Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2026

Diweddarwyd 17 Ebrill 2026

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2026

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £268,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.3%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.3%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 102.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 22 Ebrill 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.

Ar 20 Medi 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Yn ogystal â hyn, o 17 Rhagfyr 2025, mae’r gwaith i symud system gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU i blatfform newydd wedi golygu y gallwn gyflwyno gwelliant bach yn y ffordd rydym yn cysylltu’r setiau data a ddefnyddir wrth gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bod gan y dull newydd wybodaeth fwy cadarn am briodoleddau eiddo, er enghraifft arwynebedd llawr a nifer yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio yn y broses fodelu. Mae’r gwelliant hwn wedi arwain at rai diwygiadau bach yn ôl i fis Ionawr 2025.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.

2. Datganiad economaidd

1.3% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.9% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025.

£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Ionawr 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £3,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026 yn Lloegr i £290,000 (1.1%), cynyddodd yng Nghymru i £210,000 (2.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £188,000 (1.3%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2025 i £196,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.5%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, nid oedd prisiau tai cyfartalog wedi newid yn y DU rhwng Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 3.1% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 1.7% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ionawr 2026 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod y farchnad werthu yn parhau i fod yn dawel, gyda mesurau galw gan brynwyr a gwerthiannau y cytunwyd arnynt mewn tiriogaeth negyddol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ionawr 2026, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 95,000. Mae hyn 0.8% yn is na 12 mis yn ôl (Ionawr 2025). Rhwng Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026, lleihaodd trafodion y DU gan 5.0% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 24.4% yn Lloegr, wedi lleihau gan 24.4% yn yr Alban, wedi lleihau gan 25.9% yng Nghymru ac wedi lleihau gan 19.5% yng Ngogledd Iwerddon.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Ionawr 2026 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau gan 60,000 yn Ionawr, yn is na chyfartaledd o oddeutu 64,100 dros y 6 mis blaenorol.

3.  Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf

1.3% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.9% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2025.

£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Ionawr 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £3,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ionawr 2026 yn Lloegr i £290,000 (1.1%), cynyddodd yng Nghymru i £210,000 (2.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £188,000 (1.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2025 i £196,000 yng Ngogledd Iwerddon (7.5%).

3.2  Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £210,186 -1.7% 2.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2025) £195,936 1.4% 7.5%
Lloegr £290,437 -0.2% 1.1%
Yr Alban £187,716 -0.3% 1.3%
De Ddwyrain Lloegr £379,532 0.4% -0.5%
De Orllewin Lloegr £301,518 0.0% -0.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £241,497 -0.4% 2.1%
Dwyrain Lloegr £336,455 -0.2% 1.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £247,251 0.3% 2.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £158,295 -2.8% 2.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £214,443 -0.8% 3.1%
Llundain £554,422 0.8% -1.7%
Swydd Gaerefrog a Humber £206,470 -0.5% 3.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, nid oedd prisiau tai cyfartalog wedi newid yn y DU rhwng Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026.

3.3  Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2026 Ionawr 2025 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £436,443 £433,587 0.7%
Tŷ pâr £273,593 £266,530 2.7%
Tŷ teras £227,645 £222,203 2.4%
Fflat neu fflat deulawr £192,251 £194,677 -1.2%
Holl £268,421 £264,936 1.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.

Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.

Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2026 yn seiliedig ar oddeutu 31,600 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 4,500 ar gyfer yr Alban, a 1,600 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 48% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ionawr 2026, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol


Gwlad Tachwedd 2025 Tachwedd 2024
Cymru 2,367 3,931
Gogledd Iwerddon 2,118 2,273
Lloegr 43,013 70,691
Yr Alban 9,058 9,593

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Tachwedd 2024 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2025, cynyddodd trafodion gan 1.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 3.7% yn yr Alban ac roedd heb newid yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2025.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi lleihau gan 1.4% yn Lloegr, wedi lleihau gan 4.8% yn yr Alban, heb newid yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 1.6% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2021 i 2025 yn ôl gwlad: Awst

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 0.7%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi lleihau gan 1.6% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2025.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2025 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £377,675 5.0% 14.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £266,805 0.2% 2.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2026 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £226,465 -0.4% 1.3%
Cyn berchen-feddiannydd £329,867 -0.1% 1.0%

6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2026 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £255,155 -0.2% 0.9%
Morgais £277,349 -0.3% 1.3%

7. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein canllaw Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

9. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ian Boreham, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

E-bost ian.boreham@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456228

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

E-bost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Garreth Jones, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

E-bost Garreth.Jones@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4114