Skip to main content
Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2026

Diweddarwyd 2 Medi 2026

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2026

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £272,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.0%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.1%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 104.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 16 Medi 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.

Ar 20 Medi 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Yn ogystal â hyn, o 17 Rhagfyr 2025, mae’r gwaith i symud system gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU i blatfform newydd wedi golygu y gallwn gyflwyno gwelliant bach yn y ffordd rydym yn cysylltu’r setiau data a ddefnyddir wrth gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bod gan y dull newydd wybodaeth fwy cadarn am briodoleddau eiddo, er enghraifft arwynebedd llawr a nifer yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio yn y broses fodelu. Mae’r gwelliant hwn wedi arwain at rai diwygiadau bach yn ôl i fis Ionawr 2025.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.

O 22 Ebrill 2026, rydym wedi cyflwyno’r un gwelliannau cysylltu hyn i’n prosesu blynyddol; yn ogystal, rydym wedi gwneud gwelliant bach i gyfrifo’r pwysau a ddefnyddir ar gyfer eiddo sydd â nodweddion ar goll yn y model atchweliad.

2. Datganiad economaidd

2.0% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026. Roedd hyn i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.0% yn y 12 mis hyd at Fai 2026.

Arafodd cyfradd flynyddol y DU am yr ail fis yn olynol oherwydd bod twf prisiau yn wannach ar ddechrau haf 2026 nag yr oedd yn yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf. Cynyddodd prisiau cyfartalog y DU gan dim ond 0.1% rhwng Mai a Mehefin 2026, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Mae hyn yn cyfateb ag adroddiadau’r sector preifat, gan gynnwys Rightmove a Zoopla, sydd wedi gwneud adroddiadau tebyg o dwf prisiau araf ar ddechrau haf 2026.

Mewn cyferbyniad i ddechrau haf 2026, gwelwyd twf prisiau cryf ym Mai 2025 a Mehefin 2025 wrth i lefelau prisiau cyfartalog wella’n dda yn y misoedd ar ôl cwymp sydyn yn Ebrill 2025, a ddigwyddodd yr un pryd â’r newidiadau yn Nhreth Dir y Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. £272,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mehefin 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £5,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026 yn Lloegr i £293,000 (1.8%), cynyddodd yng Nghymru i £213,000 (1.8%) a chynyddodd yn yr Alban i £195,000 (2.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i £202,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.2%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.1% rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog y DU wedi gostwng gan 0.2% rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.7% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 2.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026, er i gyfradd y gostyngiad blynyddol arafu. Dyma’r degfed mis yn olynol o ostyngiadau mewn prisiau blynyddol yn Llundain, wedi ei ysgogi gan ostyngiadau blynyddol yn Llundain Fewnol.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mehefin 2026 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei brif ddangosydd prisiau tai wedi bod yn dangos arwyddion o sefydlogi yn y misoedd diweddar.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mehefin 2026, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 99,000. Mae hyn 2.5% yn uwch na 12 mis yn ôl (Mehefin 2025). Rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026, cynyddodd trafodion y DU gan 0.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 13.1% yn Lloegr, wedi lleihau gan 1.6% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 12.0% yng Nghymru ac wedi cynyddu gan 3.7% yng Ngogledd Iwerddon.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mehefin 2026 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd benthyca yn y dyfodol, wedi cynyddu i 58,200 ym Mehefin, ond yn is na chyfartaledd o 61,400 dros y 6 mis blaenorol.

3.  Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf.

2.0% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026. Roedd hyn i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.0% yn y 12 mis hyd at Fai 2026.

£272,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mehefin 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £5,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026 yn Lloegr i £293,000 (1.8%), cynyddodd yng Nghymru i £213,000 (1.8%) a chynyddodd yn yr Alban i £195,000 (2.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i £202,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.2%).

3.2  Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £213,162 -0.9% 1.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2026) £202,487 2.1% 9.2%
Lloegr £293,262 0.2% 1.8%
Yr Alban £195,355 -0.5% 2.3%
De Ddwyrain Lloegr £380,380 -0.3% 0.3%
De Orllewin Lloegr £304,562 0.6% 1.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £240,457 -0.7% 2.4%
Dwyrain Lloegr £338,707 -0.2% 1.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £250,941 1.0% 2.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £165,550 1.0% 4.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £219,922 0.4% 4.7%
Llundain £553,870 1.0% -2.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £207,948 -0.6% 3.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.1% rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026.

