Skip to main content
Canllawiau

Beth i'w ystyried wrth brynu gwasanaethau ysgrifennu ewyllys

Cyhoeddwyd 9 Hydref 2024

Cyflwyniad

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi cynhyrchu’r canllaw hwn i’ch helpu wrth brynu gwasanaethau ysgrifennu ewyllys.

Yn y DU, gall unrhyw un ysgrifennu ewyllys. Mae hyn yn golygu y gallwch ysgrifennu eich ewyllys eich hun neu ddewis busnes ysgrifennu ewyllys i’w hysgrifennu ar eich rhan.

Pa bynnag opsiwn a ddewiswch, mae’n bwysig eich bod chi’n deall beth rydych chi’n ei brynu, a’ch hawliau os aiff pethau o chwith.

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys:

  • eich opsiynau wrth ddewis ysgrifennwr ewyllys
  • beth i’w gofio wrth brynu gwasanaeth ysgrifennu ewyllys
  • ffynonellau cymorth posibl os bydd pethau’n mynd o chwith ar ôl eich pryniant

Nid canllaw cyffredinol ar ewyllysiau yw hwn, na chanllaw cyflawn ar eich hawliau fel defnyddiwr.

Am fwy o wybodaeth am wneud ewyllys a phwy i gysylltu ag ef am gyngor ar eich hawliau fel defnyddiwr, gweler y dolenni ar ddiwedd y canllaw hwn.

Dewis ysgrifennwr ewyllys

Mae rhai gwasanaethau cyfreithiol yn ‘weithgareddau neilltuol’ sy’n golygu mai dim ond gweithwyr proffesiynol cyfreithiol wedi’u rheoleiddio, fel cyfreithwyr, all eu cyflawni. Ar gyfer llawer o weithgareddau eraill - fel ysgrifennu ewyllysiau - nid oes unrhyw gyfyngiadau yn y gyfraith ar bwy all gyflawni’r rhain.

Er ei bod hi’n ddefnyddiol cael amrywiaeth o opsiynau, mae’n bwysig eich bod chi’n dewis yr opsiwn sy’n iawn i chi.

Yn gyffredinol, mae eich opsiynau ar gyfer ysgrifennu ewyllys yn cynnwys:

  • ei hysgrifennu eich hun
  • defnyddio gweithiwr proffesiynol wedi’i reoleiddio i fod yn ysgrifennwr eich ewyllys
  • defnyddio ysgrifennwr ewyllysiau proffesiynol heb ei reoleiddio

Mae enghreifftiau ar Gwneud ewyllys: Ysgrifennwch eich ewyllys (in English), gan gynnwys pryd i gael cyngor proffesiynol os nad yw eich ewyllys yn syml.

Rydych wedi’ch diogelu gan gyfraith diogelu defnyddwyr gyffredinol pa bynnag fath o ddarparwr a ddewiswch.

Gwahaniaethau rhwng ysgrifenwyr ewyllys

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod gwahaniaethau rhwng y gwasanaethau ysgrifennu ewyllys sydd ar gael. Nid yw un math o reidrwydd yn well nag un arall, a chi sydd i benderfynu a yw’r pris, yr ansawdd, y profiad, y wybodaeth a’r diogeliadau sydd ar gael yn diwallu eich anghenion.

Gweithwyr proffesiynol wedi’u rheoleiddio

Mae rhai ysgrifenwyr ewyllys yn cynnig gwasanaethau fel rhan o bractis cyfreithiol wedi’i reoleiddio (er enghraifft, cwmni cyfreithwyr). Mae gwahanol reoleiddwyr yn dibynnu ar ba ran o’r DU rydych chi’n byw ynddi (gweler isod am fwy o fanylion).

