Canllawiau

Hydref 2018: Cylchlythyr ymgysylltu â landlordiaid Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd 1 April 2020

Mae’r cylchlythyr Credyd Cynhwysol hwn wedi’i anelu i ddarparu gwybodaeth gyfredol i landlordiaid cymdeithasol a phreifat am Gredyd Cynhwysol.

Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth i landlordiaid yn rheolaidd, darllenwch y fersiwn diweddaraf o’r Canllaw Credyd Cynhwysol a’r Sector Tai ar Rent a defnyddiwch y ffurflen UC47 diweddaraf i wneud cais am daliad o rent o Gredyd Cynhwysol y tenant.

1. Rhybuddion e-bost ar GOV.UK

Mae rhybuddion e-bost yn ffordd dda iawn o dderbyn gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol sydd wedi cael ei ddiweddaru ar GOV.UK.

I lofnodi am rybuddion e-bost ewch i waelod unrhyw dudalen GOV.UK a chlicio ar ‘publications’ yng ngwaelod dde y dudalen. Ar y dudalen nesaf, i lawr yr ochr chwith gallwch ddewis yr hidlwyr perthnasol i nodi beth rydych eisiau derbyn diweddariadau amdanynt, yna dewiswch e-bost a chwblhewch fanylion e-bost.

Os byddwch yn gwneud hyn ar gyfer y ddolen uchod, bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn fersiynau newydd o’r newyddlen hon pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

2. Diweddariadau cyffredinol

2.1 Credyd Cynhwysol: Cyllideb 2018

Yn dilyn y gyllideb ar 29 Hydref 2018, cyhoeddodd Trysorlys EM bapur polisi o’r enw ‘Universal Credit: Budget 2018 brief’. Cyhoeddodd hwn gynnydd o £1,000 yn y lwfansau gwaith o fewn Credyd Cynhwysol, a chymorth ychwanegol i unigolion sy’n symud i’r budd-dal newydd.

Darllenwch y Universal Credit: Budget 2018 brief

2.2 Am y canllaw Credyd Cynhwysol a thai rhent ar gyfer landlordiaid

Mae’r canllaw Credyd Cynhwysol a thai rhent ar gyfer landlordiaid yn ddogfen sy’n darparu gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i landlordiaid y sector breifat a chymdeithasol i’w helpu i ddeall beth y gallent ei wneud i helpu eu tenantiaid baratoi am:

  • symud drosodd i’r taliad misol sengl o Gredyd Cynhwysol
  • gwneud taliadau uniongyrchol o’u costau tai (rhent) yn syth i’w landlordiaid eu hunain

Mae hefyd yn egluro pa gymorth gyda thaliadau a chyllidebu sydd ar gael i denantiaid sy’n symud i’r system newydd.

Mae hyn yn cynnwys trefniadau talu amgen os yw hawlwyr yn ei chael yn anodd talu eu landlordiaid eu hunain.

Mae’n cynnwys gwybodaeth i landlordiaid yn cynnwys:

  • talu rhent
  • gofynion tystiolaeth a gwirio ceisiadau
  • talu am 2 gartref
  • taliadau gwasanaeth
  • cymorth a Threfniadau Talu Amgen (APA)
  • adfer ôl-ddyledion o gais UC
  • Cymorth Cyllidebu
  • taliadau tai dewisol
  • anghenion llety arbenigol

Mwy o wybodaeth am Credyd Cynhwysol a landlordiaid.

3. Gweithdrefn uwch gyfeirio gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ar gyfer trydydd parti

Os oes gennych broblem o fewn gwasanaeth llawn UC sy’n berthnasol i denant, cais neu daliad penodol yna dylech, yn y lle cyntaf, geisio ei ddatrys gyda’ch tenant a fydd efallai yn gallu ei ddatrys drwy ddefnyddio cyfleuster y dyddlyfr ar-lein.

Os nad yw hyn yn bosib neu mae’r broblem yn dal heb ei ddatrys, yna gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth.

