Mynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2026
Diweddarwyd 18 Medi 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2026
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £273,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.4%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.7%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 104.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 21 Hydref 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
Ar 20 Medi 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Yn ogystal â hyn, o 17 Rhagfyr 2025, mae’r gwaith i symud system gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU i blatfform newydd wedi golygu y gallwn gyflwyno gwelliant bach yn y ffordd rydym yn cysylltu’r setiau data a ddefnyddir wrth gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bod gan y dull newydd wybodaeth fwy cadarn am briodoleddau eiddo, er enghraifft arwynebedd llawr a nifer yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio yn y broses fodelu. Mae’r gwelliant hwn wedi arwain at rai diwygiadau bach yn ôl i fis Ionawr 2025.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
O 22 Ebrill 2026, rydym wedi cyflwyno’r un gwelliannau cysylltu hyn i’n prosesu blynyddol; yn ogystal, rydym wedi gwneud gwelliant bach i gyfrifo’r pwysau a ddefnyddir ar gyfer eiddo sydd â nodweddion ar goll yn y model atchweliad.
2. Datganiad economaidd
1.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Roedd hyn i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026.
Achoswyd y trydydd mis yn olynol o arafu yng nghyfradd flynyddol y DU yn bennaf gan arafu sydyn yng nghyfradd flynyddol De-orllewin Lloegr, gyda Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr hefyd yn cyfrannu at yr arafu. Mae’r duedd hon yn cyd-fynd ag Arolwg Marchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Gorffennaf 2026, a nododd fod prisiau tai ledled y DU yn parhau i wynebu rhywfaint o bwysau ar i lawr, yn enwedig yn Llundain, De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Lloegr.
£273,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yng Ngorffennaf 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £4,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026 yn Lloegr i £293,000 (1.1%), cynyddodd yng Nghymru i £215,000 (2.6%) a chynyddodd yn yr Alban i £196,000 (2.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i £202,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.2%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.9% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 3.3% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Dyma’r unfed mis ar ddeg yn olynol i brisiau cyfartalog yn Llundain ostwng, gydag effaith arbennig ar Fewnol Lundain, ac mae’n cynrychioli’r gyfradd flynyddol isaf ar gyfer Llundain er Ionawr 2024.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Gorffennaf 2026 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei brif ddangosydd prisiau tai wedi troi ychydig yn llai negyddol.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Gorffennaf 2026, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 97,000. Mae hyn 1.1% yn is na 12 mis yn ôl (Gorffennaf 2025). Rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026, lleihaodd trafodion y DU gan 1.7% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 3.3% yn Lloegr, wedi lleihau gan 3.9% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 5.8% yng Nghymru ac wedi cynyddu gan 3.1% yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2026 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd benthyca yn y dyfodol, wedi lleihau i 56,100 ym Mehefin, ond yn is na chyfartaledd o 60,800 dros y 6 mis blaenorol.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf.
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 2KB)
Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn 1.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Roedd hyn yn ostyngiad o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026.
£273,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yng Ngorffennaf 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £4,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026 yn Lloegr i £293,000 (1.1%), cynyddodd yng Nghymru i £215,000 (2.6%) a chynyddodd yn yr Alban i £196,000 (2.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i £202,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.2%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £215,037 | 1.0% | 2.6% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2026) | £202,487 | 2.1% | 9.2% |
| Lloegr | £293,479 | 0.7% | 1.1% |
| Yr Alban | £196,349 | 1.2% | 2.3% |
| De Ddwyrain Lloegr | £380,878 | 0.5% | 0.2% |
| De Orllewin Lloegr | £302,298 | -0.2% | -0.2% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £242,274 | 1.7% | 1.9% |
| Dwyrain Lloegr | £337,518 | 0.5% | 0.5% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £250,880 | 0.5% | 1.5% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £166,943 | 1.1% | 4.9% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £221,445 | 1.0% | 4.4% |
| Llundain | £550,037 | -0.1% | -3.3% |
| Swydd Gaerefrog a Humber | £209,116 | 1.3% | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 64KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Gorffennaf 2026 | Gorffennaf 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £444,936 | £437,752 | 1.6% |
| Tŷ pâr | £278,555 | £270,682 | 2.9% |
| Tŷ teras | £231,945 | £226,346 | 2.5% |
| Fflat neu fflat deulawr | £192,704 | £197,534 | -2.4% |
| Holl | £272,611 | £268,843 | 1.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 67KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2026 yn seiliedig ar oddeutu 43,300 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,500 ar gyfer yr Alban, a 2,300 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 50% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Gorffennaf 2026, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd camgymeriadau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
| Gwlad | Mai 2026 | Mai 2025 |
|---|---|---|
| Lloegr | 39,674 | 51,440 |
| Gogledd Iwerddon | 1,775 | 1,640 |
| Yr Alban | 8,469 | 8,999 |
| Cymru | 2,232 | 3,288 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Mai 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 33.6% yn Lloegr, lleihaodd gan 26.8% yn yr Alban, a chynyddodd gan 8.5% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 18.5% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2026.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fai 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 16.2% yn Lloegr, wedi lleihau gan 4.7% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 1.2% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 14.8% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2022 i 2026 yn ôl gwlad
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 20% yn y DU.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Mai 2026, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 16.7%.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £369,759 | 4.4% | 8.1% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £267,183 | 0.1% | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 11KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Gorffennaf 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £229,302 | 0.6% | 1.2% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £336,064 | 0.8% | 1.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 4.7KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Gorffennaf 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £258,735 | 0.7% | 1.1% |
| Morgais | £281,666 | 0.7% | 1.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 5KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein canllaw Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Ian Boreham, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
E-bost ian.boreham@ons.gov.uk
Ffôn 01633 456228
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
E-bost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Garreth Jones, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
E-bost Garreth.Jones@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4114