Os yw ysgrifennwr yr ewyllys wedi’i reoleiddio mae hyn yn golygu:

  • mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn codau ymddygiad a gofynion a osodwyd gan eu rheoleiddiwr, gan gynnwys y safonau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau y mae’n rhaid iddyn nhw eu bodloni
  • gallech gwyno i’r Ombwdsmon Cyfreithiol (yng Nghymru a Lloegr) neu Gomisiwn Cwynion Cyfreithiol yr Alban (yn yr Alban) neu Gymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon, am rai problemau gyda’r gwasanaeth a gewch, os nad yw’r busnes ei hun yn eu datrys.
  • efallai y bydd gennych fynediad at iawndal naill ai drwy yswiriant ysgrifennwr yr ewyllys ei hun neu drwy gynllun iawndal rheoleiddiwr cyfreithiol

Ysgrifenwyr ewyllys proffesiynol heb eu rheoleiddio

Gallwch hefyd ddewis ysgrifennwr ewyllys proffesiynol nad yw wedi’i reoleiddio ac a allai gynnig dewis arall am bris is. Mae rhai ysgrifenwyr ewyllys yn perthyn i gyrff hunan-reoleiddiol sydd â’u rheolau, eu gwasanaethau trin cwynion a’u safonau hyfforddi eu hunain.

Mae rhestr o gyrff hunan-reoleiddiol ar ddiwedd y canllaw hwn.

Beth y dylech ei wybod cyn i chi brynu gwasanaeth ysgrifennu ewyllys

Cael y wybodaeth gywir

Gwiriwch a yw ysgrifennwr yr ewyllys wedi’i reoleiddio, neu’n aelod o gorff hunan-reoleiddiol, drwy fynd ar wefan y rheoleiddiwr neu’r corff hunan-reoleiddiol (adolygwch y dolenni ar ddiwedd y canllaw hwn).

Gall rhai busnesau sy’n ysgrifennu ewyllys ymddangos ar wefan rheoleiddiwr oherwydd eu bod yn cyflogi gweithwyr proffesiynol wedi’u rheoleiddio, ond efallai nad yw’r busnes ei hun wedi’i reoleiddio. Gall hyn fod yn wir, er enghraifft, am rai busnesau yng Nghymru a Lloegr sy’n ymddangos ar wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

Disgrifiad o’r ddelwedd: mae’r darlun hwn o wefan cyfreithiwr yn dangos tic gwyrdd ac mae arwyddlun ‘cwmni a reoleiddir gan yr SRA’ i’w weld yn glir.

Byddwch chi’n gallu dweud a yw’r busnes cyfan yn cael ei reoleiddio gan yr SRA oherwydd bydd tic gwyrdd ganddo a ‘cwmni a reoleiddir gan yr SRA’ wrth ei enw ar dudalen Cofrestr Cyfreithwyr (in English) yr SRA (ac efallai y bydd ganddo logo’r SRA ar ei wefan ei hun hefyd, y gellir clicio arno).

Waeth beth fo’u statws, mae’n bwysig bod ysgrifenwyr yn rhoi’r wybodaeth gywir i chi i’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus.

Os nad ydyn nhw eisoes wedi rhoi’r wybodaeth hon i chi, gofynnwch i ysgrifennwr yr ewyllys – pwy bynnag ydyn nhw – am fanylion a thystiolaeth:

  • unrhyw gymwysterau, hyfforddiant neu brofiad sydd ganddyn nhw
  • unrhyw hyfforddiant neu ddatblygiad parhaus y maent yn ei gynnal
  • eu statws (er enghraifft, a ydyn nhw’n ysgrifennwr ewyllys proffesiynol, yn gyfreithiwr, yn weithiwr proffesiynol cyfreithiol arall, neu’n gynrychiolydd gwerthu?)
  • eu proses trin cwynion a pha opsiynau sydd ar gael i chi os aiff pethau o chwith
  • os oes ganddyn nhw yswiriant indemniad proffesiynol. Er enghraifft, mae rhai cyrff hunan-reoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i’w haelodau gael gwarchodaeth sydd o leiaf £2 filiwn. Os ddim, efallai na fyddwch chi’n gallu adennill iawndal gan y busnes os bydd pethau’n mynd o chwith
  • a yw’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu yn addas ar gyfer y rhan o’r DU rydych chi’n byw ynddi

Dylech hefyd wirio a yw ysgrifennwr yr ewyllys yn:

  • drafftio’r ewyllys i chi
  • defnyddio rhywun arall neu fusnes arall i ddrafftio’r ewyllys
  • rhoi templed y mae angen i chi ei lenwi (efallai trwy ffurflen ar-lein)

Os nad yw’n glir o’r wefan neu’r wybodaeth a ddarperir, gofynnwch y cwestiynau hyn i’r busnes a cheisiwch unrhyw eglurhad yn ysgrifenedig.