3.1 Canolfan gwasanaeth

Ffôn : 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Ar gyfer gwasanaeth llawn UC rydym fel arfer angen caniatâd penodol gan yr hawlydd i siarad â darparwr/sefydliad partner. Gallant ddarparu hwn drwy eu dyddlyfr yn eu cyfrif digidol neu ar lafar i’r Ganolfan Gwasanaeth. Mae angen iddynt gynnwys y pwynt cyswllt ac enw’r sefydliad maent yn rhoi caniatâd i ni siarad â, a manylion byr am y broblem.

Mwy o fanylion ac enghreifftiau o wybodaeth y gellir ei ddatgelu heb ganiatâd penodol.

Os yw’r mater dal heb ei ddatrys ar ôl cymryd y camau uchod, yna gall y Trydydd Parti ei godi gydag unai’r Rheolwr Partneriaeth neu arweinydd tîm yr Anogwyr Gwaith yn y ganolfan gwaith leol.

Bydd Rheolwyr Partneriaeth ond yn delio ag ymholiadau neu gwestiynau cyffredinol. Bydd arweinydd tîm yr Anogwyr Gwaith yn delio â materion sy’n benodol i hawlwyr. Dylai’r weithdrefn uwch gyfeirio hwn ond gael ei ddefnyddio ar gyfer materion brys rydych wedi methu eu datrys gyda’r Ganolfan Gwasanaeth. Eich Rheolwr Partneriaeth lleol yw’r pwynt cyswllt ar gyfer y weithdrefn uwch gyfeirio.

Os nad ydych wedi clywed ganddynt dylech gysylltu â’ch Canolfan Gwaith leol neu Reolwr Partneriaeth.

3.2 Partneriaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau

Mae sut i gysylltu â thimau partneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban wedi cael ei ddiweddaru ar GOV.UK i gynnwys enwau cyswllt rheolwyr partneriaeth newydd.

Darganfyddwch fwy am bartneriaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau.

3.3 Ail hawlio

Derbyniwyd ymholiad gan landlord am y broses ar gyfer ail hawlio pan fydd hawlydd wedi derbyn dyfarniad o ddim. Hysbysir hawlwyr trwy eu dyddlyfr os oes ganddynt ddyfarniad o ddim a dywedir wrthynt am yr opsiwn i wneud cais newydd.

Bydd y dyddlyfr yn dangos sgrin newydd sy’n dweud wrth yr hawlydd bod eu cais ar gau ac yn cynnwys botwm i wneud cais newydd.

Pan fydd hawlydd yn clicio’r botwm i wneud cais newydd, bydd yn chwarae’n ôl eu hamgylchiadau fel nad oes angen iddynt roi manylion oni bai bod newid mewn amgylchiadau. Mae’n annhebygol y bydd angen i hawlydd ddod i mewn i’r ganolfan waith gan y dylai’r ID fod eisoes wedi cael ei dderbyn.

Efallai y bydd angen cyfarfod wyneb yn wyneb ar gyfer ymrwymiad hawlydd ond yn dibynnu ar eu grŵp amodoldeb efallai na fydd angen hynny.

Pan fydd hawlydd yn gwneud cais newydd o fewn chwe mis i gais gael ei gau, byddant yn cadw’r un Cyfnod Asesu (AP) â’r cais blaenorol a bydd y cais yn cael ei dalu o ddyddiad yr AP y maent yn ail hawlio.

4. Digwyddiadau i landlordiaid

Yn ddiweddar mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn rhan o gyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth i landlordiaid am Gredyd Cynhwysol mewn digwyddiadau cenedlaethol i landlordiaid.

Rydym yn edrych i adeiladu ar y gwaith cychwynnol rydym wedi’i wneud, materion sydd wedi codi a gwelliannau yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, Cymdeithas Landlordiaid Cenedlaethol, Cymdeithas Asiantau Gosod Preswyl a Rhwydwaith Ansawdd Tai i barhau i godi ymwybyddiaeth o UC gyda landlordiaid wrth symud ymlaen.

5. Trefniadau Talu Amgen (APA): Gwneud cais am daliad wedi’i reoli i landlord

5.1 Diweddariadau i’r Ffurflenni UC47

Mae’r ffurflenni UC47 wedi cael eu diweddaru i gynnwys blwch i ychwanegu cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt y landlord os oes angen cael gwybodaeth bellach.

