Publication

Credyd Cynhwysol: sut y mae'n helpu eich cyflogeion a’ch gweithwyr

Updated 25 February 2019

1. Cyflwyniad

Os ydych yn gyflogwr neu’n recriwtiwr, gall y wybodaeth hon eich helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan eich cyflogeion a gweithwyr am Gredyd Cynhwysol.

2. Cymorth Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn eich helpu os ydych ar gyflog isel trwy ychwanegu at eich enillion. Os yw eich enillion yn newid, bydd eich ychwanegiad at Gredyd Cynhwysol yn newid yn awtomatig i helpu i sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith.

Bydd swm y Credyd Cynhwysol a gewch yn lleihau yn raddol wrth i chi ennill mwy, ond yn wahanol i Lwfans Ceisio Gwaith ni fydd eich taliad yn stopio dim ond oherwydd eich bod yn gweithio mwy na 16 awr yr wythnos.

3. Cymryd sifftiau ychwanegol neu weithio mwy o oriau

Os oes oriau ychwanegol ar gael gan eich cyflogwr, mae’n werth cymryd y rhain oherwydd bod eich Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich incwm ac nid nifer yr oriau rydych yn eu gweithio.

Mae hyn yn golygu na fydd eich Credyd Cynhwysol yn dod i ben dim ond oherwydd eich bod yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Gallwch ennill swm penodol, sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau unigol, cyn y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau. Unwaith y byddwch yn ennill dros y swm hwnnw bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau ar gyfradd gyson.

Po fwyaf y byddwch yn ei ennill, po fwyaf fydd cyfanswm eich incwm sy’n helpu i sicrhau y byddwch yn well eich byd mewn gwaith nag ar fudd-daliadau.

Unwaith y byddwch yn ennill digon o arian drwy waith, ni chewch Credyd Cynhwysol. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i chi yn awtomatig os yw hwn yw’r achos, a bydd eich cais yn dod i ben.

Os oes angen i ddod yn ôl i Credyd Cynhwysol o fewn 6 mis i’ch cais blaenorol ddod i ben, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei gwneud yn hawdd i chi wneud hynny.

4. Beth fydd yn digwydd os bydd fy enillion yn newid bob mis?

Mae’r swm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn newid yn awtomatig os bydd eich cyflog mynd adref yn newid. Os yw eich cyflogwr neu asiantaeth recriwtio ar y system Talu Wrth Ennill (TWE) Gwybodaeth Amser Real (RTI), bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei addasu yn awtomatig bob mis i gymryd i ystyriaeth yr enillion rydych wedi’u cael.

Os nad ydynt ar y system, rhaid i chi hysbysu eich cyflog mynd adref bob mis i’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol.

5. Taliadau bonws

Yn y rhan fwyaf o achosion, asesir unrhyw daliadau bonws a gewch ynghyd â’ch cyflog, a gallai leihau faint o Gredyd Cynhwysol a gewch y mis hwnnw.

Fel arfer, byddwch yn parhau ar Gredyd Cynhwysol yn awtomatig ar gyfer y taliad nesaf. Fodd bynnag, os oedd y bonws mor fawr i effeithio ar eich hawl i gael Credyd Cynhwysol, yna bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn darparu dull syml lle gallwch ddychwelyd i hawlio Credyd Cynhwysol.

6. Newid mewn amgylchiadau

Chi sy’n gyfrifol am hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau am bob newid i’ch amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw gyfnodau o waith, neu newidiadau i’ch oriau gwaith.

Os ydych angen rhoi gwybod am newid neu os oes gennych ymholiad am eich taliad Credyd Cynhwysol dylech:

  • fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes gennych un
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol os nad oes gennych gyfrif ar-lein

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffoniwch: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 6pm

Darganfod am gostau galwadau

7. Help gyda gofal plant

O dan Gredyd Cynhwysol gallwch gael help gyda chostau gofal plant, hyd yn oed os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.

Gallwch hawlio’n ôl hyd at 85% o gostau gofal plant cofrestredig a dalwyd, hyd at derfyn misol o £646 ar gyfer un plentyn, neu £1108 am ddau neu fwy o blant.

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith pan fydd gennych gynnig swydd pendant oherwydd efallai y gallwch hawlio costau gofal plant am o leiaf mis cyn i’r swydd ddechrau.

Gall hyn helpu gyda chael trefn yn ei le. Gallwch hefyd hawlio am o leiaf mis ar ôl i’ch gwaith ddod i ben, a all eich helpu i gynnal gofal plant wrth i chi symud rhwng swyddi.

*{TWE]: Talu Wrth Ennill