Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2021

Cyhoeddwyd 16 February 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £274,712

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.8%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.8%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 144.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2022 am 9.30am ddydd Mercher 23 Mawrth 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.8% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021, i fyny o 10.7% yn Nhachwedd 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021, yr un cynnydd ag yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd a Rhagfyr 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau gan 13.0% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 5.5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021. Gogledd Iwerddon yw’r wlad rataf yn y DU i brynu eiddo o hyd, a phris cyfartalog tŷ yw £159,000. Dylid nodi nad yw data ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) ar gael eto ac, felly, mae prisiau tai ar gyfer y misoedd hyn wedi eu cario ymlaen o Chwarter 3 hyd nes y gellir ymgorffori’r ffigurau diweddaraf.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ionawr 2022 fod ymholiadau gan brynwyr newydd yn cynyddu’n raddol ar ddechrau’r flwyddyn, wrth i’r galw gan brynwyr gynyddu dros y mis. Mae gwerthiannau wedi sefydlogi ym mis Ionawr ond disgwylir iddynt gynyddu dros y tri mis nesaf.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 4 fod y galw cryf am dai a phrinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, a bod hynny wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Rhagfyr 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 100,110. Mae hyn 20.0% yn is na flwyddyn yn ôl. Rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021, cynyddodd trafodion y DU gan 7.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn cynnydd mawr yn y mis blaenorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Rhagfyr 2021 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu ychydig i 71,000 yn Rhagfyr 2021, i fyny o 67,000 yn Nhachwedd 2021.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.8% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021, i fyny o 10.7% yn Nhachwedd 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 13.0%.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 11.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021.

Dim ond yn chwarterol y mae data Gogledd Iwerddon ar gael. Mae data Gogledd Iwerddon yn cael eu copïo ymlaen nes bod data’r chwarter nesaf ar gael. Er bod disgwyl i ddiweddariad i ddata Gogledd Iwerddon ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) gae ei ryddhau yn y cyhoeddiad hwn, nid yw data ar gael eto. Bydd data prisiau tai ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) yn cael eu cario ymlaen hyd nes y gellir ymgorffori’r ffigurau diweddaraf.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £204,835 2.0% 13.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2021) £159,109 3.0% 10.7%
Lloegr £293,339 1.1% 10.7%
Yr Alban £180,485 -1.8% 11.2%
De Ddwyrain Lloegr £380,237 1.6% 12.6%
De Orllewin Lloegr £314,037 1.9% 13.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £235,004 1.1% 12.1%
Dwyrain Lloegr £339,502 0.4% 11.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £238,238 2.6% 11.5%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £147,214 -1.5% 5.9%
Gogledd Orllewin Lloegr £200,172 0.6% 10.2%
Llundain £521,146 0.2% 5.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £196,877 1.8% 9.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021, heb ei newid o’r un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd a Rhagfyr 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Rhagfyr 2021 Rhagfyr 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £437,452 £379,432 15.3%
Tŷ pâr £262,751 £236,485 11.1%
Tŷ teras £223,068 £203,387 9.7%
Fflat neu fflat deulawr £223,489 £211,424 5.7%
Holl £274,712 £247,984 10.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Hydref 2021 Hydref 2020
Cymru 2,017 4,200
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2021) 2,510 2,806
Lloegr 22,642 77,907
Yr Alban 10,228 12,974

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 66.0% yn Lloegr, lleihaodd gan 16.2% yn yr Alban a lleihaodd gan 45.7% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 62.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau ar draws yr holl siroedd yn y DU yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021, gan 32.7% yn Lloegr, gan 19.1% yn yr Alban, gan 0.2% yng Nghymru a chan 25.3% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Hydref