Y ffurflen UC47 diweddaraf i wneud cais am daliad o rent allan o Gredyd Cynhwysol tenant.

Dylech sicrhau eich bod yn darparu’r wybodaeth hon wrth wneud cais am APA.

5.2 Cwblhau’r ffurflen UC47 cywir

Os ydych yn landlord preifat neu’n landlord cymdeithasol sydd heb gyfeiriad e-bost diogel ac rydych yn gwneud cais am Daliad Wedi’i Reoli i landlord (MPTL) oherwydd dyledion rhent o 2 fis, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen UC47 anniogel.

Os ydych yn gwneud cais am MPTL oherwydd ffactor haen 1 neu haen 2 arall yn unig, bydd angen i chi lenwi’r fersiwn ddiogel o’r ffurflen UC47 ac egluro eich rhesymau yn y blwch gwybodaeth ychwanegol.

Gellir dod o hyd i’r fersiwn diogel o’r ffurflen UC47 drwy ddewis ‘yes’ i’r cwestiwn ar GOV.UK ‘Does your email address contain any of the following?’ Bydd y cwestiwn hwn yn ymddangos unwaith y byddwch wedi rhoi cod post eich tenant i mewn.

Darganfyddwch fwy am Daliadau Uniongyrchol.

5.3 Proses newydd ar-lein i wneud cais am APA a fydd yn disodli’r UC47

Rydym yn datblygu proses symlach ar gyfer landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol sydd ddim ar borth y landlord i ofyn am daliad wedi’i reoli i landlord trwy GOV.UK.

Proses ar-lein yw hwn, er mwyn galluogi casglu gwybodaeth yn ddiogel a gwneud i ffwrdd gyda’r angen am y fersiynau gwahanol o’r ffurflenni UC47, trwy gyfrwng e-bost diogel/anniogel a/neu drwy’r post. Mae diogelwch wrth wraidd y broses newydd hon, i gasglu’r rheswm dros yr APA a manylion banc y landlord yn ddiogel.

Mae profion defnyddwyr yn digwydd gyda landlordiaid i roi adborth ar y dyluniad. Byddwn yn eich diweddaru mewn cylchlythyrau yn y dyfodol fel mae’r gwaith hwn yn datblygu.

6. Rheolaethau’r Ddeddf Diwygio Lles 2012

Ar 20 Gorffennaf 2018 ychwanegwyd dolen i’r Ddeddf Diwygio Lles 2012 - yn newid Gorchymyn Cychwyn Rhif 881 (C. 68) sy’n darparu ar gyfer yr ehangu diwethaf o Wasanaeth Digidol Credyd Cynhwysol i fwy o godau post rhwng 5 Medi 2018 a 12 Rhagfyr 2018.

LA Welfare Direct bulletins: 2018.

6.1 Anfon e-bost i fewnflwch gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol

Os ydych angen anfon e-bost i fewnflwch y gwasanaeth llawn (fel anfon ffurflen UC47), edrychwch i weld eich bod yn anfon eich e-bost i’r cyfeiriad cywir.

e-bost: ucfull.service@dwp.gsi.gov.uk

7. Ystadegau Credyd Cynhwysol

Mae’r cyhoeddiad diwethaf o ystadegau Credyd Cynhwysol dyddiedig Medi 2018 yn cynnwys diweddariad o wybodaeth am ffynhonnell yr ystadegau a gwybodaeth newydd am daliadau wedi’u rhannu a thaliadau mwy aml.

8. Newidiadau i Gymorth Cynhwysol o Ebrill 2019

O Ebrill April 2019 bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ariannu Cyngor ar Bopeth i gyflenwi gwell gwasanaeth o Gymorth Cynhwysol.

Darganfyddwch am Gyngor ar Bopeth yn darparu cymorth i hawlwyr Credyd Cynhwysol.

