Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2024

Cyhoeddwyd 17 Ebrill 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2024

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £211,000

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.2%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.4%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 154.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2024 am 9.30am ddydd Mercher 22 Mai 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 2.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 0.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 44.3% yng Nghymru a lleihaodd gan 42.3% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 5 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 3.5% i £248,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 7.5% i £220,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan leihau 0.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 i £206,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan leihau 2.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024, i’r pris cyfartalog o £164,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 1.2% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 2.3% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 (amcangyfrif diwygiedig).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Chwefror 2024 Chwefror 2023 Gwahaniaeth
Abertawe £193,294 £193,707 -0.2%
Blaenau Gwent £127,018 £136,028 -6.6%
Bro Morgannwg £296,260 £288,341 2.7%
Caerdydd £265,427 £266,484 -0.4%
Caerffili £183,186 £184,794 -0.9%
Casnewydd £219,652 £237,555 -7.5%
Castell-nedd Port Talbot £161,772 £173,380 -6.7%
Ceredigion £248,227 £239,770 3.5%
Conwy £220,289 £221,895 -0.7%
Gwynedd £208,308 £204,553 1.8%
Merthyr Tudful £148,847 £154,962 -3.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £206,497 £209,044 -1.2%
Powys £238,023 £242,177 -1.7%
Rhondda Cynon Taf £152,022 £162,423 -6.4%
Sir Benfro £227,062 £235,317 -3.5%
Sir Ddinbych £195,940 £202,464 -3.2%
Sir Fynwy £332,921 £339,398 -1.9%
Sir y Fflint £221,426 £215,340 2.8%
Sir Gaerfyrddin £195,802 £206,611 -5.2%
Torfaen £195,165 £195,247 0%
Wrecsam £205,932 £204,550 0.7%
Ynys Môn £230,281 £235,702 -2.3%
Cymru £210,717 £213,351 -1.2%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Chwefror 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £333,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £127,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Chwefror 2024 Chwefror 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £318,907 £320,682 -0.6%
Tŷ pâr £206,458 £207,280 -0.4%
Tŷ teras £163,990 £168,152 -2.5%
Fflat neu fflat deulawr £137,214 £138,734 -1.1%
Holl £210,717 £213,351 -1.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Rhagfyr 2023 Rhagfyr 2022
Abertawe 116 233
Blaenau Gwent 25 77
Bro Morgannwg 70 197
Caerdydd 158 474
Caerffili 79 212
Casnewydd 82 173
Castell-nedd Port Talbot 64 184
Ceredigion 36 70
Conwy 78 137
Gwynedd 84 145
Merthyr Tudful 35 78
Pen-y-bont ar Ogwr 75 208
Powys 63 128
Rhondda Cynon Taf 118 293
Sir Benfro 76 146
Sir Ddinbych 57 123
Sir Gaerfyrddin 95 217
Sir Fynwy 60 117
Sir y Fflint 71 169
Torfaen 37 73
Wrecsam 54 136
Ynys Môn 36 80
Cymru 1,569 3,670

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 44.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 17.9% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Rhagfyr 2019 4,089
Rhagfyr 2020 4,929
Rhagfyr 2021 4,545
Rhagfyr 2022 3,670
Rhagfyr 2023 1,569
This content is not accessible - switch to table

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £314,807 0.7% 17.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £210,428 0.0% -2.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £182,112 0.4% -1.3%
Cyn berchen-feddiannydd £244,135 0.4% -1.2%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Chwefror 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £204,644 0.6% -0.9%
Morgais £214,326 0.3% -1.4%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2023
Cymru 7

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288