Chwiliwch o gwmpas a chymharwch ysgrifenwyr ewyllys er mwyn i chi allu gweld beth mae pob un yn ei gynnig. Os gallwch chi, ceisiwch gael dyfynbrisiau gan o leiaf 3 ysgrifennwr ewyllys gwahanol. Dylech chi feddwl a yw’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn iawn i chi a’ch amgylchiadau, gan efallai nad y dyfynbris rhataf yw’r un sy’n gweddu orau i’ch anghenion.

Byddwch yn glir ynglŷn â chostau’r gwasanaeth

Gwiriwch sut mae ffioedd y gwasanaeth ysgrifennu ewyllys yn cael eu cyfrifo. Er enghraifft:

  • os yw’n ffi untro, beth sydd wedi’i gynnwys neu wedi’i eithrio?
  • os yw ysgrifennwr yr ewyllys yn codi cyfradd fesul awr, a gytunwyd ar derfyn cost gyffredinol?
  • beth fyddwch chi’n ei dalu i gyd?

Mae yn erbyn y gyfraith i fusnesau hysbysebu pris ond i gyflwyno ffioedd ychwanegol wedyn (nad ydynt yn ddewisol) yn ddiweddarach yn y broses werthu. Os bydd hyn yn digwydd, cofiwch nad oes rhaid i chi dderbyn y gwasanaeth a gallwch gymharu prisiau â darparwyr eraill.

Tynnwch sgrin lun, lawrlwythwch gopi neu cadwch gopi caled o fanylion y gwasanaeth a’r dyfynbris a gawsoch, rhag ofn y bydd anghydfodau yn y dyfodol.

Efallai eich bod yn ymwybodol bod gwahanol gynlluniau yn cynnig ewyllysiau am ddim – er enghraifft, Mis Ewyllysiau Am Ddim (sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mawrth a mis Hydref) a Chymorth Ewyllysiau (sy’n digwydd ym mis Tachwedd bob blwyddyn). Mae’r rhain fel arfer yn cynnig talu cost ysgrifennu ewyllysiau syml neu sylfaenol ond yn gofyn am rodd wirfoddol i elusen. Os yw’n debygol y bydd eich ewyllys yn gymhleth, efallai y codir ffi felly dylech wirio ymlaen llaw. Dylech hefyd wirio’r pwyntiau eraill yn y canllaw hwn, sy’n dal yn berthnasol hyd yn oed os ewch chi drwy un o’r cynlluniau hyn.

Telerau ac amodau

Gall fod llawer o eiriau ac ymadroddion anghyfarwydd gydag ewyllysiau, a all eich drysu. Os ydych chi’n ansicr beth yw ystyr gair, peidiwch ag ofni gofyn i’r busnes ysgrifennu ewyllys egluro’r ystyr i chi mewn iaith glir.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall telerau ac amodau gwasanaeth ysgrifennu ewyllys a’u darllen yn ofalus cyn cofrestru ar gyfer unrhyw beth.

Rydym wedi tynnu sylw at rai gwefannau a allai eich helpu i ddeall y telerau hyn ar ddiwedd y canllaw hwn.

Mae yna hefyd rai pethau i edrych amdanynt, yn enwedig yn y print mân, a allai awgrymu nad yw’r busnes ysgrifennu ewyllys yn ddibynadwy. Er enghraifft, gallent:

  • ofyn i chi dalu ffioedd nad ydych wedi cytuno iddynt ymlaen llaw, neu newid prisiau heb eich cytundeb
  • rhoi terfyn annheg ar faint o ad-daliad (neu iawndal) mae’n rhaid iddynt ei dalu os ydynt yn achosi i rywbeth fynd o’i le gyda’ch ewyllys. Er enghraifft, gall busnes ddweud mai dim ond hyd at swm penodol (fel cost yr ewyllys) maent yn atebol amdano, pan allai’r colledion o ewyllys a ddrafftiwyd yn wael fod yn llawer mwy na hynny
  • gofyn i chi lofnodi ymwadiad sy’n rhoi pwysau arnoch i brynu gwasanaeth nad oes ei angen arnoch neu nad ydych ei eisiau
  • honni bod ganddyn nhw arbenigwyr cyfreithiol a fydd yn gwirio’ch ewyllys, ond yna’n dweud yn eu print mân nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn darparu cyngor cyfreithiol

Gwasanaethau neu gostau ychwanegol

Gall rhai ysgrifenwyr ewyllys gynnig gwasanaethau eraill ochr yn ochr â drafftio ewyllys. Er eich bod yn cael gwybod am y gwasanaethau ychwanegol hyn, nid ydynt yn angenrheidiol ar gyfer ewyllys ddilys.

Gallai hyn gynnwys ysgrifennwr ewyllys yn cynnig cael ei benodi’n ysgutor yr ewyllys. Mae ysgutor yn unigolyn a enwir mewn ewyllys sy’n trefnu ystâd yr unigolyn a fu farw ac yn cyflawni ei ddymuniadau. Codir tâl ar eich ystâd am ddefnyddio ysgutor proffesiynol pan fydd angen y gwasanaethau yn y pen draw.

Gallech ddewis rhywun o’ch teulu i fod yn ysgutor yn lle hynny. Efallai y bydd rhai yn penderfynu dewis ysgutor proffesiynol, ond nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol a bydd costau ychwanegol wrth ddefnyddio ysgutor proffesiynol.

Mae rhai pethau i’w cofio wrth ystyried dewis ysgutor:

  • byddai newid eich meddwl yn ddiweddarach yn gofyn am ddiwygiadau i’ch ewyllys a gallai olygu costau gweinyddol
  • yn dibynnu ar delerau’r penodiad, efallai y codir ffioedd nad oeddech yn eu disgwyl ar eich ystâd
  • efallai na fydd yn hawdd i’ch buddiolwyr gytuno ar ysgutor newydd (a gall rhai ysgutorion proffesiynol godi ffi am gamu o’r neilltu)
  • efallai na fydd gan ysgutor ganiatâd cyfreithiol i gamu o’r neilltu os ydyw wedi dechrau cyflawni’r rôl
  • os oes gennych ewyllys wedi’i drafftio nawr gan enwi ysgutor nad yw’n broffesiynol (fel aelod o’r teulu), bydd hyn yn caniatáu iddynt benderfynu a ddylen nhw gael cyngor proffesiynol yn y dyfodol os bydd ei angen arnyn nhw, yn hytrach nag ymrwymo nawr

Efallai y cewch eich gwahodd i brynu gwasanaethau eraill hefyd, fel storio ewyllysiau, tanysgrifiadau diweddariadau ewyllysiau a gwasanaethau cynllunio ystadau cymhleth.

Cofiwch, er eich bod o bosibl yn cael gwybod am y gwasanaethau ychwanegol hyn, nid ydynt yn angenrheidiol gydag ewyllys ddilys ac nid oes rhaid i chi brynu’r gwasanaethau hyn gan yr un busnes sy’n ysgrifennu eich ewyllys.

Rhai pwyntiau i’w cofio ynglŷn â gwasanaethau neu gostau ychwanegol:

