Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2026
Diweddarwyd 18 Medi 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2026
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.6%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 106.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 21 Hydref 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.6% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026, i £215,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 1.6% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 1.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.0% rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026, o’i gymharu â dim newid yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Mehefin 2026 a Gorffennaf 2026.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 8.5% yng Nghymru a chynyddodd gan 20.0% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 18 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Bro Morgannwg welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 6.2% i £303,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 4.7% i £209,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026.
Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 3.4% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026, i’r pris cyfartalog o £215,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 0.3% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026, i’r pris cyfartalog o £129,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 4 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.6% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 1.6% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2026 | Gorffennaf 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £205,383 | £205,696 | -0.2% |
| Blaenau Gwent | £144,294 | £138,048 | 4.5% |
| Bro Morgannwg | £303,112 | £285,443 | 6.2% |
| Caerdydd | £272,252 | £265,146 | 2.7% |
| Caerffili | £197,542 | £189,543 | 4.2% |
| Casnewydd | £229,200 | £224,613 | 2% |
| Castell-nedd Port Talbot | £168,082 | £163,422 | 2.9% |
| Ceredigion | £235,160 | £238,125 | -1.2% |
| Conwy | £217,829 | £214,116 | 1.7% |
| Gwynedd | £204,974 | £194,260 | 5.5% |
| Merthyr Tudful | £156,721 | £150,623 | 4% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £209,569 | £202,086 | 3.7% |
| Powys | £237,762 | £228,971 | 3.8% |
| Rhondda Cynon Taf | £164,192 | £156,858 | 4.7% |
| Sir Benfro | £208,615 | £218,823 | -4.7% |
| Sir Ddinbych | £201,452 | £194,390 | 3.6% |
| Sir Fynwy | £335,093 | £325,864 | 2.8% |
| Sir y Fflint | £215,892 | £211,032 | 2.3% |
| Sir Gaerfyrddin | £199,025 | £187,744 | 6% |
| Torfaen | £199,184 | £200,283 | -0.5% |
| Wrecsam | £212,778 | £208,264 | 2.2% |
| Ynys Môn | £231,943 | £232,736 | -0.3% |
| Cymru | £215,037 | £209,546 | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £335,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £144,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Gorffennaf 2026 | Gorffennaf 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £336,301 | £328,146 | 2.5% |
| Tŷ pâr | £215,065 | £208,005 | 3.4% |
| Tŷ teras | £172,261 | £167,718 | 2.7% |
| Fflat neu fflat deulawr | £128,586 | £128,971 | -0.3% |
| Holl | £215,037 | £209,546 | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.
| Awdurdodau lleol | Mai 2026 | Mai 2025 |
|---|---|---|
| Abertawe | 157 | 264 |
| Blaenau Gwent | 45 | 76 |
| Bro Morgannwg | 131 | 139 |
| Caerdydd | 228 | 345 |
| Caerffili | 133 | 194 |
| Casnewydd | 119 | 178 |
| Castell-nedd Port Talbot | 100 | 167 |
| Ceredigion | 59 | 57 |
| Conwy | 92 | 128 |
| Gwynedd | 78 | 140 |
| Merthyr Tudful | 28 | 56 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 133 | 172 |
| Powys | 85 | 143 |
| Rhondda Cynon Taf | 195 | 266 |
| Sir Benfro | 98 | 147 |
| Sir Ddinbych | 50 | 96 |
| Sir Gaerfyrddin | 123 | 181 |
| Sir Fynwy | 67 | 108 |
| Sir y Fflint | 121 | 174 |
| Torfaen | 51 | 83 |
| Wrecsam | 92 | 116 |
| Ynys Môn | 47 | 58 |
| Cymru | 2,232 | 3,288 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 8.5% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fai 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 1.2% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Mai 2022 | 3,813 |
| Mai 2023 | 2,515 |
| Mai 2024 | 3,145 |
| Mai 2025 | 3,288 |
| Mai 2026 | 2,232 |
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £347,136 | 6.0% | 9.9% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £212,803 | 1.2% | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Gorffennaf 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £184,649 | 0.9% | 2.7% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £257,326 | 1.1% | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Gorffennaf 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £214,403 | 1.1% | 2.5% |
| Morgais | £215,380 | 1.0% | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu | Mai 2026 |
|---|---|---|
| Cymru | 4 |
Llwytho’r data ar gyfer Cymru a Lloegr i lawr (CSV, 45KB)
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288