Accredited official statistics

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2025

Published 17 September 2025

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2025

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £209,000

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.4%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 103.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2025 am 9.30am ddydd Mercher 22 Hydref 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025, i £209,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 2.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2025 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 23.6% yng Nghymru a chynyddodd gan 6.0% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025. Abertawe welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 7.4% i £209,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.8% i £218,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025.

Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 2.9% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025, i’r pris cyfartalog o £209,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 1.3% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025, i’r pris cyfartalog o £127,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 2.8% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2025 (amcangyfrif diwygiedig).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2025 Gorffennaf 2024 Gwahaniaeth
Abertawe £209,218 £194,854 7.4%
Blaenau Gwent £138,831 £129,688 7.1%
Bro Morgannwg £284,400 £286,528 -0.7%
Caerdydd £268,194 £262,143 2.3%
Caerffili £190,073 £184,108 3.2%
Casnewydd £220,291 £214,762 2.6%
Castell-nedd Port Talbot £161,124 £157,340 2.4%
Ceredigion £217,626 £233,586 -6.8%
Conwy £210,217 £206,988 1.6%
Gwynedd £198,064 £191,720 3.3%
Merthyr Tudful £148,355 £143,948 3.1%
Pen-y-bont ar Ogwr £208,146 £196,459 5.9%
Powys £226,627 £226,017 0.3%
Rhondda Cynon Taf £157,766 £151,168 4.4%
Sir Benfro £219,685 £212,484 3.4%
Sir Ddinbych £193,556 £189,993 1.9%
Sir Fynwy £322,066 £330,757 -2.6%
Sir y Fflint £212,935 £207,525 2.6%
Sir Gaerfyrddin £199,422 £189,881 5%
Torfaen £199,254 £190,203 4.8%
Wrecsam £207,023 £192,999 7.3%
Ynys Môn £230,268 £218,074 5.6%
Cymru £209,178 £204,982 2%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £322,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £139,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Gorffennaf 2025 Gorffennaf 2024 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £326,985 £320,819 1.9%
Tŷ pâr £208,617 £202,733 2.9%
Tŷ teras £167,368 £163,633 2.3%
Fflat neu fflat deulawr £127,481 £129,137 -1.3%
Holl £209,178 £204,982 2.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Mai 2025 Mai 2024
Abertawe 173 233
Blaenau Gwent 43 66
Bro Morgannwg 101 140
Caerdydd 229 368
Caerffili 122 192
Casnewydd 109 171
Castell-nedd Port Talbot 107 145
Ceredigion 41 65
Conwy 80 129
Gwynedd 89 112
Merthyr Tudful 32 61
Pen-y-bont ar Ogwr 130 161
Powys 99 142
Rhondda Cynon Taf 159 264
Sir Benfro 92 117
Sir Ddinbych 69 102
Sir Gaerfyrddin 107 179
Sir Fynwy 78 110
Sir y Fflint 99 158
Torfaen 35 67
Wrecsam 82 107
Ynys Môn 43 56
Cymru 2,119 3,145

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2024 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 8.3% yn Lloegr, lleihaodd gan 1.6% yn yr Alban, a chynyddodd gan 23.6% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 11.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2025.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fai 2025, fod nifer y trafodion Cofrestrfa Tir EF wedi lleihau gan 14.3% yn Lloegr, wedi lleihau gan 1.2% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 4.6% yng Nghymru, ac wedi lleihau gan 13.8% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mai 2021 4,027
Mai 2022 3,813
Mai 2023 2,515
Mai 2024 3,145
Mai 2025 2,119

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2025 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £325,672 -6.2% 9.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £206,184 0.7% 4.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2025 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £180,158 -0.2% 2.5%
Cyn berchen-feddiannydd £249,173 -0.8% 1.5%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2025 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,949 -1.0% 1.2%
Morgais £209,792 -0.2% 2.4%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2025
Cymru 0

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288