Beth i’w ystyried wrth brynu gwasanaethau ysgrifennu ewyllys
Bydd y canllawiau yma’n eich helpu i ystyried eich opsiynau wrth chwilio am wasanaethau ysgrifennu ewyllys.
Dogfennau
Manylion
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall y dewisiadau sydd ar gael pan fyddwch yn ysgrifennu ewyllys.
Erbyn hyn mae yna nifer opsiynau amgen i gwmnïau cyfreithwyr wedi’u rheoleiddio. Gall darparwyr amgen gynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys a allai fod yn fwy cyfleus, ac sydd o bosib yn rhatach hefyd.
Mae’n bwysig deall yr hyn rydych chi’n ei brynu, a’r gwahaniaethau rhwng y gwasanaethau sydd ar gael.
Mae’r CMA wedi cynhyrchu’r canllaw hwn er mwyn egluro beth i chwilio amdano wrth brynu gwasanaeth ysgrifennu ewyllys, gan gynnwys pethau fel:
- y gwahaniaethau rhwng darparwyr
- beth i’w cadw mewn cof wrth brynu’r gwasanaethau hyn
- ffynonellau cymorth posib os yw pethau’n mynd o’i le wedi i chi brynu
Dysgwch fwy am ein hymchwiliad i wasanaethau cyfreithiol heb eu rheoleiddio (in English).