Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2023

Cyhoeddwyd 20 September 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2023

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,632

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.1%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.1%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 158.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2022 am 9.30am ddydd Mercher 18 Hydref 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023. Roedd hyn i lawr o 0.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU, sef 0.6% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.1% rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2023, o’i gymharu â chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Mehefin 2023 a Gorffennaf 2023.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 17.9% yng Nghymru a chan 17.7% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 22 awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Merthyr Tudful, gan godi 10.6% i £163,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023. Mewn cyferbyniad, Ynys Môn welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.7% i £226,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

Yng Nghymru, dangosodd tai sengl y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 1.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023 i £332,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan ostwng 1.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023, i’r pris cyfartalog o £168,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023, i lawr o gynnydd mewn prisiau cyfartalog o 0.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2023 Gorffennaf 2022 Gwahaniaeth
Abertawe £190,579 £193,133 -1.3%
Blaenau Gwent £128,819 £129,024 -0.2%
Bro Morgannwg £317,046 £303,848 4.3%
Caerdydd £263,035 £256,812 2.4%
Caerffili £180,824 £183,502 -1.5%
Casnewydd £236,791 £231,275 2.4%
Castell-nedd Port Talbot £164,486 £161,095 2.1%
Ceredigion £251,955 £243,530 3.5%
Conwy £213,418 £213,687 -0.1%
Gwynedd £208,821 £210,475 -0.8%
Merthyr Tudful £162,694 £147,162 10.6%
Pen-y-bont ar Ogwr £207,443 £204,743 1.3%
Powys £244,315 £244,688 -0.2%
Rhondda Cynon Taf £156,068 £156,147 -0.1%
Sir Benfro £229,958 £239,613 -4%
Sir Ddinbych £200,325 £199,504 0.4%
Sir Fynwy £357,560 £339,239 5.4%
Sir y Fflint £215,126 £209,071 2.9%
Sir Gaerfyrddin £202,720 £198,318 2.2%
Torfaen £192,594 £195,620 -1.5%
Wrecsam £198,073 £203,917 -2.9%
Ynys Môn £226,082 £242,251 -6.7%
Cymru £215,632 £215,929 -0.1%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £358,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £129,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Gorffennaf 2023 Gorffennaf 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £332,221 £328,899 1.0%
Tŷ pâr £209,275 £209,450 -0.1%
Tŷ teras £167,892 £169,637 -1.0%
Fflat neu fflat deulawr £134,704 £135,850 -0.8%
Holl £215,632 £215,929 -0.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Mai 2023 Mai 2022
Abertawe 124 273
Blaenau Gwent 32 73
Bro Morgannwg 67 161
Caerdydd 191 367
Caerffili 99 218
Casnewydd 86 172
Castell-nedd Port Talbot 112 162
Ceredigion 51 67
Conwy 79 175
Gwynedd 93 123
Merthyr Tudful 24 58
Pen-y-bont ar Ogwr 98 137
Powys 86 119
Rhondda Cynon Taf 173 299
Sir Benfro 94 132
Sir Ddinbych 51 133
Sir Gaerfyrddin 124 207
Sir Fynwy 66 91
Sir y Fflint 117 184
Torfaen 54 103
Wrecsam 50 128
Ynys Môn 43 75
Cymru 1,914 3,457

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 17.9% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 27.9% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Fai 2023.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mai 2019 3,854
Mai 2020 1,576
Mai 2021 3,644
Mai 2022 3,457
Mai 2023 1,914

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £319,587 -0.2% 14.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £207,864 1.4% 1.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £185,106 1.0% -0.6%
Cyn berchen-feddiannydd £251,800 1.3% 0.3%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £208,522 1.6% -0.3%
Morgais £219,759 0.9% -0.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2023
Cymru 3

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288