3.3  Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2026 Mehefin 2025 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £444,652 £434,485 2.3%
Tŷ pâr £277,332 £268,157 3.4%
Tŷ teras £230,994 £224,227 3.0%
Fflat neu fflat deulawr £193,711 £196,942 -1.6%
Holl £272,188 £266,796 2.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.

Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.

Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2026 yn seiliedig ar oddeutu 36,200 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,500 ar gyfer yr Alban, a 2,000 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 47% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mehefin 2026, fel y manylir yn ei gyhoeddiad  Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd camgymeriadau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gwlad Ebrill 2026 Ebrill 2025
Lloegr   36,243 31,590
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2026)   1,775 1,640
Yr Alban   7,503 7,718
Cymru   2,003 3,073

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Ebrill 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 93.6% yn Lloegr, lleihaodd gan 1.3% yn yr Alban a chynyddodd gan 1.1% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 18.5% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2026.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 65.5% yn Lloegr, wedi lleihau gan 0.6% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 1.6% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 45.2% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r cynnydd sydyn yn nifer y trafodion ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng Ebrill 2025 ac Ebrill 2026, a adroddwyd yn yr amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro ac amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF, yn adlewyrchu gweithgarwch anarferol o isel yn y farchnad yn Ebrill 2025 yn union ar ôl y newidiadau yn Nhreth Dir y Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2021 i 2025 yn ôl gwlad

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2026, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 59.5%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion y DU wedi cynyddu gan 53.8% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2026 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £353,353 -0.3% 3.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £266,575 0.7% 4.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2026 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £229,107 0.1% 1.8%
Cyn berchen-feddiannydd £335,352 0.0% 1.9%

Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 4.7KB)

Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.

6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mehefin 2026 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £258,214 0.0% 1.4%
Morgais £281,265 0.1% 2.0%

7. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein canllaw Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ionawr a Mawrth 2026, cafwyd 165,801 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – 9,100 o eiddo wedi eu prynu
  • Cymru oedd £150,000 i £174,999 – 840 o eiddo wedi eu prynu
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 1,978 o eiddo wedi eu prynu
  • Gogledd Iwerddon oedd £150,000 i £174,999 – 612 o eiddo wedi eu prynu

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2026 ar gyfer gwledydd y DU. Cyflwynir data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 i £500,000, ac yna band mwy ar gyfer dros £500,000.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
less than £25,000 27
£25,000 - £49,999 377
£50,000 - £74,999 1371
£75,000 - £99,999 3094
£100,000 - £124,999 4832
£125,000 - £149,999 6408
£150,000 - £174,999 8201
£175,000 - £199,999 9100
£200,000 - £224,999 8816
£225,000 - £249,999 9029
£250,000 - £274,999 8768
£275,000 - £299,999 7931
£300,000 - £324,999 7304
£325,000 - £349,999 6326
£350,000 - £374,999 5959
£375,000 - £399,999 5174
£400,000 - £424,999 4840
£425,000 - £449,999 4022
£450,000 - £474,999 3580
£475,000 - £499,999 3112
£500,000 - £524,999 2497
£525,000 - £549,999 2169
£550,000 - £574,999 2032
£575,000 - £599,999 1801
£600,000 - £624,999 1545
£625,000 - £649,999 1440
£650,000 - £674,999 1232
£675,000 - £699,999 1075
£700,000 - £724,999 957
£725,000 - £749,999 806
£750,000 - £774,999 746
£775,000 - £799,999 626
£800,000 - £824,999 647
£825,000 - £849,999 539
£850,000 - £874,999 562
£875,000 - £899,999 441
£900,000 - £924,999 440
£925,000 - £949,999 356
£950,000 - £974,999 329
£975,000 - £999,999 269
£1,000,000 - £1,249,999 1374
£1,250,000 - £1,499,999 815
£1,500,000 - £1,749,999 398
£1,750,000 - £1,999,999 245
£2,000,000 - £4,999,999 429
£5,000,000 - £9,999,999 36
mwy na £10,000,000 13