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 56.0% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 29.6% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Hydref 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £358,543 2.0% 22.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £260,629 -1.7% 8.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £228,627 0.9% 9.9%
Cyn berchen-feddiannydd £322,547 0.8% 11.8%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws ariannu Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £260,457 0.7% 10.2%
Morgais £286,918 0.9% 11.1%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Gorffennaf a Medi 2021, cafwyd 190,530 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,350 o eiddo
  • Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – prynwyd 13,498 o eiddo
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 3,179 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021 ar gyfer gwledydd y DU. Dylid nodi nad oes data ar gyfer Chwarter 3 ar gyfer Gogledd Iwerddon ar gael eto. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 13
£25,000 i £49,999 580
£50,000 i £74,999 2,920
£75,000 i £99,999 6,264
£100,000 i £124,999 8,518
£125,000 i £149,999 11,603
£150,000 i £174,999 13,357
£175,000 i £199,999 13,498
£200,000 i £224,999 12,075
£225,000 i £249,999 12,548
£250,000 i £274,999 10,578
£275,000 i £299,999 8,637
£300,000 i £324,999 6,706
£325,000 i £349,999 5,934
£350,000 i £374,999 4,884
£375,000 i £399,999 4,282
£400,000 i £424,999 3,248
£425,000 i £449,999 2,942
£450,000 i £474,999 2,504
£475,000 i £499,999 2,162
£500,000 i £524,999 1,545
£525,000 i £549,999 1,583
£550,000 i £574,999 1,366
£575,000 i £599,999 1,173
£600,000 i £624,999 1,078
£625,000 i £649,999 923
£650,000 i £674,999 911
£675,000 i £699,999 778
£700,000 i £724,999 698
£725,000 i £749,999 581
£750,000 i £774,999 557
£775,000 i £799,999 519
£800,000 i £824,999 453
£825,000 i £849,999 398
£850,000 i £874,999 416
£875,000 i £899,999 316
£900,000 i £924,999 298
£925,000 i £949,999 248
£950,000 i £974,999 248
£975,000 i £999,999 251
£1,000,000 i £1,249,999 1,319
£1,250,000 i £1,499,999 863
£1,500,000 i £1,749,999 514
£1,750,000 i £1,999,999 289
£2,000,000 i £4,999,999 729
£5,000,000 i £9,999,999 97
Mwy na £10,000,000 23

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 146
£25,000 i £49,999 799
£50,000 i £74,999 2,026
£75,000 i £99,999 3,110
£100,000 i £124,999 3,021
£125,000 i £149,999 3,179
£150,000 i £174,999 2,896
£175,000 i £199,999 2,475
£200,000 i £224,999 2,097
£225,000 i £249,999 1,816
£250,000 i £274,999 1,609
£275,000 i £299,999 1,328
£300,000 i £324,999 1,068
£325,000 i £349,999 782
£350,000 i £374,999 649
£375,000 i £399,999 543
£400,000 i £424,999 434
£425,000 i £449,999 353
£450,000 i £474,999 281
£475,000 i £499,999 235
£500,000 i £524,999 166
£525,000 i £549,999 145
£550,000 i £574,999 127
£575,000 i £599,999 106
£600,000 i £624,999 94
£625,000 i £649,999 73
£650,000 i £674,999 94
£675,000 i £699,999 48
£700,000 i £724,999 43
£725,000 i £749,999 56
£750,000 i £774,999 32
£775,000 i £799,999 34
£800,000 i £824,999 27
£825,000 i £849,999 19
£850,000 i £874,999 24
£875,000 i £899,999 18
£900,000 i £924,999 16
£925,000 i £949,999 11
£950,000 i £974,999 14
£975,000 i £999,999 14
£1,000,000 i £1,249,999 62
£1,250,000 i £1,499,999 37
£1,500,000 i £1,749,999 21
£1,750,000 i £1,999,999 12
£2,000,000 i £4,999,999 8
£5,000,000 i £9,999,999 0
Greater than £10,000,000 0

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 0
£25,000 i £49,999 38
£50,000 i £74,999 279
£75,000 i £99,999 745
£100,000 i £124,999 1,035
£125,000 i £149,999 1,350
£150,000 i £174,999 1,129
£175,000 i £199,999 973
£200,000 i £224,999 590
£225,000 i £249,999 551
£250,000 i £274,999 389
£275,000 i £299,999 383
£300,000 i £324,999 260
£325,000 i £349,999 211
£350,000 i £374,999 186
£375,000 i £399,999 143
£400,000 i £424,999 105
£425,000 i £449,999 96
£450,000 i £474,999 79
£475,000 i £499,999 86
£500,000 i £524,999 44
£525,000 i £549,999 41
£550,000 i £574,999 35
£575,000 i £599,999 45
£600,000 i £624,999 24
£625,000 i £649,999 26
£650,000 i £674,999 9
£675,000 i £699,999 17
£700,000 i £724,999 14
£725,000 i £749,999 15
£750,000 i £774,999 12
£775,000 i £799,999 2
£800,000 i £824,999 3
£825,000 i £849,999 3
£850,000 i £874,999 1
£875,000 i £899,999 3
£900,000 i £924,999 4
£925,000 i £949,999 6
£950,000 i £974,999 3
£975,000 i £999,999 2
£1,000,000 i £1,249,999 6
£1,250,000 i £1,499,999 8
£1,500,000 i £1,749,999 2
£1,750,000 i £1,999,999 1
£2,000,000 i £4,999,999 1
£5,000,000 i £9,999,999 0
Greater than £10,000,000 0

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915