Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2022

Cyhoeddwyd 20 July 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £212,414

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 14.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.9%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2022 am 9.30am dydd Mercher 17 Awst 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 14.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i lawr o 15.4% yn Ebrill 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 12.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Ebrill a Mai 2022, o’i gymharu â chynnydd o 1.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2021 a Mai 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Ebrill 2022 a Mai 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 26.0% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 41.7% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 24.8% i £318,000 yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Mewn cyferbyniad, Sir Ddinbych welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 6.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £192,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022 i £324,000. Gwelwyd y cynnydd blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 9.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i’r pris cyfartalog o £136,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 14.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i lawr o 15.4% yn Ebrill 2022.

Pris cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Awdurdodau lleol Mai 2022 Mai 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £190,330 £166,229 14.5%
Blaenau Gwent £132,388 £108,406 22.1%
Bro Morgannwg £317,527 £254,465 24.8%
Caerdydd £256,271 £231,535 10.7%
Caerffili £179,459 £158,057 13.5%
Casnewydd £225,453 £198,126 13.8%
Castell-nedd Port Talbot £154,556 £137,455 12.4%
Ceredigion £262,751 £216,184 21.5%
Conwy £215,710 £189,375 13.9%
Gwynedd £206,383 £183,120 12.7%
Merthyr Tudful £145,327 £125,952 15.4%
Pen-y-bont ar Ogwr £198,616 £180,415 10.1%
Powys £240,904 £205,300 17.3%
Rhondda Cynon Taf £148,562 £133,471 11.3%
Sir Benfro £230,977 £198,276 16.5%
Sir Ddinbych £192,258 £179,865 6.9%
Sir Fynwy £340,326 £297,102 14.5%
Sir y Fflint £210,114 £185,705 13.1%
Sir Gaerfyrddin £203,369 £173,952 16.9%
Tor-faen £187,687 £166,965 12.4%
Wrecsam £197,003 £173,719 13.4%
Ynys Môn £230,067 £204,670 12.4%
Cymru £212,414 £185,654 14.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mai 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £340,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £132,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mai 2022 Mai 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £324,485 £281,178 15.4%
Tŷ pâr £205,508 £179,663 14.4%
Tŷ teras £166,270 £145,038 14.6%
Fflat neu fflat deulawr £135,803 £123,659 9.8%
Holl £212,414 £185,654 14.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mawrth 2022 Mawrth 2021
Abertawe 205 331
Blaenau Gwent 65 96
Bro Morgannwg 114 245
Caerdydd 275 575
Caerffili 136 258
Casnewydd 120 250
Castell-nedd Port Talbot 108 212
Ceredigion 50 111
Conwy 122 196
Gwynedd 107 225
Merthyr Tudful 63 68
Pen-y-bont ar Ogwr 144 245
Powys 98 212
Rhondda Cynon Taf 214 369
Sir Benfro 107 253
Sir Ddinbych 90 191
Sir Gaerfyrddin 169 308
Sir Fynwy 66 202
Sir y Fflint 134 222
Tor-faen 64 127
Wrecsam 96 201
Ynys Môn 53 143
Cymru 2,600 5,040

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 26.0% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 23.7% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mawrth 2018 3,800
Mawrth 2019 3,639
Mawrth 2020 3,340
Mawrth 2021 5,040
Mawrth 2022 2,600

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £331,159 6.3% 34.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £201,633 0.8% 11.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £182,992 1.1% 14.2%
Cyn berchen-feddiannydd £247,011 0.6% 14.7%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllidoPris cyfartalog Mai 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £205,733 0.5% 14.2%
Morgais £216,337 1.1% 14.5%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2022
Cymru 1

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288