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
llai na £25,000 0
£25,000 - £49,999 17
£50,000 - £74,999 100
£75,000 - £99,999 248
£100,000 - £124,999 512
£125,000 - £149,999 735
£150,000 - £174,999 840
£175,000 - £199,999 791
£200,000 - £224,999 668
£225,000 - £249,999 610
£250,000 - £274,999 542
£275,000 - £299,999 428
£300,000 - £324,999 337
£325,000 - £349,999 307
£350,000 - £374,999 250
£375,000 - £399,999 196
£400,000 - £424,999 130
£425,000 - £449,999 117
£450,000 - £474,999 103
£475,000 - £499,999 78
£500,000 - £524,999 59
£525,000 - £549,999 50
£550,000 - £574,999 44
£575,000 - £599,999 36
£600,000 - £624,999 28
£625,000 - £649,999 28
£650,000 - £674,999 11
£675,000 - £699,999 24
£700,000 - £724,999 11
£725,000 - £749,999 9
£750,000 - £774,999 11
£775,000 - £799,999 12
£800,000 - £824,999 8
£825,000 - £849,999 4
£850,000 - £874,999 4
£875,000 - £899,999 3
£900,000 - £924,999 7
£925,000 - £949,999 4
£950,000 - £974,999 4
£975,000 - £999,999 2
£1,000,000 - £1,249,999 13
£1,250,000 - £1,499,999 0
£1,500,000 - £1,749,999 0
£1,750,000 - £1,999,999 0
£2,000,000 - £4,999,999 0
mwy na £10,000,000 0

Trafodion tai Yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
llai na £25,000 81
£25,000 - £49,999 590
£50,000 - £74,999 1166
£75,000 - £99,999 1644
£100,000 - £124,999 1727
£125,000 - £149,999 1978
£150,000 - £174,999 1929
£175,000 - £199,999 1746
£200,000 - £224,999 1412
£225,000 - £249,999 1388
£250,000 - £274,999 1235
£275,000 - £299,999 1105
£300,000 - £324,999 900
£325,000 - £349,999 723
£350,000 - £374,999 625
£375,000 - £399,999 532
£400,000 - £424,999 389
£425,000 - £449,999 302
£450,000 - £474,999 260
£475,000 - £499,999 214
£500,000 - £524,999 157
£525,000 - £549,999 129
£550,000 - £574,999 109
£575,000 - £599,999 100
£600,000 - £624,999 70
£625,000 - £649,999 66
£650,000 - £674,999 51
£675,000 - £699,999 45
£700,000 - £724,999 43
£725,000 - £749,999 35
£750,000 - £774,999 34
£775,000 - £799,999 22
£800,000 - £824,999 30
£825,000 - £849,999 9
£850,000 - £874,999 12
£875,000 - £899,999 7
£900,000 - £924,999 11
£925,000 - £949,999 7
£950,000 - £974,999 13
£975,000 - £999,999 7
£1,000,000 - £1,249,999 32
£1,250,000 - £1,499,999 25
£1,500,000 - £1,749,999 11
£1,750,000 - £1,999,999 4
£2,000,000 - £4,999,999 7
£5,000,000 - £9,999,999 0
mwy na £10,000,000 0

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
llai na £25,000 1
£25,000 - £49,999 42
£50,000 - £74,999 151
£75,000 - £99,999 339
£100,000 - £124,999 476
£125,000 - £149,999 586
£150,000 - £174,999 612
£175,000 - £199,999 575
£200,000 - £224,999 522
£225,000 - £249,999 474
£250,000 - £274,999 333
£275,000 - £299,999 238
£300,000 - £324,999 196
£325,000 - £349,999 147
£350,000 - £374,999 122
£375,000 - £399,999 121
£400,000 - £424,999 61
£425,000 - £449,999 55
£450,000 - £474,999 63
£475,000 - £499,999 32
mwy na £500,000 202

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ian Boreham, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

E-bost ian.boreham@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456228

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

E-bost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Garreth Jones, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

E-bost Garreth.Jones@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4114