8.1 Cynllun taliadau trydydd parti

Mae landlordiaid cymdeithasol yn cael eu MPTL wedi’i dalu ac adfer ôl-ddyledion rhent drwy ddefnyddio cynllun taliadau trydydd parti. Ar gyfer landlordiaid preifat mae adfer ôl-ddyledion rhent yn cael ei wneud drwy ddefnyddio cynllun taliadau trydydd parti.

Gwybodaeth bellach mewn perthynas â’r Cynllun taliadau trydydd parti a rhif cyfeirnod credydwr.

Mae hyn yn cynnwys:

  1. llawlyfr i gredydwyr – arweiniad
  2. ffurflen i newid manylion cyfeiriad credydwr
  3. ffurflen i newid manylion banc credydwr
  4. ffurflen i newid rhif cyfeirnod cwsmer

9. Gwybodaeth ar gyfer landlordiaid sector rhentu cymdeithasol

9.1 Porth Landlordiaid a Phartner Ymddiriedig

Fel ar y 10 Hydref 2018, mae 470 o landlordiaid wedi ymrestru ar y porth, sy’n cynnwys y landlord cyntaf yng Ngogledd Iwerddon.

Rydym yn anelu i wneud y porth landlordiaid ar gael i 90% o landlordiaid cymdeithasol erbyn Rhagfyr 2018. Yn ychwanegol rydym yn cynllunio sut y gallwn gwblhau’r ymrestru ar gyfer landlordiaid bychan.

Mae’r rhestr o landlordiaid sydd â mynediad i’r porth yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn llyfrgell aelodau’r Tŷ Cyffredin.

Rhestr o’r landlordiaid sydd wedi ymrestru ar y porth landlordiaid a phartner ymddiriedig.

9.2 Trosglwyddiadau o wasanaeth byw Credyd Cynhwysol i’r gwasanaeth llawn

Bydd hawlwyr yn methu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol mewn ardaloedd gwasanaeth byw ar ôl 31 Rhagfyr 2018. Os yw hawlwyr eisoes yn cael Credyd Cynhwysol mewn ardal gwasanaeth byw, byddant yn rheoli eu cais dros y ffôn.

Yn y pen draw bydd ceisiadau gwasanaeth byw yn symud i’r gwasanaeth llawn. Bydd hawlwyr gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol yn cael eu hysbysu pan fydd hyn yn digwydd a beth fydd angen iddynt ei wneud y pryd hynny.

Er mwyn trosglwyddo hawlwyr yn llwyddiannus i’r gwasanaeth llawn, mae’n rhaid i hawlwyr ail ddatgan eu costau tai. Ar gyfer hawlwyr mewn eiddo yn y sector rhentu cymdeithasol bydd angen i’r landlord ail gadarnhau eu costau tai er mwyn i daliadau barhau.

Ar 9 Gorffennaf 2018, ysgrifennom at y Ffederasiynau Tai, ynghylch yr effaith ar landlordiaid pan fydd hawlwyr yn trosglwyddo o wasanaeth byw Credyd Cynhwysol i wasanaeth llawn a’r gweithgarwch oedd ei angen.

Bydd rheolwyr partneriaeth yn cefnogi landlordiaid wrth baratoi ar gyfer y trosglwyddiad hwn a byddant yn gallu darparu’r dyddiadau pryd y bydd y trosglwyddiad hwn yn digwydd.

Darganfyddwch fwy am y trosglwyddo o wasanaeth byw i’r gwasanaeth llawn

9.3 Bwletinau lles i awdurdodau lleol: 2018

Mae bwletin lles newydd i ALlau sy’n darparu gwybodaeth sy’n effeithio ar Fudd-dal Tai a meysydd eraill o’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer staff awdurdodau lleol wedi cael ei gyhoeddi ar GOV.UK.

Darllenwch Local Authority Welfare Direct Bulletins: 2018.

9.4 Cylchlythyrau’r dyfodol i landlordiaid Credyd Cynhwysol

Rydym yn gobeithio eich bod wedi canfod y cylchlythyr hwn yn ddefnyddiol. Os oes unrhyw beth penodol yr hoffech ei weld yn rhifynnau’r cylchlythyr hwn yn y dyfodol, dylech anfon e-bost at:

uc.strategiclandlordengagement@dwp.gsi.gov.uk