Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mehefin 2026
Diweddarwyd 2 Medi 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2026
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £213,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 105.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 19 Medi 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026, i £213,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 4.1% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fai 2026 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.0% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026, o’i gymharu â chynnydd o 1.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.7% rhwng Mai 2026 a Mehefin 2026.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.1% yng Nghymru a chynyddodd gan 59.5% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd pob un ond 3 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026. Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 8.9% i £145,000 yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 4.2% i £211,000 yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026.
Yng Nghymru, tai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 2.6% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026, i’r pris cyfartalog o £171,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 2.6% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026, i’r pris cyfartalog o £127,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 4 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 4.1% yn y 12 mis hyd at Fai 2026 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Mehefin 2026 | Mehefin 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £206,059 | £205,670 | 0.2% |
| Blaenau Gwent | £144,603 | £132,781 | 8.9% |
| Bro Morgannwg | £297,999 | £288,532 | 3.3% |
| Caerdydd | £270,094 | £264,603 | 2.1% |
| Caerffili | £197,272 | £186,217 | 5.9% |
| Casnewydd | £230,505 | £219,519 | 5% |
| Castell-nedd Port Talbot | £162,967 | £160,895 | 1.3% |
| Ceredigion | £237,176 | £233,519 | 1.6% |
| Conwy | £213,461 | £211,087 | 1.1% |
| Gwynedd | £206,665 | £195,596 | 5.7% |
| Merthyr Tudful | £146,611 | £151,180 | -3% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £207,546 | £201,352 | 3.1% |
| Powys | £231,004 | £224,510 | 2.9% |
| Rhondda Cynon Taf | £167,559 | £156,037 | 7.4% |
| Sir Benfro | £210,862 | £220,214 | -4.2% |
| Sir Ddinbych | £198,995 | £192,171 | 3.6% |
| Sir Fynwy | £332,145 | £334,332 | -0.7% |
| Sir y Fflint | £213,930 | £211,825 | 1% |
| Sir Gaerfyrddin | £197,547 | £186,274 | 6.1% |
| Tor-faen | £199,778 | £196,645 | 1.6% |
| Wrecsam | £212,502 | £205,543 | 3.4% |
| Ynys Môn | £239,726 | £224,598 | 6.7% |
| Cymru | £213,162 | £209,486 | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mehefin 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £332,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £145,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Mehefin 2026 | Mehefin 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £333,545 | £329,675 | 1.2% |
| Tŷ pâr | £212,717 | £207,491 | 2.5% |
| Tŷ teras | £171,246 | £166,949 | 2.6% |
| Fflat neu fflat deulawr | £126,707 | £130,127 | -2.6% |
| Holl | £213,162 | £209,486 | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Ebrill 2026 | Ebrill 2025 |
|---|---|---|
| Abertawe | 139 | 219 |
| Blaenau Gwent | 41 | 57 |
| Bro Morgannwg | 114 | 166 |
| Caerdydd | 237 | 380 |
| Caerffili | 107 | 167 |
| Casnewydd | 111 | 174 |
| Castell-nedd Port Talbot | 74 | 135 |
| Ceredigion | 58 | 67 |
| Conwy | 102 | 107 |
| Gwynedd | 90 | 107 |
| Merthyr Tudful | 18 | 42 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 99 | 148 |
| Powys | 64 | 129 |
| Rhondda Cynon Taf | 126 | 231 |
| Sir Benfro | 77 | 133 |
| Sir Ddinbych | 80 | 97 |
| Sir Gaerfyrddin | 137 | 218 |
| Sir Fynwy | 67 | 97 |
| Sir y Fflint | 102 | 165 |
| Tor-faen | 38 | 78 |
| Wrecsam | 83 | 97 |
| Ynys Môn | 39 | 59 |
| Cymru | 2,003 | 3,073 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 1.1% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 1.6% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Ebrill 2022 | 3,792 |
| Ebrill 2023 | 2,298 |
| Ebrill 2024 | 2,617 |
| Ebrill 2025 | 3,073 |
| Ebrill 2026 | 2,003 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Ebrill 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £326,417 | -2.1% | 0.6% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £209,817 | -0.8% | 3.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mehefin 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £183,231 | -1.1% | 2.1% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £254,888 | -0.8% | 1.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Mehefin 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £212,241 | -0.8% | 1.1% |
| Morgais | £213,625 | -1.0% | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu | Ebrill 2026 |
|---|---|---|
| Cymru | 5 |
Llwytho’r data ar gyfer Cymru a Lloegr i lawr (CSV, 45KB)
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288