134 |
| Sir Ddinbych | 80 | 87 |
| Sir Gaerfyrddin | 111 | 160 |
| Sir Fynwy | 67 | 96 |
| Sir y Fflint | 119 | 150 |
| Tor-faen | 47 | 83 |
| Wrecsam | 94 | 104 |
| Cymru | 2,231 | 2,867 |
| Ynys Mon | 42 | 65 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 78.3% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 21.3% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Mawrth 2021 | 5,504 |
| Mawrth 2022 | 4,154 |
| Mawrth 2023 | 3,228 |
| Mawrth 2024 | 2,867 |
| Mawrth 2025 | 2,231 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £384,861 | 1.4% | 26.5% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £205,741 | 1.0% | 3.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £179,929 | 0.5% | 5.3% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £250,758 | 0.4% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Mai 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £208,073 | 0.9% | 4.2% |
| Morgais | £210,311 | 0.3% | 5.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2025 |
|---|---|
| Cymru | 5 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288