  • gall gwasanaethau cynllunio ystadau ac ymddiriedolaethau fod yn gymhleth a chynnwys gwahanol elfennau. O ran y gwasanaethau hyn, ni ddylech wneud unrhyw benderfyniadau brysiog. Ystyriwch gael ail farn a/neu wneud eich ymchwil eich hun cyn prynu. Gall fod canlyniadau difrifol anfwriadol os nad yw’r cynhyrchion hyn yn addas ar gyfer eich amgylchiadau.
  • mae’n bwysig storio copi gwreiddiol ewyllys yn ddiogel ac yn saff. Ewch i’r dolenni ar ddiwedd y canllaw hwn am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i storio ewyllys gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF)
  • ar gyfer gwasanaethau storio ewyllysiau - gwiriwch ble mae copi gwreiddiol papur yr ewyllys am gael ei storio, cost hyn a beth fydd yn digwydd i’r ewyllys os bydd y busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu. Efallai yr hoffech hefyd ofyn a oes ffioedd am dynnu’r ddogfen o’r storfa, er enghraifft os oes angen i chi ddiwygio’ch ewyllys
  • mae rhai busnesau’n cynnig gwasanaethau tanysgrifio (er enghraifft, mewn perthynas â storio ewyllysiau neu ddiweddariadau ewyllysiau). Os cynigir gwasanaeth tanysgrifio i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn glir ynghylch a fydd y tanysgrifiad yn adnewyddu’n awtomatig, sut y codir tâl arnoch, a sut allwch ganslo’r tanysgrifiad cyn ac ar ôl iddo adnewyddu
  • yn olaf, gwiriwch unrhyw dudalennau gwe gwerthiannau neu gontractau i sicrhau nad ydych chi’n cael eich cofrestru’n awtomatig am unrhyw wasanaethau ychwanegol (er enghraifft, gall rhai busnesau roi tic mewn blwch ticio yn awtomatig i ddweud ‘ie’ i wasanaeth nad ydych chi ei eisiau mewn gwirionedd)

Gwybod eich hawliau

Os ydych chi’n ystyried prynu gwasanaeth ysgrifennu ewyllys ond eisiau trafod hyn, efallai yr hoffech ofyn ymlaen llaw pa mor hir fydd unrhyw apwyntiad a sicrhau bod y cynrychiolydd busnes yn cadw at yr amser hwn.

Ni ddylech gael eich rhoi dan bwysau i brynu ewyllys nac unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â hyn. Os ydych chi, gofynnwch i’r gwerthwr neu’r ysgrifennwr ewyllys adael os yw’r sgwrs yn digwydd yn eich cartref, neu dywedwch eich bod chi’n dod â’r alwad i ben os yw’n digwydd dros y ffôn.

Os ydych chi’n cwrdd ag ysgrifennwr ewyllys gartref, ni ddylent aros yn hirach nag y maent wedi cytuno â chi neu’n hirach nag sy’n angenrheidiol. Os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus ar unrhyw adeg, dewch â’r apwyntiad i ben a gofynnwch i’r unigolyn adael.

Os ydych chi’n talu gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, efallai y byddwch chi’n gallu cael gafael ar rwymedïau ychwanegol (fel ad-daliad) yn uniongyrchol trwy’ch banc neu ddarparwr cerdyn credyd, er gall y diogeliadau amrywio rhwng darparwyr a mathau o gerdyn. Ewch i’r adnodd Ombwdsmon Ariannol (in English) hwn, er enghraifft, am ragor o wybodaeth.

Mae gennych hefyd gyfnod callio o 14 diwrnod i newid eich meddwl a derbyn ad-daliad llawn os ydych chi’n prynu gwasanaeth ysgrifennu ewyllys ar-lein, neu i ffwrdd o safle busnes yr ysgrifennwr ewyllys. Os oes angen ewyllys arnoch ar fwy o frys, gallwch ofyn i’r busnes ei darparu’n gynharach, ond efallai y byddwch chi’n colli’ch hawliau i ad-daliad wrth wneud hynny. Ni ddylai’r busnes roi pwysau arnoch i wneud cais o’r fath.

Os nad yw busnes wedi eich hysbysu am eich hawl i ganslo a sut i’w gweithredu, yna caiff y cyfnod o 14 diwrnod ei ymestyn hyd at flwyddyn neu bydd yn rhedeg o’r dyddiad y mae’r busnes wedi eich hysbysu am yr opsiwn hwnnw (os yw’n gynharach).

Os bydd pethau’n mynd o chwith ar ôl eich pryniant

Os bydd pethau’n mynd o chwith, neu os nad ydych chi’n fodlon ar y gwasanaeth a gewch, y busnes rydych chi wedi prynu gwasanaethau ysgrifennu ewyllys ganddo a ddylai fod y pwynt cyswllt cyntaf.

