Publication

Welsh: Credyd Cynhwysol ar gyfer staff Adnoddau Dynol a chyflogres

Updated 11 April 2016

1. Credyd Cynhwysol ar gyfer recriwtwyr

Mae Credyd Cynhwysol yn eich helpu yn ystod eich proses recriwitio oherwydd mae’n:

  • darparu ymgeiswyr sydd wedi’u paratoi’n well – bydd ceiswyr gwaith yn derbyn sgiliau paratoi am waith, digidol a chyllidebu a byddant yn fwy parod yn ariannol ar gyfer y byd gwaith, yn dod o system taliad misol
  • darparu cronfa ehangach o ymgeiswyr – bydd ceiswyr gwaith sy’n chwilio am waith tymor byr, rhan-amser neu afreolaidd yn parhau i gael eu cefnogi trwy Gredyd Cynhwysol tra bod eu cyflog yn isel
  • creu ymgeiswyr hyblyg – bydd ceiswyr gwaith yn fwy agored i waith tymor byr neu oriau afreolaidd. Mae eu cais yn aros ar agor ac os ydynt ar gyflog isel, bydd Credyd Cynhwysol yn ychwanegu at eu henillion
  • dim ond yn lleihau’n raddol ar ddechrau gweithio – bydd ceiswyr gwaith yn cael cadw mwy o’r arian maent yn ei ennill, diben Credyd Cynhwysol yw incwm nid oriau, felly ni fyddant yn colli eu holl fudd-daliadau ar unwaith (mae’r rheol ‘16 awr ‘wedi mynd)
  • helpu gyda gofal plant, hyd yn oed cyn cymryd cynnig am swydd - gall ceiswyr gwaith gael cymorth gyda gofal plant waeth beth fo’r oriau maent yn eu gweithio; nid oes rhaid iddo fod dros 16 awr. Gall rhieni sy’n gweithio hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant cofrestredig a dalwyd

2. Credyd Cynhwysol ar gyfer rheolwyr Adnoddau Dynol

Mae Credyd Cynhwysol yn helpu i reoli cyfnodau prysur a thawel naturiol o fewn eich busnes.

Bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol sydd eisoes yn gweithio i chi yn gallu:

  • bod yn hyblyg ynghylch eu horiau – ni fydd yn rhaid i weithwyr boeni am golli eu budd-dal neu bod eu cais yn cael ei gau, bydd unrhyw newid yn y patrwm gwaith yn golygu bod Credyd Cynhwysol yn addasu yn unol â hynny
  • manteisio ar y cynnig o weithio goramser – bydd gweithwyr yn gweld hwb yn eu hincwm o dderbyn sifftiau ychwanegol ar adegau prysur, tra’n helpu chi i osgoi’r costau cyffredinol sy’n gysylltiedig â recriwtio a hyfforddi staff newydd
  • cynnydd i oriau llawn amser – bydd gweithwyr yn gallu gwneud hyn, er enghraifft, dros gyfnod prysur y Nadolig. Cânt eu hysbysu’n awtomatig os bydd eu henillion uwch yn golygu bod eu Credyd Cynhwysol yn dod i ben, ond os yw eu horiau’n lleihau o fewn chwe mis, mae’n hawdd iddynt gael Credyd Cynhwysol eto
  • derbyn unrhyw daliadau bonws a gynigir – bydd hyn yn cael ei asesu ochr yn ochr â chyflog gweithwyr. Gallai hyn leihau dros dro neu atal eu taliad Credyd Cynhwysol misol am gyfnod, ond mae’n hawdd iddynt gael Credyd Cynhwysol eto
  • cadw mewn cysylltiad â’u hanogwr gwaith – bydd gweithwyr yn parhau i gael cyfarfodydd rheolaidd lle bydd yr anogwr gwaith yn canolbwyntio ar fentora ac yn eu hyfforddi i gyflawni eu potensial drwy gynyddu eu horiau ac ennill mwy (yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol)

3. Credyd Cynhwysol ar gyfer staff cyflogres

Efallai y bydd Credyd Cynhwysol yn golygu newid i staff cyflogres a fydd angen:

  • anfon gwybodaeth HMRC TWE pan mae’r taliad yn cael ei wneud - mae hyn yn cael ei anfon i’r Adran Gwaith a Phensiynau a fydd yn ei gymryd i ystyriaeth o fewn asesiad Credyd Cynhwysol nesaf yr hawlydd. Dim ond unwaith fydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth hon, sy’n broses fwy effeithlon ac mae’n cael ei ddefnyddio gan CThEM a’r Adran Gwaith a Phensiynau
  • deall effaith talu bonws – asesir yr incwm ychwanegol hwn ochr yn ochr â’u cyflog. Gallai hyn leihau dros dro neu’n atal eu taliad Credyd Cynhwysol misol am gyfnod, ond mae’n hawdd iddynt gael Credyd Cynhwysol eto a byddant bob amser yn well eu byd yn ennill mwy
  • bod yn ymwybodol y gall gweithwyr fod yn hyblyg ynghylch cymryd mwy o oriau – bydd eu taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei addasu i gymryd hyn i ystyriaeth, os yw’r taliad ychwanegol hyn o’r gwaith yn ddigon i atal y taliad Credyd Cynhwysol, pan fydd eu hamgylchiadau yn newid, mae’n hawdd iddynt gael Credyd Cynhwysol eto

Mae hefyd yn bwysig nodi y bydd angen i hawlwyr gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd ganddynt am eu taliad Credyd Cynhwysol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i roi gwybod am TWE mewn amser real, ynghyd â sut i gael y feddalwedd gywir i wneud hynny, ar wefan CThEM.