Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2023

Cyhoeddwyd 20 September 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £289,824

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 152.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2023 am 9.30am ddydd Mercher 18 Hydref 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

0.6% oedd y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023, o’i gymharu ag 1.9% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023.

£290,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU yng Ngorffennaf 2023, sy’n £2,000 yn uwch na 12 mis yn ôl, ond £2,000 yn is na’r brig diweddar yn Nhachwedd 2022. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023 i £309,000 (0.6%) yn Lloegr a £192,000 yn yr Alban (0.1%), a gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023 i £216,000 yng Nghymru (-0.1%). Cynyddodd y pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2023 i £174,000 yng Ngogledd Iwerddon (2.7%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2023, o’i gymharu â chynnydd o 1.9% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Cafwyd y chwyddiant prisiau tai blynyddol mwyaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023. De Orllewin Lloegr oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle lleihaodd prisiau gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Gorffennaf 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) y bu dirywiad sylweddol yn y galw gan brynwyr yn dilyn y cynnydd diweddaraf mewn cyfraddau llog morgeisi. O’i ystyried ar lefel ranbarthol a sirol, dangosodd pob rhan o’r DU ganlyniad negyddol cadarn ar gyfer ymholiadau gan brynwyr newydd dros y mis.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 2 alw gwannach a chyflenwad cryfach na blwyddyn yn ôl, ac felly ein bod agosach at gael cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw. Arweiniodd hyn at brisiau mwy sefydlog o’i gymharu â’r misoedd diweddar.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ar gyfer Gorffennaf 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 86,510. Mae hyn 16.3% yn is na 12 mis yn ôl (Gorffennaf 2022). Rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2023, cynyddodd trafodion yn y DU gan 0.8% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau i 46,400 yng Ngorffennaf 2023, o 54,600 ym Mehefin 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023, i lawr o 1.9% ym Mehefin 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 0.6%.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £215,632 1.1% -0.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2023) £173,898 1.4% 2.7%
Lloegr £308,633 0.4% 0.6%
Yr Alban £191,870 1.1% 0.1%
De Ddwyrain Lloegr £394,096 0.5% 0.4%
De Orllewin Lloegr £323,713 -0.2% -1.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £249,484 -0.5% 1.9%
Dwyrain Lloegr £352,723 0.4% 0.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £251,313 0.2% 0.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £163,480 0.5% 2.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £215,648 0.3% 1.0%
Llundain £534,265 1.1% -0.8%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £212,730 1.5% 2.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 1.9% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Mehefin 2022 a Gorffennaf 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2023 Gorffennaf 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £458,707 £448,911 2.2%
Tŷ pâr £281,520 £278,797 1.0%
Tŷ teras £236,520 £237,213 -0.3%
Fflat neu fflat deulawr £229,931 £232,346 -1.0%
Holl £289,824 £288,156 0.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Mai 2023 Mai 2022
Cymru 1,914 3,457
Gogledd Iwerddon 1,592 2,034
Lloegr 32,220 59,744
Yr Alban 7,538 8,573

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 19.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 9.5% yn yr Alban, a lleihaodd gan 17.9% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 17.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Fai 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 27.5% yn Lloegr, wedi lleihau gan 27.9% yng Nghymru, wedi lleihau gan 10.2% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 21.6% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Mai

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 17.7%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 25.9% yn y 12 mis hyd at Fai 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £395,477 -0.3% 13.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £278,175 0.5% 1.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £240,789 0.4% 0.2%
Cyn berchen-feddiannydd £340,098 0.8% 1.0%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £274,100 0.3% 0.3%
Morgais £302,564 0.6% 0.8%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991