Os ydynt yn gorff wedi’i reoleiddio, neu’n aelod o gorff hunan-reoleiddiol, efallai y bydd mathau eraill o gefnogaeth a chymorth ar gael. Mae dolenni isod i wefannau rheoleiddwyr gwasanaethau cyfreithiol a chyrff hunan-reoleiddiol ar gyfer ysgrifenwyr ewyllysiau.

Pwy i gysylltu ag ef i gael cyngor ar eich hawliau o dan gyfraith diogelu defnyddwyr

Os oes angen help arnoch gyda phroblem defnyddwyr yng Nghymru a Lloegr, gallwch:

  • ffonio gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
  • siarad â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 0808 223 1144

Gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Yn ogystal â rhoi cyngor i chi, gall y gwasanaeth defnyddwyr drosglwyddo gwybodaeth am gwynion i Safonau Masnach. Gallwch hefyd:

Yn yr Alban, gallwch gysylltu ag Advice Direct Scotland:

  • dros y ffôn: 0808 164 6000
  • drwy fynd i advice.scot (in English)

Gallwch hefyd gysylltu â Chyngor ar Bopeth yr Alban:

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â Consumerline:

  • dros y ffôn: 0300 123 6262
  • drwy fynd i Consumerline (in English)

Adnoddau pellach

Ffynonellau cyngor ar wneud ewyllys

Gwneud ewyllys: Trosolwg (www.gov.uk) (in English)

Gwneud ewyllys - Cyngor ar Bopeth (in English)   

Ewyllysiau - Cyngor ar Bopeth (in English) (Yr Alban)

Gwneud ewyllys - nidirect (in English) (Gogledd Iwerddon)

Gwneud Ewyllys – Cofiwch Elusen (in English)  

Sut i storio ewyllys gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) (in English)

Cyrff hunan-reoleiddiol ar gyfer ysgrifenwyr ewyllys

Noder: sefydliadau ‘hunan-reoleiddiol’ gwirfoddol a ffurfiwyd gan fusnesau yn y sector yw’r cyrff isod. Mae gofynion aelodaeth pob corff yn amrywio.

Rydym yn eu rhestru yma i gyfeirio atynt. Nid yw safbwyntiau’r sefydliadau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn y CMA. Nid yw’r CMA yn gyfrifol am y cynnwys sydd ar wefannau eraill ac nid yw’n ei gymeradwyo.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:

Cymdeithas yr Ysgrifenwyr Ewyllysiau (in English)  

Sefydliad yr (in English) Ysgrifenwyr Ewyllysiau Proffesiynol (in English) (IPW) (in English) Mae gan Sefydliad yr Ysgrifenwyr Ewyllysiau Proffesiynol God Ymarfer i’w aelodau sydd wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig. Am ragor o wybodaeth am hyn, ewch i: Sefydliad yr (in English) Ysgrifenwyr Ewyllysiau Proffesiynol (in English) - Y Cynllun Cod Cymeradwy (tradingstandards.uk) (in English)

Yn yr Alban:

Sefydliad (in English) Ysgrifenwyr Ewyllysiau Proffesiynol yr Alban (in English) (ISPW) (in English)  

Cymdeithas Ysgrifenwyr Ewyllysiau’r Alban (in English)  

Ar draws y DU:

Sefydliad Ymarferwyr Olyniaeth ac Ymddiriedolaethau Ystadau Prydain (BEST) (in English)  

Cymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (STEP) (in English)

Rheoleiddwyr gwasanaethau cyfreithiol

Nodyn: gall rhai ysgrifenwyr ewyllysiau gael eu rheoleiddio gan reoleiddwyr nad ydynt yn ymwneud â’r gyfraith, fel yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (in English)   

Rheoliad CILEx (in English)  

Cymdeithas Cyfraith yr Alban (in English)  

Cymdeithas Cyfraith Gogledd Iwerddon (in English)   

Sefydliadau sy’n trin cwynion ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheoledig

Ombwdsmon Cyfreithiol (in English)  

Comisiwn Cwynion Cyfreithiol yr Alban (in English)  

Cymdeithas Cyfraith Gogledd Iwerddon (lawsoc-ni.org) (in English)  

Nid yw’r deunyddiau hyn yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.